Agenda item

Rhaglen Gyfalaf 2024/25 - 2026/27

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2024/25 - 2026/27 ar gyfer ei hadolygu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2024/25 - 2026/27 a oedd yn nodi buddsoddiadau hirdymor mewn asedau i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel gyda gwerth am arian, wedi ei rannu rhwng y tair adran: Statudol / Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad. Bydd copïau o sleidiau’r cyflwyniad sy’n ymdrin â’r meysydd canlynol yn cael eu rhannu ar ôl y cyfarfod:

 

·         Strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor

·         Rhaglen Gyfredol 2023/24 - 2025/26

·         Cyllid Rhagamcanol 2024/25 - 2026/27

·         Dyraniadau arfaethedig – Statudol / Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad

·         Crynodeb o’r Rhaglen (wedi’i hariannu’n gyffredinol)

·         Cynlluniau wedi’u hariannu’n benodol

·         Crynodeb o’r Rhaglen Gyfalaf

·         Cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol

·         Camau nesaf

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, siaradodd y Prif Weithredwr am y nod i nodi safle amgen addas ar gyfer canolfan ddigartrefedd, gyda chyllid Llywodraeth Cymru, i gael datrysiad tymor hir ar gyfer y ddarpariaeth yn Sir y Fflint. O ran y cwestiynau eraill, eglurodd y swyddogion nad yw’r rhestr o brosiectau posibl yn y dyfodol wedi’i chynnwys yn y rhaglen gan eu bod yn rhan o waith cynllunio strategol yn y tymor hirach. Rhannwyd gwybodaeth am yr adolygiad o stadau diwydiannol a’r angen i gynnal trafodaethau ar Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Sam Swash ynghylch costau sy’n gysylltiedig â Mynwent Penarlâg. Cadarnhawyd fod y swm a neilltuwyd i gaffael tir yn 2021/22 wedi’i gario drosodd dan y Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth yn y Rhaglen Gyfalaf tra bod y tir yn cael ei brynu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, rhannwyd manylion ynghylch estyniad mynwent Bwcle. Eglurodd y swyddogion cyllid y trefniadau ar gyfer delio gyda lithriant yn y Rhaglen Gyfalaf yn ymwneud â cheisiadau i gario cyllid drosodd a adroddwyd i’r Pwyllgor hwn.

 

Holodd y Cadeirydd am y cyfanswm ar gyfer gwaith adeiladu ysgolion, nad yw’n cyd-fynd â’r ffigyrau yn yr adrannau Asedau Statudol ac Asedau a Gedwir. O ran datblygu Gofal Preswyl Plant, dywedodd y dylid diweddaru ffigwr mis Hydref i adlewyrchu’r gorwariant presennol ar leoliadau y tu allan i’r sir. O ran paragraff 1.43, dywedodd y byddai goblygiadau refeniw cynlluniau arfaethedig yn y dyfodol yn ddefnyddiol er mwyn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod dull darbodus wedi’i gymryd ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf er mwyn diogelu’r sefyllfa refeniw i’r dyfodol, o ystyried maint yr heriau ariannol.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn:

 

(a)       Cefnogi’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2024/25-2026/27;

 

(b)       Cefnogi’r cynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 (paragraff 1.32) ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2024/25-2026/27;

 

(c)       Nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu cynlluniau yn 2024/25 a 2025/26 yn Nhabl 5 (paragraff 1.37) ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca fesul cam dros nifer o flynyddoedd yn cael eu hystyried yn ystod 2024/25, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol.

 

(d)       Cefnogi’r cynlluniau yn Nhabl 6 (paragraff 1.41) ar gyfer adran a ariennir yn benodol Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor a fydd yn cael eu hariannu’n rhannol drwy fenthyca; a

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes ganddo unrhyw sylw i’r Cabinet ei ystyried cyn i’r Cyngor ystyried yr adroddiad ar Raglen Gyfalaf 2024/25-2026/27.

Dogfennau ategol: