Agenda item

Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai

Pwrpas:        Ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2024/25 a’r Achos Busnes ar gyfer y CRT.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a’r Rheolwr Cyllid Strategol - Masnachol a Thai Gynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd drafft y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllideb arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl yn amlinellu’r meysydd canlynol:-

 

  • Targed carbon sero net Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer tai cymdeithasol;
  • Cynllun peilot CSFf i gyflawni carbon sero net ar gyfer tai cymdeithasol;
  • Tai cymdeithasol carbon sero net - Amcangyfrif achos busnes;
  • Rhenti;
  • Cynllun Busnes CRT - Pwysau ac Arbedion Effeithlonrwydd;
  • Fforddiadwyedd;
  • Rhenti – effaith gosod rhenti is na chap rhenti Llywodraeth Cymru;
  • Taliadau Gwasanaeth;
  • Cronfeydd wrth gefn;
  • Crynodeb

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin, er ei bod yn deall bod angen cynyddu lefelau rhent, roedd hi’n pryderu am y cynnydd arfaethedig o ran costau erialau, amlinellodd y gost bresennol a dywedodd nad oedd gan ddeiliaid contract ganiatâd i gaffael eu herialau eu hunain er mwyn dod â’r costau i lawr.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Asedau nad oedd gan ddeiliaid contract ganiatâd i osod eu herialau eu hunain oherwydd bod angen cydymffurfio â rheolau iechyd a diogelwch.  Roedd cost yr erial yn cynnwys pecyn eang a oedd yn cynnwys Sky, radio FM ac ati.  Lluniwyd cytundeb rhwng y Cyngor a chwmni sawl blwyddyn yn ôl, a hwn oedd y mwyaf cost-effeithiol ar y bryd ar gyfer hurbwrcasu ar rent.  Byddai’r contract yn dod i ben dros y blynyddoedd nesaf a byddai dewisiadau eraill yn cael eu hystyried i helpu i leihau costau.  Gellid adolygu costau erialau ar wahân.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am y wybodaeth a restrir yn yr adran am Safon Ansawdd Tai Cymru 2 (SATC2) a gofynnodd a oedd nifer o’r gwelliannau wedi’u cyfrif fel rhan o’r gwaith a wnaed dan Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).  Soniodd am y taliadau gwasanaeth a gofynnodd a oedd swyddogion yn teimlo bod tenantiaid yn cael gwerth am arian a rhoddodd enghraifft lle’r oedd pobl nad oeddent yn denantiaid yn defnyddio gwasanaethau mewn lleoliad yn ei ward.  Mynegodd bryder am y cynnydd o ran rhent a oedd yn ormodol yn ei farn ef yn ystod yr argyfwng costau byw presennol ac a fyddai’n effeithio ar denantiaid sy’n gweithio’n galed nad oeddent yn gymwys i gael cymorth â budd-daliadau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Asedau fod nifer o’r gwelliannau ar gyfer SATC2 wedi’u cynnwys yn rhaglen gynnal a chadw bresennol SATC.  Byddai SATC yn canolbwyntio ar fesurau datgarboneiddio i leihau costau rhedeg i denantiaid, a byddai hyn yn cael ei ariannu trwy incwm rhent.  Bu llawer iawn o fuddsoddiad mewn stoc tai dros y blynyddoedd blaenorol ond roedd LlC yn gofyn i Awdurdodau Lleol symud at waith effeithlonrwydd ynni bellach a chynhyrchu cynllun busnes i fodloni eu rhaglen datgarboneiddio.  O ran taliadau gwasanaeth, cynigiwyd bod adolygiad yn cael ei gynnal ar bob ardal golchi cymunedol ar draws y Sir. 

 

O ran y sylwadau am y cynnydd arfaethedig i renti, dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod angen cydbwyso buddsoddiad a fforddiadwyedd a dyma un o’r rhesymau pam fod cronfa galedi wedi’i sefydlu, a fyddai wedi’i thargedu at denantiaid a oedd yn talu rhent rhannol neu rent llawn ac nad oeddent yn gymwys i gael cymorth budd-daliadau. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:           

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi cyllideb y CRT ar gyfer 2024/25 fel a nodir yn yr adroddiad;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r isafswm cynnydd rhent arfaethedig o 6.5%;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd rhent garej arfaethedig o 6.5%;

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd arfaethedig o ran taliadau gwasanaeth i adennill cost lawn; a

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Rhaglen Gyfalaf CRT arfaethedig ar gyfer 2024/25 fel y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad.

Dogfennau ategol: