Agenda item

Rheoli Eiddo Gwag

Pwrpas:        Rhoi diweddariad manwl i’r Pwyllgor ar Eiddo Gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn gallu dechrau defnyddio eiddo o’r fath unwaith eto.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai’r ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.

 

Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, gan gynnwys 28 o ddarnau o eiddo oedd yn barod i’w dyrannu.  Ymhelaethodd hefyd ynghylch y wybodaeth ganlynol yn y nodyn briffio:

 

·         Nifer y darnau mawr o eiddo gwag

·         Cyfanswm y darnau o eiddo gwag a oedd wedi gostwng i 232

·         Perfformiad y contractwyr presennol

·         Y prif resymau dros derfynu.

 

Soniodd y Cynghorydd Dale Selvester am nifer y darnau o eiddo gwag a gwblhawyd ymhob ardal dosbarth cyfalaf a dywedodd y gofynnwyd iddo holi ar ran un o drigolion ei ward a oedd mwy o eiddo wedi’i gwblhau yn ardaloedd yr Wyddgrug, Treffynnon a’r Fflint oherwydd yr Aelodau a oedd yn cynrychioli’r ardaloedd hynny.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai y gallai gadarnhau’n bendant na roddid blaenoriaeth i eiddo ar sail y ward, ond yn hytrach i’r eiddo mwyaf dymunol, a oedd angen y lleiaf o waith, neu i achosion lle’r oedd gan y Tîm Rheoli Tai denantiaid yn aros am yr eiddo.  Dywedodd y dymunai i’r Aelodau ganolbwyntio ar gyfanswm yr eiddo gwag fel y cyflwynwyd yn y nodyn briffio ac y byddai’n fodlon cwrdd ag unrhyw Aelod yn unigol i drafod nifer y darnau o eiddo gwag yn eu ward, y tu allan i’r cyfarfod.

 

Holodd y Cynghorydd David Evans a oedd gan y swyddogion darged ar gyfer lleihau nifer y darnau o eiddo gwag ac a oeddent o’r farn y byddai’n bosib cyflawni’r nod o fod â chant neu lai ohonynt erbyn mis Hydref 2024.  Soniodd hefyd am y gyllideb o £4.6 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer y flwyddyn gan holi faint o ddarnau eiddo gwag a roddid at ddefnydd o’r newydd ac a oedd y gyllideb yn ddigonol i gwblhau’r gwaith ar yr holl ddarnau o eiddo gwag presennol.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai nad oedd targed wedi’i bennu ar hyn o bryd ond y byddai hynny’n cael ei hystyried ar ôl cynnal asesiad manwl o berfformiad yr holl gontractwyr er mwyn pennu eu dyraniad gwaith.  O ran y gyllideb a neilltuwyd ar gyfer eiddo gwag, gallai’r Cyngor ymgeisio am grantiau ac roedd cais arall wedi’i gyflwyno am ragor o gyllid.  Câi’r gyllideb ei monitro’n fisol er mwyn sicrhau fod yno ddigon o gyllid i fedru rhoi eiddo gwag at ddefnydd o’r newydd a phennwyd y gyllideb honno ar sail costau eiddo gwag ar gyfartaledd ar hyd y deng mlynedd diwethaf. 

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cadeirydd yngl?n ag eiddo anodd ei osod, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai y byddai’n darparu rhestr ohonynt i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Holodd y Cynghorydd Ted Palmer a ystyrid rhoi blaenoriaeth i eiddo gwag ag un ystafell wely, a fedrai fod o gymorth i bobl a oedd mewn llety dros dro.  Holodd hefyd pa ardaloedd oedd wedi’u cynnwys yn ardal dosbarth cyfalaf Treffynnon.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai bod y rhan helaeth o eiddo ag un ystafell wely’n dai gwarchod, ac y byddai’r adolygiad tai gwarchod yn bwrw golwg arnynt.  Dywedodd hefyd bod ardal dosbarth cyfalaf Treffynnon, fel y nodwyd yn y nodyn briffio, yn cynnwys Mostyn, Caerwys, Chwitffordd a Brynffordd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â chyhoeddi grantiau’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai bod Llywodraeth Cymru wedi gohirio’r cyhoeddiad ond y disgwylid clywed yn fuan a fu’r Cyngor yn llwyddiannus wrth sicrhau ychwaneg o gyllid.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Sean Bibby (Aelod Cabinet Tai ac Adfywio) i sylwadau’r Aelodau gan ategu’r hyn a ddywedodd y Rheolwr Gwasanaeth yngl?n â blaenoriaethu gwaith ar eiddo gwag, a soniodd am broffesiynoldeb y swyddogion a’r uwch-aelodau.  Dywedodd nad oedd y stoc tai’r oedd y Cyngor wedi’i gronni dros nifer o flynyddoedd yn ateb y galw bellach, ond ei fod yn ffyddiog bod y fframwaith iawn wedi’i sefydlu er mwyn gwella’r sefyllfa’n fawr. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.  Eiliodd y Cynghorydd Pam Banks y cynnig hwnnw. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

Dogfennau ategol: