Agenda item

Cyllideb 2022/23 - Cam 2

Pwrpas:        Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol ac gostyngiadau mewn costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a oedd â’r nod o adolygu a gwneud sylwadau ar y pwysau ar y gyllideb a’r gostyngiadau mewn costau sy’n rhan o gylch gorchwyl y Pwyllgor.  Rhoddodd gyflwyniad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r broses o Osod Cyllideb 2024/25 a oedd yn rhoi sylw i’r materion canlynol:

 

  • pwrpas a chefndir
  • gofynion cyllidebol ychwanegol y Cyngor 2024/25
  • gofynion cyllidebol ychwanegol - risgiau parhaus
  • y sefyllfa gyffredinol ar ôl y datrysiadau cychwynnol
  • crynodeb a chasgliadau
  • y camau nesaf yn y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2024/25
  • Proses gosod y gyllideb - Cam 2
  • Proses gosod y gyllideb - Cam 3 (Terfynol).

 

Aeth yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu, Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig - Swyddog Arweiniol Oedolion, Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu a’r Prif Gyfrifydd (Gwasanaethau Cymdeithasol) ymlaen a’r cyflwyniad a oedd yn rhoi sylw i’r pwyntiau canlynol:

 

·         Pwysau  Costau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol; a

  • Gostyngiadau i Gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Gofynnwyd i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu’n drylwyr bwysau costau portffolios, opsiynau effeithlonrwydd a’r risgiau cysylltiedig, a nodi unrhyw feysydd ychwanegol lle gellid o bosibl gwireddu effeithlonrwydd  costau.  Byddai crynodeb o ganlyniadau’r sesiynau hyn yn cael ei adrodd yn ôl i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Tachwedd, a fydd yn agored i bob Aelod.  Ar ôl derbyn y setliad dros dro ar 20 Rhagfyr, bydd yn ofynnol i gyfarfodydd Trosolwg a Chraffu mis Ionawr ystyried y gostyngiadau cyllidebol pellach y bydd eu hangen i lenwi’r bwlch sy’n weddill yn y gyllideb os yw’r Cyngor am fodloni ei rwymedigaeth statudol i osod cyllideb gyfreithiol a mantoledig ym mis Chwefror 2024.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Linda Thew ynghylch nifer y plant sydd mewn lleoliadau y tu allan i’r sir  Eglurodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) bod y term ‘y tu allan i’r sir’ yn cyfeirio at y plant y mae’r awdurdod yn comisiynu gofal ar eu cyfer y tu allan i ddarpariaeth y sir ei hun.  Roedd nifer o blant yn byw mewn cartrefi gofal preswyl yn sir y Fflint sy’n cael eu dosbarthu fel bod yn cael gofal ‘y tu allan i’r sir’ oherwydd nad yw’r gefnogaeth ar eu cyfer yn cael ei darparu gan y sir ei hun.  Roedd 37 o blant ar hyn o bryd mewn gofal preswyl sydd ddim yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol ond yn hytrach yn cael ei gomisiynu.  Nid yw hyn yn golygu eu bod yn cael cefnogaeth y tu allan i ffin ddaearyddol Sir y Fflint.  Roedd yna hefyd 32 o blant yn cael eu cefnogi gan asiantaethau maethu annibynnol.  Mae’r gyllideb Y Tu Allan i’r Sir o safbwynt gofal cymdeithasol yn cefnogi 69 o blant bob wythnos gyda chosau costau addysgol ar ben hynny.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thew hefyd at gost y swyddi Uwch Weithwyr Cymdeithasol newydd a gofynnodd am ddadansoddiad o gyfrifoldebau’r rôl.  Mewn ymateb, cyfeiriodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu at yr Adolygiad o Weithwyr Cymdeithasol a’r pwysau ychwanegol yr oedd hyn wedi’i greu.  Eglurwyd nad yw’r pwysau’n berthnasol i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a bod niferoedd gweithwyr cymdeithasol profiadol wedi aros yr un fath.  Roedd y newidiadau’n gysylltiedig â chyflwyniad y radd Uwch Weithiwr Cymdeithasol newydd gyda 12 swydd yn y Gwasanaethau Plant, 16 yn y Gwasanaethau Oedolion, ac 1 mewn Diogelu - cyfanswm o 29.  Roedd cyflwyniad y radd CO7 newydd hon wedi arwain at newidiadau i’r graddfeydd uwchben hynny ac eglurwyd bod Uwch Ymarferwyr wedi dod yn Ddirprwy Reolwyr Tîm ac wedi mynd i fyny un radd i GO8 gydag 17 yn y Gwasanaethau Plant, 12 yn y Gwasanaethau i Oedolion ac 1 mewn Diogelu - cyfanswm o 31.  Roedd yr un broses yn berthnasol i Reolwyr Tîm o oedd wedi newid i  radd GO9 gydag 8 yn y Gwasanaethau Plant, 9 yn y Gwasanaethau i Oedolion a dim newidiadau mewn Diogelu - cyfanswm o 17.  Dyma oedd y rheswm dros y pwysau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thew faint o blant oedd â Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) bod 63 o Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig ar hyn o bryd.

 

Yn ystod trafodaeth ar yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson (Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant a Chymunedau Gwydn, yn cynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael) at y trydydd argymhelliad a gofynnodd a ddylid newid hwn ychydig er mwyn i’r Aelodau gael cyflwyno unrhyw syniadau ar feysydd lle gellid gwneud arbedion ar ôl y cyfarfod.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y broses o osod y gyllideb ar y gweill a bod cyfleoedd i wneud awgrymiadau’n cael eu cynnwys.  Ychwanegodd bod swyddogion yn barod i dderbyn syniadau ar unrhyw adeg.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid newid yr argymhelliad cysylltiedig ag effeithlonrwydd i “bod y Pwyllgor yn cynghori nad oedd unrhyw feysydd o effeithiolrwydd cost wedi’u dynodi ar y cam hwn.”

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Y dylid nodi’r pwysau costau ar bortffolio’r Gwasanaethau Cymdeithasol;

 

(b)      Y dylid nodi opsiynau lleihau cyllidebau’r Gwasanaethau Cymdeithasol a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cynghori nad oes unrhyw feysydd o effeithiolrwydd cost wedi’u dynodi ar y cam hwn.

Dogfennau ategol: