Agenda item

Cyllideb 2022/23 - Cam 2

Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol ac gostyngiadau mewn costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a'i ddiben oedd adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau o ran y gyllideb a lleihau costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.

 

            Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Addysg) gyflwyniad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Phennu Cyllideb 2024/25 a oedd yn ymdrin â’r pwyntiau canlynol ar gyfer y Portffolio Addysg ac Ieuenctid:

 

·         Pwrpas a Chefndir

·         Y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer y Cyngor

·      Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol – Risgiau Parhaus

·         Y Sefyllfa Gyffredinol ar ôl y datrysiadau cychwynnol

·         Crynodeb a Chasgliadau

·         Crynodeb o’r Pwysau o ran Costau ar Addysg ac Ieuenctid

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid

·         Her Cyllideb 2024/25 – ein dull ni

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (1)

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (2)

·         Crynodeb o Ostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (3)

·         Pwysau o ran Costau ar Ysgolion

·         Crynodeb o’r Pwysau o ran Costau ar Ysgolion

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Ysgolion

·         Portffolio Addysg ac Ieuenctid a Risgiau Parhaus mewn Ysgolion

·         Y tu allan i’r Sir

·         Y Camau Nesaf ar gyfer y Broses o Bennu Cyllideb 2024/25

·         Proses y Gyllideb – Cam 2

·         Proses y Gyllideb – Cam 3 (Terfynol) 

 

            Wrth gyfeirio at y cyflwyniad, argymhellodd y Cynghorydd Dave Mackie y dylai’r eitemau canlynol gael eu cynnwys ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor, a eiliwyd gan y Cynghorydd Jason Shallcross:-

 

·         Recriwtio a Chadw Staff – Adroddiad ar faterion yn ymwneud â recriwtio a chadw staff yn y Portffolio Addysg ac Ieuenctid; a

·         Demograffeg – Adroddiad ar ddemograffeg a sut y byddai hyn yn effeithio ar gyllidebau yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar ddiogelu gan y Cynghorydd Mackie, dywedodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) fod lefel yr achosion cymhleth mewn ysgolion wedi cynyddu ers y pandemig. Eglurwyd bod gan ysgolion gyfrifoldebau sylweddol o ran Diogelu ac Amddiffyn Plant ac mae’r portffolio’n rhoi cymorth ychwanegol i ysgolion ynghyd â chyngor ac arweiniad cyfredol. Roedd diogelu yn gymhleth ac yr oedd yn newid yn barhaus yn enwedig o ran diogelwch ar-lein. Oherwydd bod Diogelu yn cael ei flaenoriaethu, eglurwyd bod hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar y tîm a'u gallu i gefnogi ysgolion.

 

Wrth ymateb i'r awgrym a wnaeth y Cynghorydd Mackie ar gyfer yr eitemau ychwanegol yn ymwneud â recriwtio a chadw a demograffeg, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Addysg) fod y materion yn ymwneud â recriwtio a chadw yn fater ehangach sy'n effeithio ar bob portffolio, felly byddai angen ystyried sut y gellid bwrw ymlaen â hyn. Eglurodd hefyd fod tystiolaeth o newidiadau mewn demograffeg ac y dylid disgwyl y rhain yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y ddemograffeg yn y ddarpariaeth arbenigol yn cynyddu o ran niferoedd a chymhlethdod. Bu gostyngiad yn nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd ac eglurodd hi fod gr?p mwy o ddisgyblion blwyddyn 6 wedi bod yn trosglwyddo i ysgolion uwchradd eleni a bod y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn llai. Byddai hyn yn anffodus yn effeithio ar ysgolion gan fod y rheoliadau yn mynnu bod 70% o gyllid ysgolion yn seiliedig ar niferoedd disgyblion, a bod y cyllid yn dilyn disgyblion. Roedd yn anodd rhagweld rhagolygon yn ymwneud â demograffeg a dylai unrhyw ostyngiadau yng nghyllidebau ysgolion hefyd ystyried y gostyngiadau o ran demograffig mewn ysgolion.  

 

            Gan ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar gynnydd staff, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Strategol y byddai hyn yn cyfateb i gynnydd yn nifer y staff yn y Tîm Gwella Ysgolion, a fyddai’n golygu recriwtio swydd ran amser ychwanegol. Byddai cynnydd hefyd yn y tîm o Swyddogion Monitro Iechyd a Diogelwch.

            Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Parkhurst ar y newidiadau yn nhelerau ac amodau staff yn y Gwasanaethau Ieuenctid, rhoddodd yr Uwch Reolwr (Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint) drosolwg o’r gwaith a oedd yn cael ei wneud o ran manteisio i’r eithaf ar asedau. Gan gyfeirio at yr elfen staffio eglurodd fod staff wedi cael eu talu yn erbyn graddfa gyflog y JNC yn flaenorol a chynigiwyd symud y staff i gyd i raddfa gyflog yr NJC. Byddai hyn yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal mor effeithlon â phosibl ynghyd â chynyddu'r ddarpariaeth a phresenoldeb ar y stryd.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y cynnydd yn y galw a chymhlethdod Addysg Heblaw yn yr Ysgol a gofynnodd a allai’r gostyngiad yn yr angen am leoliadau allanol leihau’r gost a amcangyfrifwyd ar gyfer 2025/26. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod y pwysau ar y gyllideb a ddangosir ar gyfer 2025/26 o ganlyniad i gynnydd yng nghostau staff ac adnoddau sydd eu hangen ym Mhlas Derwen. Dywedodd y byddai'n siarad ag Uwch Reolwr y Gwasanaethau Cynhwysiant yn dilyn y cyfarfod ynghylch pa wybodaeth am amcangyfrifon y gellid ei rhoi i'r Pwyllgor.   

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Parkhurst hefyd at argymhelliad 5 a ddangoswyd yn yr adroddiad a dywedodd ei fod yn cael anhawster darparu meysydd o gostau effeithlonrwydd posibl gan nad oedd yr Aelodau wedi cael dadansoddiad o gyllideb y portffolio Addysg ac Ieuenctid fesul llinell. Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Strategol at wybodaeth a roddwyd i'r Aelodau y llynedd a oedd yn rhoi dadansoddiad o'r cyllidebau portffolio a dywedodd y gellid dosbarthu hwn i'r Pwyllgor pe bai'n credu y byddai'n ddefnyddiol. Croesawodd y Cynghorydd Parkhurst y wybodaeth ychwanegol a oedd yn cael ei dosbarthu yn dilyn y cyfarfod.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at y ffigur y tu allan i’r Sir o £500,00 yr oedd wedi'i gynnwys yn y rhagolwg a gofynnodd a ddylai hyn gael ei ddangos fel gorwariant rhagamcanol o £1 miliwn. Wrth ymateb, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol ei fod yn ymddangos fel gorwariant o £1 miliwn yn ystod y flwyddyn ar hyn o bryd yn yr Adroddiad Monitro a gyflwynwyd yn ddiweddar i'r Cabinet. Roedd rhywfaint o alw disgwyliedig wedi'i gynnwys yn y ffigur hwn fel arian wrth gefn a fyddai'n cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn tra bod lleoliadau'n symud i mewn ac allan o'r gwasanaeth. Roedd angen adolygu hyn yn gyson ac efallai y bydd angen ei gynyddu wrth i bethau fynd rhagddynt drwy gydol y flwyddyn.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at ddemograffeg a'r gostyngiad yn y niferoedd sy'n dod i mewn i ysgolion a gofynnodd a oedd hyn yn gysylltiedig â'r cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu haddysgu gartref erbyn hyn. Wrth ymateb i hyn, nid oedd y Rheolwr Cyllid Strategol yn credu bod hyn yn gysylltiedig. Roedd y niferoedd yn gostwng mewn ysgolion cynradd ond nid oedd cynnydd cyfatebol yn y ffigurau addysg gartref. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) fod y rhagolwg hwn yn ymwneud â gostyngiad yng nghyfraddau genedigaethau a oedd wedi’i fonitro ers nifer o flynyddoedd ac a oedd yn anodd ei ragweld. Esboniodd hi sut cafodd y cyllid ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 3 ei ddyrannu.

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Portffolio Addysg ac Ieuenctid wedi bod yn rhagweld y gostyngiad disgwyliedig yn niferoedd ysgolion cynradd ers nifer o flynyddoedd. Cyfeiriodd at y pwysau a oedd yn bodoli rhai blynyddoedd yn ôl pan oedd gr?p mawr o ddisgyblion blwyddyn 7 yn mynd drwy ysgolion. Nid oedd yn credu bod hyn yr un peth ac er bod cryn ddirywiad wedi bod yng ngrwpiau blwyddyn ysgolion cynradd, ei fod o ganlyniad i gylchoedd poblogaeth naturiol. Roedd yn deall pa mor anodd oedd hyn i ysgolion a chyrff llywodraethu o ran y penderfyniadau anodd yr oedd yn rhaid eu gwneud. Atgoffodd yr Aelodau mai'r gyllideb Addysg oedd y gyllideb fwyaf yn y Cyngor, ac yr oedd cyllidebau dirprwyedig yr ysgolion yn dod i 80/90% a oedd yn cael ei ddirprwyo i benderfyniadau ariannol a wnaed gan ysgolion a chyrff llywodraethu yn Sir y Fflint. Cytunodd ei bod yn bwysig bod craffu’n digwydd ar weddill y gyllideb oedd ar ôl yn yr Adran Addysg. Pe bai rhannau o gyllideb y Cyngor yn cael eu neilltuo yn ystod y cyfnod cynnar hwn, byddai goblygiadau o ran lleihau costau ar gyfer adrannau eraill fel y Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Gwasanaethau Stryd.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y sylwadau a wnaed gan yr Arweinydd.  Cyfeiriodd at y toriad o 3% i gyllidebau pob ysgol y llynedd ac yr oedd wedi sgwrsio â swyddogion cyllid yngl?n â sut y cafodd hyn ei weithredu. Roedd yn sylweddoli y byddai hyn yn parhau bob blwyddyn gan ei fod yn rhan o’r gyllideb sylfaenol. Roedd yn bosibl i nifer fechan o ysgolion dynnu'r arian o'u balansau, ond nid oedd hyn yn berthnasol i bob ysgol, ac yr oedd yn ymwybodol o rai ysgolion oedd â balansau annigonol i ariannu'r toriad hwnnw yn y gyllideb. Dywedodd fod hwn yn doriad penodol yn y gyllideb ar gyfer pob ysgol, pa un a oedd balans cadarnhaol o ran y cyllid ai peidio.  

 

            Ymatebodd yr Arweinydd i egluro mai'r ffordd y cafodd ei weinyddu oedd drwy Gyllidebau Dirprwyedig Ysgolion ond mai'r bwriad oedd effeithio ar falansau ysgolion.  Roedd yn gwerthfawrogi nad oedd gan bob ysgol falansau a phan luniwyd yr adroddiad balansau yr oedd rhai ysgolion yn rheoli eu balansau yn dda ac yr oedd pwysau ar ysgolion eraill yr oedd yn rhaid iddyn nhw ymdrin â nhw. Roedd yn rhaid i'r Cyngor gynhyrchu cyllideb gytbwys ac oni bai bod adnoddau ychwanegol ar gael, cynnydd yn Nhreth y Cyngor oedd yr unig ffordd arall i godi arian. Cyfeiriodd at benderfyniad y Cyngor i gadw Treth y Cyngor ar 5% y llynedd pan oedd chwyddiant ar 10% a chostau’n cynyddu. Roedd hon yn sefyllfa bryderus iawn i bawb ac yr oedd y Cyngor yn dymuno darparu'r gwasanaethau gorau i Sir y Fflint.

 

Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.   

             

PENDERFYNWYD:

 

(a) Nodi pwysau o ran costau'r portffolio Addysg ac Ieuenctid;

 

(b) Nodi pwysau o ran costau cyllidebau Ysgolion;

 

(c) Nodi dewisiadau’r portffolio Addysg ac Ieuenctid i leihau cyllidebau;

 

(d) Nodi'r dewisiadau i leihau cyllideb ddirprwyedig yr ysgolion;

 

(e) Bod adroddiad ar faterion yn ymwneud â recriwtio a chadw yn cael ei gynnwys ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor; a

 

(f)   Bod adroddiad ar Ddemograffeg a sut y byddai hyn yn effeithio ar gyllidebau yn y dyfodol yn cael ei gynnwys ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol: