Agenda item

Trwyddedu Cartref Symudol Preswyl

Pwrpas:        I amlinellu’r gofynion a osodwyd ar y Pwyllgor Trwyddedu yn dilyn y Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd ac a gefnogwyd gan Gyngor Sir y Fflint ar 20 Mehefin 2023 o’r enw ‘Sicrhau Atebolrwydd o fewn Trwyddedu Cartrefi Symudol Preswyl Sir y Fflint’.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau adroddiad yn nodi’r gofynion oedd ar y Pwyllgor Trwyddedu yn dilyn Rhybudd o Gynnig yn dwyn y teitl ‘Sicrhau Atebolrwydd o ran Trwyddedu Cartrefi Symudol Preswyl Sir y Fflint’ a gafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Sam Swash a’i gefnogi yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Mehefin 2023.

 

Tynnwyd sylw at ofynion Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 a oedd yn berthnasol i barciau cartrefi symudol preswyl ac nid parciau gwyliau tymhorol.  Byddai goblygiadau’r newidiadau, fel roedd yr adroddiad yn ei nodi, yn creu mwy o alw ar y Pwyllgor Trwyddedu gan fod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar hyn o bryd gan swyddogion drwy awdurdod dirprwyedig.  Pe bai polisi newydd yn cael ei fabwysiadu, byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu er mwyn i’r Pwyllgor allu ymgymryd â’r gofynion newydd.  Ar ôl cael cyngor cyfreithiol ar baragraff 1.03, rhannwyd papur ategol cyn y cyfarfod oedd yn gofyn i’r Aelodau ystyried y dewisiadau roeddent yn eu ffafrio ynghlwm â’r broses benderfynu fel y gwelir isod:

 

                 i.        Pob cais ac amrywiad yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu.

               ii.        Pob cais ac amrywiad yn cael eu hystyried gan is-bwyllgor i’r Pwyllgor Trwyddedu.

              iii.        Ceisiadau ac amrywiadau’n cael eu ‘galw i mewn’ gan y Pwyllgor Trwyddedu.

              iv.        Ceisiadau ac amrywiadau’n cael eu ‘galw i mewn’ at is-bwyllgor i’r Pwyllgor Trwyddedu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Davies mai ystyriaeth gan is-bwyllgor oedd y dewis yr oedd o’n ei ffafrio i osgoi’r angen am alw’r pwyllgor llawn ynghyd.

 

Teimlai’r Cynghorydd Ted Palmer y dylai’r pwyllgor llawn fod â’r cyfrifoldeb o ymdrin â’r ceisiadau hyn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Mared Eastwood o blaid rhoi’r cyfrifoldeb i’r is-bwyllgor am resymau ymarferol, oherwydd terfynau amser cyflwyno trwyddedau safle.

 

Yn ateb i gwestiynau, gwnaeth y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau sylw bod ceisiadau’n cael eu trin gan swyddogion drwy awdurdod dirprwyedig cyn y Rhybudd o Gynnig.  Yn unol â chais y Cynghorydd Swash yn ystod y drafodaeth ar y mater yng nghyfarfod y Cyngor Sir, byddai angen ymgynghori â’r Aelod lleol a phreswylwyr y safle ar unrhyw gais newydd yn ystod y cyfnod pontio hwn ac wrth ddatblygu’r polisi newydd.  Ar ben hynny, eglurodd y byddai awdurdod dirprwyedig yn cael ei ddefnyddio pe na bai unrhyw ymatebion yn gwrthwynebu, ond y byddai’n cael ei gyfeirio at y pwyllgor pe bai ymatebion felly.

 

Rhoddodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu a Rheoli Plâu) drosolwg o’r trefniadau cyfredol i ddirprwyo i swyddogion ac i’r pwyllgor ystyried ceisiadau ynghlwm â swyddogaethau trwyddedu eraill.

 

Cytunai’r Cynghorydd Richard Lloyd gyda’r Cynghorydd Palmer y dylai’r pwyllgor llawn benderfynu ar geisiadau.  Wrth ymateb i gwestiynau, cytunodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau i rannu rhestr o safleoedd oedd yn cael eu rheoleiddio ar ôl y cyfarfod.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Carolyn Preece hefyd gefnogi’r dewis i’r pwyllgor llawn wneud penderfyniadau oherwydd pwysigrwydd y mater.

 

Yn ateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y swyddogion y byddai’n fuddiol i holl Aelodau’r Pwyllgor gael eu hyfforddi i wneud penderfyniadau o’r fath er mwyn amddiffyn y Cyngor rhag heriau cyfreithiol.

 

Dywedodd y Cadeirydd, os oedd yr Aelodau’n cytuno y dylai’r pwyllgor llawn ystyried y ceisiadau, y gallai fod angen trefnu cyfarfodydd arbennig gan fod cyfnodau hir rhwng cyfarfodydd oedd wedi’u trefnu.

 

Fel cynigydd y Rhybudd o Gynnig, gwahoddwyd y Cynghorydd Swash i siarad yngl?n â’r newidiadau a fyddai’n galluogi trigolion ac Aelodau lleol i gyflwyno sylwadau.  Siaradodd o blaid rhoi penderfyniadau ar y ceisiadau yn nwylo’r Pwyllgor Trwyddedu llawn, fel yr oedd y Rhybudd o Gynnig yn ei gyfleu.

 

Wrth bleidleisio ar y mater, cefnogwyd dewis (i) oedd yn golygu y dylai pob cais ac amrywiad gael eu hystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu.  Byddai’r dewis hwn yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd pan fyddai’n ystyried yr adroddiad.

 

Fe wnaeth y Cadeirydd ymbil ar holl Aelodau’r Pwyllgor i fynd i’r sesiwn hyfforddiant a oedd wedi’i threfnu at 4 Rhagfyr 2023.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer a fyddai aelodau nad oeddent yn aelodau o’r pwyllgor hwn yn gallu mynd i’r sesiwn hyfforddiant er mwyn iddynt allu dirprwyo mewn cyfarfodydd pe bai angen.  Cytunodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau i ofyn am gyngor yngl?n â hyn a rhannu’r ymateb dros e-bost.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Ted Palmer ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Carolyn Preece.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad;

 

(b)       Bod yr Aelodau’n ymrwymo i dderbyn hyfforddiant i’w galluogi i benderfynu ar geisiadau trwyddedau ynghlwm â Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013; ac

 

(c)       Mai dewis y Pwyllgor yw i bob cais ac amrywiad gael eu hystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu.

Dogfennau ategol: