Agenda item

Perfformiad Rhaglen Gyfalaf Safon Ansawdd Tai Cymru - Adroddiad Sicrwydd

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar gynnydd Safonau Ansawdd Tai Cymru y mae’r Cyngor yn eu darparu trwy ei Raglen Fuddsoddi Cyfalaf.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai adroddiad a roes y wybodaeth ddiweddaraf am y modd y cyflawnai’r Cyngor Safon Ansawdd Tai Cymru trwy’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf.

 

Llwyddodd y Cyngor i gwblhau rhaglen waith fel bod holl stoc y Cyngor yn bodloni’r Safon, gan fuddsoddi mwy na £100 miliwn o gyfalaf, ac roedd y rhaglen bellach wedi troi at waith cynnal a chadw, a buddsoddi ychwaneg o arian yn y gwaith

angenrheidiol a nodwyd.  Roedd yr adroddiad yn manylu ynghylch yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a’r prif destun sylw yng ngham nesaf cynllun buddsoddi’r Cyngor ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

            Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai y sicrhaodd y Cyngor gydymffurfiaeth â Safon Ansawdd Tai Cymru ym mis Rhagfyr 2021.  Wedi bodloni’r Safon roedd hi’n bwysig bod y Cyngor yn sicrhau y cynhelid y safon a chynlluniwyd y buddsoddiadau’n unol â hynny.  Roedd yno raglen fuddsoddi dreigl ar gyfer cynnal y safon a gosod trefn ar gyfer gosod elfennau newydd lle bo’r angen.

Cyhoeddid canllawiau diwygiedig ar Safon Ansawdd Tai Cymru ddiwedd 2023 a byddai angen i’r Cyngor baratoi ar gyfer y newidiadau y byddai’n rhaid eu cyflawni er mwyn dal i gydymffurfio.

 

Wrth sôn am yr angen am doeau a ffenestri newydd, holodd y Cynghorydd Ted Palmer a ellid fod wedi gwneud y gwaith fel rhan o’r cynllun blaenorol, a gofynnodd a oedd yno gynllun ar gyfer cwblhau’r gwaith cyn gynted â phosib.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Asedau’r gwahanol resymau pan na adnewyddwyd yr holl doeau a ffenestri cyn 2020, gan gynnwys y ffaith nad oedd angen eu hadnewyddu i gyd fel y nodwyd yn yr arolwg o gyflwr y stoc.  Pwysleisiodd fod angen diogelu holl fuddsoddiadau’r Cyngor a phe gellid trwsio elfennau fel eu bod yn para’n hwy, byddai hynny’n fwy effeithlon.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Palmer sut roedd trwsio toeau a ffenestri yn berthnasol i’r angen i sicrhau bod yr adeiladau’n defnyddio ynni’n effeithlon.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai y mabwysiadwyd dull cyfannol wrth ddefnyddio’r dechnoleg oedd ar gael i sicrhau bod cartrefi mor effeithlon â phosib wrth gadw gwres.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at yr ystadegyn a ddangosai bod y Cyngor wedi cydymffurfio 100% â’r Safon yn y tair blynedd diwethaf, a gofynnodd a oedd y Rheolwr Gwasanaeth wedi sylwi ar ostyngiad yn nifer yr eiddo gwag a oedd angen gwaith sylweddol, yn sgil y gwaith a wnaed i fodloni’r Safon.  Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai y bu gostyngiad, a bod mwy o eiddo gwag yn dod yn ôl ar y farchnad ac yn bodloni’r Safon.  Roedd a wnelo’r buddsoddiadau mwyaf â gwaith trydanol a phlastro, a oedd yn peri aflonyddwch i denantiaid yn eu cartrefi.  Ar y cyfan, roedd eiddo’n dod yn ôl ar y farchnad mewn cyflwr gwell oherwydd y buddsoddiad a wnaed yn y pum mlynedd diwethaf.

 

Ategodd y Cynghorydd Sean Bibby (Aelod Cabinet Tai ac Adfywio) sylwadau’r Rheolwr Gwasanaeth yngl?n â’r ffaith mai gwaith trydanol a phlastro oedd yr elfennau mwyaf o waith ar eiddo gwag.  Dywedodd ei bod yn galonogol gweld y ganran o weithwyr a phrentisiaid lleol yn yr adroddiad a chredai bod hynny’n dipyn o gamp.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Selvester yngl?n â methiannau derbyniol ac a fyddai’r Tîm Rheoli Tai’n meithrin cyswllt â thenantiaid, gan gynorthwyo â’r gwaith oedd yn mynd rhagddo ag eiddo gwag, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai na fyddai Llywodraeth Cymru ond yn caniatáu methiant derbyniol ar gyfer eitemau eilaidd nad oeddent yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.  Pe byddai tenant yn gwrthod unrhyw waith ar eitem eilaidd, byddai’n dal yn rhaid i’r Cyngor ymweld â’r eiddo i gadarnhau bod yr eitem yn ddiogel.  Byddai’r Tîm Rheoli Tai’n cysylltu â thenantiaid yn bell o flaen llaw i sicrhau y gellid mynd i mewn. 

 

Holodd y Cynghorydd Selvester a ellid darparu rhestr o fethiannau derbyniol i’r Pwyllgor.  Cytunodd yr Uwch Reolwr y byddai’n darparu’r wybodaeth yngl?n â nifer y methiannau derbyniol i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin dderbyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Ted Palmer y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf, yn y cam nesaf o fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru a’r gofynion fel y’u diwygiwyd (2023).

Dogfennau ategol: