Agenda item

Pwysau Cyllideb Digartrefedd

Pwrpas:        Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i'r Pwyllgor ar bwysau cyllidebol ynghylch digartrefedd.

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Ataliad y wybodaeth ddiweddaraf ar bwysau cyllideb llety brys.  Roedd nodyn briffio wedi’i ddosbarthu i’r Pwyllgor cyn y cyfarfod, a oedd yn rhoi manylion pellach. 

 

Wrth gyfeirio at y nodyn briffio, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth o fewn y Gwasanaeth Datrysiadau Tai bod yna nifer o gyllidebau penodol ar gyfer lleoliadau llety digartrefedd ar gyfer ‘tai dros dro’.  Yn ogystal, roedd yna gyllideb benodol bellach ar gyfer llety brys oedd angen ei ddefnyddio pan nad oedd yna fwy o le mewn llety dros dro arall wedi’i gyllidebu.  Roedd y llety brys a ddefnyddiwyd yn bennaf mewn ystafelloedd gwesty o fewn a thu hwnt i ffiniau Sir y Fflint, ynghyd â rhywfaint o ddefnydd o ffurfiau eraill o lety gwyliau, fel carafanau a fflatiau.  Roedd crynodeb o wariant o fewn blwyddyn hyd yma wedi’i amlinellu o fewn y nodyn briffio.   

 

Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cyfanswm gwariant rhagdaledig am y flwyddyn yn seiliedig ar y gwariant hyd yma gydag addasiadau ar gyfer llety rhagdaledig a hefyd ar gyfer ymrwymiadau sy’n weddill.   Yna gwnaed lwfans pellach ar gyfer y gwariant disgwyliedig am weddill y flwyddyn yn defnyddio’r gwariant hyd yma fel y pwynt sylfaenol cychwynnol, ond hefyd cymryd i ystyriaeth effeithiau’r flwyddyn lawn o dwf mewn niferoedd yn y flwyddyn hyd yma a disgwylir twf mewn niferoedd ymhellach yng ngweddill y flwyddyn. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ers Hydref 2022 y bu twf sylweddol a chynaliadwy yn y niferoedd o bobl ddigartref oedd angen llety mewn llety brys oherwydd digartrefedd.  Fel y cyfeiriwyd mewn adroddiadau blaenorol i’r Pwyllgor ar ddigartrefedd, yr amodau marchnad heriol, ansefydlogrwydd yn y sector rhentu preifat, tensiwn yn y cartref, cynnydd yn anghenion cymhleth bobl a newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd i gyd yn gymhellwyr allweddol ar gyfer y galw parhaus a chynaliadwy i wasanaethau digartrefedd a llety brys.  Y diffyg tai cymdeithasol priodol i fodloni anghenion y sawl sy’n wynebu digartrefedd, ynghyd â materion fforddiadwyedd ac argaeledd o fewn y sector rhentu preifat, yn parhau i gyflwyno rhwystrau sylweddol i gynorthwyo pobl i adael digartrefedd mewn modd amserol.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey am bobl yn cysgu allan, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod yna bedwar o bobl yn cysgu allan yn Sir y Fflint ar hyn o bryd a dywedodd nad oedd y rhain wedi eu cynnwys o fewn y ffigyrau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor o fewn y nodyn briffio. Darparwyd cefnogaeth i’r bobl oedd yn cysgu allan i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r gefnogaeth oedd ar gael iddyn nhw. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Pam Banks ar yr uned Ddigartrefedd o fewn ei ward, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i siarad gyda’r Cynghorydd Banks ar ôl y cyfarfod.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin pa un a oedd yr unedau digartrefedd yn Park Lane a Duke Street wedi eu cwblhau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod ar fin cael eu cwblhau. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Bernie Attridge i’r Rheolwr Gwasanaeth am y nodyn briffio.  Dywedodd bod pwysau’r gyllideb yn bryder mawr a byddai ond yn gwaethygu dros y 12 mis nesaf.  Gofynnodd i’r Prif Swyddog a’r Aelod Cabinet pa sylwadau oedden nhw’n ei wneud ar lefel genedlaethol i sicrhau cyllid ychwanegol i gynorthwyo’r Cyngor i gwrdd â gofyniad deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl sy'n datgan eu bod yn ddigartref a darparu llety brys.  

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio ei bod yn ymddangos nad oedd dyheadau Llywodraeth Cymru ac adnoddau a ddarperir yn cyfateb i ddelio gyda materion ar lefel leol.  Rhoddodd sicrwydd ei fod yn cyfarfod yn rheolaidd gyda chyfoedion ar draws Cymru gan nad oedd y mater hwn wedi’i gyfyngu i Sir y Fflint, i fod yn glir iawn i Lywodraeth Cymru bod angen darparu adnoddau digonol ar gyfer deddfwriaeth newydd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a oedd y gwasanaeth yn cyfathrebu gyda’r Cynllun Cartrefi Gwag gan ei bod yn ymwybodol o ddau eiddo preifat o fewn ei ward a oedd wedi bod yn wag am amser maith.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y Cyngor yn edrych ar brynu cyn dai Cyngor gyda sawl awgrym yn cael ei ddatblygu.  Dywedodd y Cadeirydd fod hyn wedi cael ei ystyried yn flaenorol ond roedd yna nifer o rwystrau mewn perthynas â phrynu tai preifat. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester pa un a roddir ystyriaeth i atal y gofrestr dai, fel y gwnaed yn flaenorol, i gynorthwyo gyda’r llety sydd ar gael i bobl sy'n datgan eu bod yn ddigartref a dod â phwysau’r gyllideb i lawr.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod holl ddewisiadau angen cael eu hystyried cyn dod â dewisiadau yn ôl i’r Pwyllgor eu hystyried.  Amlinellodd y nifer o bobl a restrir ar hyn o bryd ar y gofrestr tai oedd hefyd ag anghenion tai. 

 

Mewn ymateb i bryderon pellach a godwyd gan y Pwyllgor, roedd y Cadeirydd yn awgrymu bod llythyr yn cael ei ysgrifennu i Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon y Pwyllgor o amgylch goblygiadau ariannol i’r Awdurdod Lleol yn dilyn newidiadau i’r Ddeddf Tai Cymru 2014 (HWA 2014) a’r angen am lefelau priodol o adnoddau a chefnogaeth i’w darparu i’r Awdurdod Lleol. 

 

Roedd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn argymell bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon y Pwyllgor o amgylch goblygiadau ariannol i’r Awdurdod Lleol yn dilyn newidiadau i’r Ddeddf Tai Cymru 2014 (HWA 2014) a’r angen am lefelau priodol o adnoddau a chefnogaeth i’w darparu i’r Awdurdod Lleol.    Eiliodd y Cynghorydd Ray Hughes hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon y Pwyllgor o amgylch goblygiadau ariannol i’r Awdurdod Lleol yn dilyn newidiadau i’r Ddeddf Tai Cymru 2014 (HWA 2014) a’r angen am lefelau priodol o adnoddau a chefnogaeth i’w darparu i’r Awdurdod Lleol.