Agenda item

Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn rhoi’r diweddariad blynyddol am brosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint sy’n galluogi’r awdurdod lleol i adnabod eu blaenoriaethau ar gyfer Grant Tai Cymdeithasol fel rhan o fframwaith Grant LlC. Mae’r prosbectws hefyd yn rhoi crynodeb glir a chryno o’r angen a’r galw am dai.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyflawni’r Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol y Prosbectws Anghenion Tai drafft a ddiweddarwyd.   

 

Roedd Llywodraeth Cymru angen i bob Awdurdod Lleol ddatblygu Prosbectws Anghenion Tai i’w ddiweddaru yn flynyddol.  Nid oedd fformat a chyswllt y prosbectws wedi newid yn sylweddol i addasu’r cyfeiriad teithio a nodwyd yn y prosbectws y llynedd.  Roedd y newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r galw cynyddol am dai cymdeithasol o’r gofrestr tai a dyletswyddau tai, gan gynnwys galw sylweddol am lety dros dro, oedd yn effeithio ar y tîm atal digartrefedd a chyllideb refeniw y Cyngor. 

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol y byddai’r prosbectws yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gymeradwyo’r Cynllun Datblygu/Darparu Rhaglen a sicrhau bod cynlluniau yn cwrdd ag anghenion a blaenoriaethau a nodwyd, gan gynnwys cynnydd tuag at gwrdd â’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Strategaeth Tai Lleol 2019-24.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at safle Depo Canton ym Magillt a gofynnodd a fyddai’r datblygiad bwriedig ar y safle hwn yn digwydd.  Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol fod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi llunio ail-ddynodi mapio llifogydd nifer o flynyddoedd yn ôl oedd yn rhoi dynodiad i’r safle na fyddai’n bosibl ei ddatblygu.  Roedd gweithrediad ffurfiol y mapio llifogydd wedi’i wthio yn ôl, felly yn y cyfamser, roedd y Cyngor wedi ymgysylltu ag ymgynghorwyr i gynnal gwaith ymarferoldeb i ddarparu tystiolaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru bod y dynodiad yn anghywir a’i fod yn dechnegol amhosibl i oresgyn y materion llifogydd ar y safle.    Roedd gwaith yn parhau ar asesu pa un a ellir goresgyn y materion yn dechnegol er mwyn dwyn cais ymlaen.   

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cadeirydd am gost ar gyfer defnyddio ymgynghorwyr, dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol fod y cynnig mewn dull fesul cam felly os byddent yn dangos nad oedd yn dechnegol bosibl i symud ymlaen i ddatblygu’r safle yn y Depo Canton neu y byddai’n rhy gostus, yna gall y Cyngor roi’r gorau i ymgysylltu â’r ymgynghorwyr cyn symud ymlaen.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Linda Thew at y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) yn cael ei hailagor a Llywodraeth Cymru yn gwahodd cais am arian.    Gofynnodd faint oedd y Cyngor wedi ymgeisio amdano.  Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol fod y Cyngor wedi ymgeisio am dros £2 filiwn i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd ar draws y Sir a mwy na £3miliwn i gaffael anheddau gwag neu i gaffael cartrefi ble roedd gan y landlord denantiaid cyfredol y byddai gan y Cyngor ddyletswydd i ddarparu t? iddynt, ond gallent aros yn yr eiddo.  Roedd y Cyngor wedi ymgeisio am ychydig o dan £10miliwn o gyfanswm mewn cyllid o’r  Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, ond roedd y dyraniad dangosol yn £1.6miliwn.  Y flaenoriaeth oedd dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chaffael cyn eiddo hawl i brynu.  Byddai gwybodaeth bellach ar y dyraniad terfynol ar gael o 30 Medi 2023. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Pam Banks a oedd cyn eiddo hawl i brynu yn cael ei brynu ar raddfa’r farchnad.  Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol bod yn rhaid i eiddo gael ei brisio yn annibynnol er mwyn cael mynediad i’r grant gan Lywodraeth Cymru ac o fewn y prisiad hwnnw, roedd cyflwr yr eiddo wedi’i gymryd i ystyriaeth.    

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’u heilio gan y Cynghorydd Pam Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnwys Prosbectws Angen Tai Sir y Fflint drafft

a 

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r Strategaeth Dai Leol 2019-24 i’w

hadolygu y flwyddyn nesaf.

Dogfennau ategol: