Agenda item
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Rhanbarthol Gwella Ysgolion (GwE)
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, Dydd Iau, 14eg Medi, 2023 2.00 pm (Eitem 25.)
- Cefndir eitem 25.
Cael diweddariad ar y cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth effeithlonrwydd a gwella ysgolion rhanbarthol, GwE a’r effaith ar ysgolion.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad oedd yn darparu trosolwg manwl o waith Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol gydag ysgolion Sir y Fflint yn ystod blwyddyn academaidd 2022 -2023.
Fe nodwyd yn yr adroddiad fod yna berthynas gref rhwng Cyngor Sir y Fflint a Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE). Roedd yna weithdrefnau cadarnhaol ar waith i osod cyfeiriad a dwyn y gwasanaeth rhanbarthol
i gyfrif. Roedd rolau penodol yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion rhanbarthol mewn gwella ysgolion yn amlwg ac yn glir i bob budd-ddeiliaid ac roeddynt yn cael eu dwyn i gyfrif yn effeithiol gan weithdrefnau craffu lleol.
Gwahoddodd y Prif Swyddog Mr. Phil McTague, Mr. Bryn Jones a Mr. David Edwards o GwE i gyflwyno’r adroddiad ymhellach.
Tra’n cyflwyno’r adroddiad, fe eglurodd Mr. Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd), fod y gwasanaeth wedi symud ymlaen o’r pandemig i ail ddylunio'r Cwricwlwm. Rhoddodd fanylion y pedwar prif faes mewn cysylltiad ag ysgolion uwchradd, sef:-
Maes Allweddol 1 – Gwella Arweinyddiaeth
Maes Allweddol 2 - Gwella Addysgu a Dysgu
Maes Allweddol 3 - Cwricwlwm a Darpariaeth
Maes Allweddol 4 - Cynnydd a Safonau Dysgwr
Tynnodd Mr. McTague sylw’r Aelodau at Atodiad 1 yr adroddiad oedd yn cynnwys crynodeb o’r pedwar maes allweddol ar gyfer ysgolion uwchradd. Dywedodd fod gwella arweiniad mewn ysgolion yn hanfodol i dwf unrhyw ysgol, ac amlinellodd newidiadau mewn Penaethiaid a heriau y mae ysgolion uwchradd yn eu hwynebu ar draws Sir y Fflint. Rhoddwyd gwybodaeth am broffil Penaethiaid, ac fe gadarnhawyd fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal i wella ansawdd arweiniad gyda systemau hunanwerthusiad cadarn oedd yn rhai mewnol, dan arweiniad gwasanaeth, gyda gwybodaeth gan Awdurdod Lleol ond roeddynt bellach wedi’u proffilio’n genedlaethol drwy Fframwaith Gwella Ysgolion.
Rhoddwyd trosolwg o gynllunio data mewn ysgolion uwchradd ac roedd gan y mwyafrif o ysgolion brosesau hunanwerthuso clir ar waith yn enwedig gyda’r hyfforddiant wedi’i ddarparu ar gynllunio gwella. Darparwyd gwybodaeth am y cynlluniau cefnogi wedi’u targedu oedd ar waith ar gyfer rheoli perfformiad mewn ysgolion uwchradd. Darparwyd amlinelliad o’r gwersi oedd wedi cael eu harsylwi mewn ysgolion a chweched dosbarth, ynghyd â throsolwg o’r meysydd yr oedd angen eu datblygu dros y flwyddyn i ddod.
Cyfeiriodd Mr. McTague at y Cwricwlwm, ac eglurodd fod pob uwch arweinydd yn yr ysgolion uwchradd yn gweithio’n galed wrth atgyfnerthu’r weledigaeth i ddylunio’r Cwricwlwm, gan gydnabod cryfderau a gweithio gyda budd-ddeiliaid. Roedd pob ysgol yn Sir y Fflint yn rhan o gynghreiriau gydag ysgolion eraill a rhoddwyd amlinelliad o’r manteision a byddai’n rhan o’r fframwaith gwella wrth symud ymlaen. Roedd yna feysydd i fynd i’r afael â nhw megis parhau i weithio ar y cyfnod pontio a dulliau cyson o flynyddoedd 5 i 8, parhau i gynnal cyfarfodydd gyda’r cynghreiriau a sefydlwyd er mwyn rhannu arfer da a bod GwE a Sir y Fflint yn parhau i weithio ochr yn ochr ag ysgolion i ddatblygu dulliau a phrosesau asesu i dracio disgyblion yn unol â’r newidiadau yn y Cwricwlwm.
Gan gyfeirio at gynnydd Dysgwyr a safonau, fe eglurwyd yn y mwyafrif o ysgolion, roedd disgyblion yn gwrando, yn dangos parch tuag at athrawon a’i gilydd. Roedd y mwyafrif o wersi’n cael eu darparu mewn amgylchedd cynhyrchiol, strwythuredig gyda pharodrwydd i gyfrannu at drafodaethau mewn dosbarthiadau. Roedd modd i ddisgyblion gynnig ymatebion ystyrlon a thrylwyr ar lafar gyda geirfa eang yn cael ei ddefnyddio.
Tynnodd Mr. Bryn Jones a Mr David Edwards (Arweinwyr Craidd Cynradd) sylw’r Aelodau at Atodiad 2 yr adroddiad oedd yn darparu crynodeb o’r pedwar maes allweddol ar gyfer ysgolion cynradd. O ran y sector cynradd, rhoddwyd trosolwg o wella arweinyddiaeth ar draws ysgolion Sir y Fflint, ynghyd â gwybodaeth am raglenni Arweinyddiaeth Genedlaethol. Cafodd arweinwyr ysgolion eu cefnogi drwy’r cynlluniau 360 gradd, Rhaglen Partneriaeth Ysgol a chydweithio gydag ysgolion uwchradd o fewn cyfarfodydd clwstwr. Fe eglurwyd pan oedd hunanwerthusiad yn cael ei gynnal yn effeithiol mewn modd cyfannol, roedd hyn yn gysylltiedig â gwella cynllunio a oedd yna’n gysylltiedig â chefnogaeth i gefnogi meysydd a nodwyd.
Cyfeiriodd Mr. Jones at 12 egwyddor addysgeg a oedd wedi’u sefydlu ar draws ysgolion cynradd Sir y Fflint, a rhoddwyd rhagor o wybodaeth am hyn. Gan gyfeirio at feysydd o welliant, rhoddwyd trosolwg o amrywiadau mewn ysgolion, ynghyd â chysylltiadau gydag arweinyddiaeth i ddatblygu’r Gymraeg ar draws yr awdurdod. Rhoddwyd gwybodaeth hefyd am y ddarpariaeth Cwricwlwm sydd wedi’i ddarparu mewn ysgolion cynradd ynghyd â gwybodaeth am y gwaith a wnaed ar ôl Covid mewn ysgolion i wella safonau ar gyfer lles ac annibyniaeth disgyblion i hwyluso cynnydd da mewn dysgu.
Ar ôl darllen yr adroddiad, dywedodd y Cadeirydd ei bod yn teimlo bod y gweithlu addysg ar bob lefel yn parhau a diddordeb i wella eu sgiliau a’u harbenigedd drwy ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus. Roedd hi’n falch bod datblygiad proffesiynol parhaus yn cael ei ddarparu gan ei fod yn dangos eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt ddiddordeb yn eu lles, datblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd. Roedd hi hefyd yn ystyrlon o’r rhwystrau a gwrthbwysau effeithiol oedd yn canfod unrhyw bryderon ar lefel unigol ac ysgol gyfan yn gyflym iawn.
Croesawodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr adroddiad yr oedd o’n teimlo oedd yn tynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud ac yn dangos bod staff ysgol yn awyddus i ddatblygu eu haddysg i wella eu cryfderau a strategaethau gwaith. Cefnogodd y Cynghorydd Carolyn Preece sylwadau’r Cynghorydd Cunningham ac fe longyfarchodd y portffolio a’r tîm ond dywedodd fod yna bob amser lle i wella.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey am asesiadau a datganiad ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod athrawon bob amser yn asesu disgyblion o ran eu gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau a sgiliau. Ar gyfer y plant a oedd yn cael anawsterau ac nad oedd yn datblygu roedd yna brosesau sefydledig er mwyn sicrhau bod darpariaeth briodol yn cael ei rhoi ar waith.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Datblygiad) sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (ALNET) yn lleihau’r amserlenni o 26 wythnos. O dan ALNET roedd modd i ysgolion ymgymryd â’r broses hon cyn gynted â bod plentyn yn cael ei asesu bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol posibl. Rhiant, gweithiwr iechyd proffesiynol neu rywun yn yr ysgol fydd hwn, a bydd yr asesiad yn cychwyn o’r pwynt hwn. Roedd hyfforddiant wedi cael ei roi mewn ysgolion gan ystyried eu rolau o fewn ALNET a newidiwyd yr amserlenni er mwyn sicrhau nad oedd disgyblion yn aros yn rhy hir am asesiad er mwyn bodloni eu hanghenion.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles bod ysgolion yn ystyried lles pob plentyn ar draws y Cwricwlwm a’u bod yn gofalu am y plentyn a’r teulu. Roedd hi’n falch o weld eu bod wedi sôn am gyllid Quiet Place a PGD a oedd yn cael ei ddefnyddio’n dda ym mhob ysgol. Dylai ysgolion gael eu dathlu am y gwaith roeddynt wedi'i wneud gyda disgyblion mewn ysgolion oedd yn ymwneud â lles a diogelu.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie am gyrsiau hyfforddi, fe eglurodd y Prif Swyddog bod yna atodiad na chafodd ei atodi i’r adroddiad oedd yn darparu ystadegau hyfforddiant ac awgrymodd bod hwn yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod. Roedd hi’n teimlo bod yr adroddiad yma a’r Adroddiad Hunan-werthuso yn rhoi sicrwydd bod yna lawer iawn o ymgysylltu proffesiynol ar bob lefel gan staff.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mackie am ganlyniadau TGAU, fe eglurodd y Prif Swyddog, nid oedd gan yr Awdurdod Lleol hawl ers nifer o flynyddoedd i adrodd am berfformiad ysgol unigol, ac roedd y data yma i’r ysgolion eu hunain ddefnyddio ar gyfer eu siwrneiau gwella eu hunain. Fe ymgeisiodd y portffolio i gael gwelliannau mewn ysgolion, a chytunwyd y byddai adroddiad diweddaru’n cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Chwefror unwaith y bydd canlyniadau eleni wedi cael eu gwirio. Cafodd sicrwydd gan Benaethiaid a chydweithwyr GwE fod y gwelliant mewn ysgolion wedi’u hadlewyrchu yn eu dogfennau hunanwerthuso unigol a blaenoriaethau yn eu Cynlluniau Gwella Ysgol. Roedd gan bob ysgol Gynllun Gwella Ysgol a chynlluniau cefnogi gan GwE, ac roedd hyn yn flaenoriaeth i barhau i wella’r canlyniadau i ddysgwyr yn eu cymwysterau.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill yn ymwneud â chefnogaeth cwnselydd trawma i bobl ifanc sy’n ffoaduriaid, cyfeiriodd y Prif Swyddog at adroddiad hunan-werthuso’r Awdurdod Lleol oedd yn cynnwys lles disgyblion, ymarfer sy’n seiliedig ar drawma ac effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Fe amlinellodd yr adroddiad y gefnogaeth a’r hyfforddiant roedd staff wedi’i gael mewn ysgolion i gefnogi disgyblion gan ddefnyddio ymarfer sy’n seiliedig ar drawma a chyfeiriwyd at hyn yn yr adroddiad.
Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Datblygiad) fod yna lawer o waith yn digwydd mewn ysgolion mewn cysylltiad ag ymarfer sy’n seiliedig ar drawma. Roedd digwyddiad codi ymwybyddiaeth wedi cael ei gynnal i uwch swyddogion yr Awdurdod Lleol a staff yr ysgolion a oedd yn cynnwys y Prif Swyddog. Roedd mynediad hefyd yn cael ei roi i’r Diploma sy’n Seiliedig ar Drawma 11 diwrnod o hyd. I ddechrau roedd yn cael ei dargedu at yr unigolyn dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal mewn ysgolion, ond mae wedi cael ei ymestyn yn ehangach. Mae’r cyfle yma’n rhoi mewnwelediad manwl i ymarfer sy’n seiliedig ar drawma a fyddai’n cael ei dargedu at blant sy’n derbyn gofal. Roedd ysgolion yn cael eu hannog i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o ymarfer sy’n seiliedig ar drawma, ond roedd hyn yn cael ei yrru gan bob uwch swyddog ar draws y portffolio er mwyn sicrhau ei fod hefyd yn digwydd ym mhob gwasanaeth. Yna fe gyfeiriodd at Wasanaeth Cwnsela Pobl Ifanc a oedd yn gweithio’n agos gyda ffoaduriaid a phwysleisiodd bwysigrwydd eglurder ar rolau gwasanaethau’r Cyngor ac ymarferwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc gan fod y rhain yn swyddi eithaf gwahanol. Fe amlinellodd y ffyrdd gwahanol o weithio yn y sectorau cynradd ac uwchradd a chyfeiriodd at wasanaeth Mewngymorth CAHMS oedd yn gweithredu o dan y Bwrdd Iechyd ac yn cael ei ddyrannu i bob ysgol. Roedd y gwasanaeth yma’n gweithio ar y rhaglen hyfforddiant iechyd meddwl i ysgolion er mwyn sicrhau bod staff yn derbyn hyfforddiant priodol i’w galluogi nhw i adnabod anghenion iechyd meddwl a darparu’r lefel honno o gefnogaeth o safbwynt yr ysgol.
Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’i eilio gan y Cynghorydd Arnold Woolley.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Blynyddol 2022-2023 ac effaith cadarnhaol y Gwasanaeth Rhanbarthol yn cefnogi ysgolion Sir y Fflint, gan gadw’r ffocws ar
ysgolion effeithiol a llwyddiannus.
Dogfennau ategol:
- Annual Report from Regional School Improvement Service (GwE), eitem 25. PDF 101 KB
- Enc. 1 for Annual Report from Regional School Improvement Service (GwE), eitem 25. PDF 706 KB