Agenda item

Ymgynghoriad Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Ynghylch y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Camau Nesaf o ran Buddsoddiadau

Galluogi Aelodau’r Pwyllgor i ddarparu sylwadau a barn ar yr ymgynghoriad, ac i ddirprwyo cymeradwyaeth o ymateb y Gronfa i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Cofnodion:

            Aeth Mr Latham drwy’r adroddiad Mae’r swyddogion a’r ymgynghorwyr yn cynnig ymateb drafft i’r ymgynghoriad, ond maent yn nodi y dylai’r ymateb terfynol fod gan y Pwyllgor. Felly gofynnir i’r Pwyllgor ddarparu sylwadau. Mae’r ymateb arfaethedig wedi’i lunio o safbwynt Cronfa Bensiynau Clwyd. Bydd cronfeydd eraill o fewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn debygol o gael eu heffeithio mewn ffyrdd gwahanol ac felly yn amlygu materion gwahanol.

 

            Dywedodd Mr Latham y bydd PPC yn cyflwyno ei ymateb ei hun i’r ymgynghoriad a bydd gan y Gweithgor Swyddogion ac I, fel aelod o’r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, gyfle i ddarparu mewnbwn. Gobeithir y bydd cysondeb yn yr ymatebion gan gronfeydd ar draws Cymru ac felly mae’r atodiad yn nodi meysydd allweddol y mae’r Gronfa yn bwriadu defnyddio barn PPC unwaith maent wedi cytuno ar eu hymateb hwy.

            Nid yw’r ddogfen ymgynghori yn nodi a yw PPC yn cael ei heithrio o’r isafswm maint cronfa arfaethedig o £50 biliwn. Fodd bynnag, mae swyddogion yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi awgrymu nad oes bwriad i ofyn am gyfuno trawsffiniol felly byddai PPC yn cael eithriad. Efallai y bydd ymateb PPC yn pwysleisio hynny. Eglurodd Mr Latham fod ymateb y gronfa wedi’i ddrafftio ar sail bod y Pwyllgor yn hapus i PPC barhau â’i threfniant presennol a gofynnodd i’r Pwyllgor gadarnhau a yw hynny’n wir, ac nid oedd gwrthwynebiad i hynny.

Aeth drwy bwyntiau allweddol yr ymateb drafft gan nodi nad yw barn swyddogion ac ymgynghorwyr yn ategu’r cynigion yn yr ymgynghoriad, gan amlygu:

-       Barn y Gronfa o ran y dylai’r strategaeth fuddsoddi barhau i gael ei phenderfynu arni’n lleol gan y Pwyllgor ac na ddylai cronfeydd orfod darparu cyngor ar fuddsoddi gan y byddai hynny’n ymddangos fel achos o wrthdaro buddiannau.

-       Y cynnig y dylid alinio strategaethau buddsoddi’r cronfeydd cyfansoddol yn agos iawn. Mae gan y Gronfa ei rhwymedigaethau ei hun ac yn rheoli risgiau o ran chwyddiant a chyfraddau llog mewn ffyrdd gwahanol i gronfeydd eraill. Dan y cynigion ni fyddai’r Gronfa yn gallu parhau â’r strategaeth bresennol.

-       Mae’r Gronfa eisoes yn gwneud gwaith o ran buddsoddiadau ffyniant bro, yn cynnwys y gwaith gyda Good Economy, ac yn alinio gyda’r rhan fwyaf o’r cynigion yn y maes hwn. Fodd bynnag, mynegodd Mr Latham bryderon ynghylch y cynnig i adrodd yn erbyn 12 nod ffyniant bro y llywodraeth bresennol. Dywedodd fod y diwydiant yn parhau i wneud cynnydd wrth adrodd yn erbyn nodau datblygu cynaliadwy, ac roedd o’r farn bod y rhain yn dargedau mwy addas i alinio â nhw. Fe ddywedodd hefyd nad yw’r 12 nod yn ymddangos fel eu bod yn cynnwys ynni adnewyddadwy.

-       Mae gan y Gronfa hanes hir o fuddsoddi mewn ecwiti preifat – nid yw pob cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gwneud hynny. Fodd bynnag, yn hytrach na chyfyngu hyn i ecwiti preifat awgrymodd y dylai'r diffiniad gael ei ehangu i farchnadoedd preifat er mwyn cynnwys buddsoddiadau dyled a dosbarthiadau asedau eraill.

           

            Dywedodd Mr Latham mai dyddiad cau ymateb i’r ymgynghoriad oedd 2 Hydref 2023, sydd cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 29 Tachwedd.

PENDERFYNWYD:

a)    Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn gwneud sylw ar y prif bwyntiau a godwyd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad.

b)    Bod y Pwyllgor yn dirprwyo’r cyfrifoldeb dros gymeradwyo’r ymateb terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Dogfennau ategol: