Agenda item

Adroddiad Blynyddol drafft a Chyfrifon 2022/23

I Aelodau’r Pwyllgor ystyried Adroddiad Blynyddol drafft a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer 2022/23 a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ac i wneud Aelodau’r Pwyllgor yn ymwybodol o’r ymateb i Lythyr Ymholiadau Archwilio 2022/23 a’r Cynllun Archwilio 2022/23.

Cofnodion:

            Cyflwynodd Michelle Phoenix, Rheolwr Archwilio Ariannol, Archwilio Cymru (sy’n gyfrifol am archwiliad allanol y gronfa) gefndir i’r cynllun archwilio. Eglurodd fod y cynllun archwilio manwl ar gyfer archwiliad 2022-23 yn cynnwys negeseuon allweddol at sylw’r Pwyllgor ac amlygodd y bydd dull newydd i’r archwiliad eleni yn sgil cyflwyno Safon Archwilio Rhyngwladol 315 (ISA 315). Mae ISA 315 yn rhoi mwy o bwyslais ar gynllunio’r archwiliad ac yn cynnwys dull gronynnog sy’n edrych yn fanwl ar gyfrifon y gronfa a rheolaethau mewnol, gan nodi risgiau sy’n berthnasol i’r archwiliad. Mae hyn yn golygu archwiliad gyda mwy o ffocws a mwy o waith yn cael ei wneud cyn archwilio’r datganiadau ariannol. Mae’r newid hwn wedi arwain at gynnydd yn y ffi: 10.2% o’r cynnydd yn sgil ISA 315, yn ogystal â chostau ychwanegol oherwydd chwyddiant.

 

Dywedodd fod dau aelod o’r tîm archwilio yn aelodau gohiriedig o’r Gronfa, ond bod mesurau diogelu yn eu lle i sicrhau nad oedd hyn yn effeithio ar annibyniaeth yr archwiliad.

            Aeth Mrs Fielder drwy’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon drafft, sy’n rhaid eu cyhoeddi cyn 1 Rhagfyr pob blwyddyn yn unol â rheoliadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Cadarnhaodd fod Swyddog Adran 151 Cyngor Sir y Fflint wedi adolygu’r cyfrifon a bod ei sylwadau wedi’u cynnwys. Diolchodd i Mercer am eu cefnogaeth wrth baratoi’r adroddiad a dywedodd fod y ddogfen hon i’w hystyried ar ei ffurf drafft, ac y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud o ran cyflwyniad a hygyrchedd y ddogfen cyn cyflwyno’r fersiwn archwiliedig derfynol i’r Pwyllgor ei chymeradwyo ar 29 Tachwedd.

Dywedodd Mrs Fielder, wrth baratoi’r Adroddiad Blynyddol drafft, fod y gronfa yn ceisio cydymffurfio â chanllawiau CIPFA. Amlygodd, ar dudalen 152 y pecyn, y gost wirioneddol o gymharu â’r gyllideb – sy’n dangos gorwariant o £4.9 miliwn ar y gyllideb £23.7 miliwn, yn bennaf oherwydd gorwariant o £5.5 miliwn ar dreuliau rheoli buddsoddiadau. Eglurodd Mrs Fielder beth oedd y treuliau rheoli buddsoddiadau a nododd y llynedd fod y gronfa wedi tangyllidebu ar gyfer ffioedd buddsoddiadau, yn enwedig ffioedd perfformiad yn y portffolio marchnad breifat.

Siaradodd am y cyfrifon a’r adroddiad ariannol, yn cynnwys y llif arian o gymharu â’r gyllideb ac eglurodd y rhesymau dros rai o’r amrywiadau. Yna aeth drwy rannau olaf yr Adroddiad Blynyddol, yn cynnwys y strategaethau a’r polisïau allweddol a fydd yn cael eu cynnwys yn adran 5 yr adroddiad terfynol.

Dywedodd Mr Hibbert bod yr adroddiad blynyddol yn ffordd dda i feirniadu cynnydd y gronfa ar draws sawl maes. Diolchodd i bawb a fu’n rhan o’r broses am yr holl waith sydd wedi’i wneud a’r cynnydd yn ystod y flwyddyn.

Soniodd y Cyng. Swash am y daflen ffeithiau Good Economy a gyfeirir ati yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at y 10% a fuddsoddwyd yng Nghymru, gyda hanner hynny wedi’i fuddsoddi yng Nghronfa Clwyd, a bod arno eisiau adolygu’r data yn fanylach. Diolchodd i’r swyddogion am ddarparu’r adroddiad.

PENDERFYNWYD:

a)    Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol drafft y Gronfa ar gyfer 2022/23 yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon drafft.

b)    Nodi a gwneud sylwadau ar gynllun Archwilio Cymru.

c)    Nododd llythyr yr Ymholiadau Archwilio a’r ymateb.

 

Dogfennau ategol: