Agenda item

Adolygu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO)

Adolygu’r PSPO cyfredol cyn i’r Cabinet ei ystyried.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Diogelu Busnes a’r Gymuned yr adroddiad i adolygu’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol cyn i’r Cabinet eu hystyried. Darparodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ymchwiliadau Safonau Masnach a Diogelwch Cymunedol a Rheolwr Tîm (Gweinyddu a Gorfodi Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) gyflwyniad ar y cyd a oedd yn ymdrin â’r pwyntiau canlynol:

 

  • Mapiau o’r mynediad newydd
  • Canlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n
  • Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol – rheoli alcohol
  • Canlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus – Alcohol
  • Gorfodi Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n
  • Camau Nesaf

 

Gwnaeth y Cyng. Richard Lloyd sylw ar yr angen am wella arwyddion a gorfodi mewn rhai ardaloedd.

 

Gwnaeth y Cyng. Mike Peers sylw ar yr anawsterau posibl y gall pobl h?n neu bobl anabl gyda symudedd gwael godi baw ci a dywedodd bod angen ystyried beth yw’r ffordd orau i ddelio â’r broblem hon. Ymatebodd y swyddogion i sylwadau’r Cyng. Peers yngl?n â’r ymateb a roddwyd i’r ymgynghoriad ar dudalen 72 a 73 yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cyng. Andrew Parkhurst a fyddai eithriadau yn cael eu gwneud i bobl sy’n defnyddio c?n tywys neu g?n cymorth eraill.

 

 

 

Hefyd, gofynnodd y Cyng. Andrew Parkhurst pan nad oedd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn caniatáu i’r cyhoedd wneud sylwadau gan mai ymgynghoriad oedd yn hytrach na refferendwm, a dywedodd fod y sylwadau a anfonwyd ar wahân ar e-bost yn ei farn ef yn darparu mwy o wybodaeth nag edrych ar ganran yr ymatebion i bob cwestiwn. Derbyniodd y swyddogion y pwynt a dweud y bydd ymgynghoriadau eraill ynghylch Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn cynnwys cyfleuster i ychwanegu sylwadau. Gofynnodd y Cadeirydd i bob ymgynghoriad y Cyngor Sir gynnwys lle i wneud sylwadau.

 

Cytunodd y swyddogion i ymateb i’r Cyng. Mike Allport ar ôl y cyfarfod ar fater penodol a gododd yn ymwneud â darn o dir yn ward Higher Kinnerton.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cyng. Bill Crease a’u heilio gan y Cyng. Mike Peers. Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Estyn y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus i gynnwys rheoli c?n ac alcohol yn Sir y Fflint.

 

Bydd gofyn i’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus sicrhau bod

unigolion sy’n gyfrifol am gi yn gwneud y canlynol:

 

(i)  Cael gwared ar wastraff eu ci o’r holl lefydd cyhoeddus yn Sir y Fflint.

(ii) Gwahardd cymryd, neu ganiatáu i’r ci fynd neu aros yn yr ardaloedd canlynol:

– ardal o fewn tir ysgol

– ardaloedd chwarae meysydd chwaraeon wedi’u marcio

– ardaloedd chwarae mewn ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i lawntiau bowlio a chyrtiau tennis

– ardaloedd chwarae plant caeedig

– llwybr gyda ffensys o amgylch The Rosie, Parc Gwepra, Cei Connah, fel y nodir ar Fap 1 (Atodiad 3)

– Parc Coffa’r Wyddgrug, Maes Bodlonfa, yr Wyddgrug fel y nodir ar Fap 2 (Atodiad 4)

(iii) Cadw eu ci ar dennyn mewn mynwent.

(iv) Sicrhau bod ganddynt fodd priodol o godi gwastraff eu ci o’r holl lefydd cyhoeddus yn Sir y Fflint.

(v)  Rhoi eu c?n ar dennyn, ar gais swyddog awdurdodedig os yw’r ci yn rhydd ac yn achosi niwsans neu annifyrrwch i unigolyn, aderyn neu gi arall.

 

Effaith y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Alcohol yw gosod y gwaharddiadau a/neu’r gofynion canlynol mewn mannau cyhoeddus yn Sir y Fflint, drwy’r amser

 

(i)         Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn parhau i yfed diod feddwol mewn man cyhoeddus o fewn Ardal y Cyfyngedig pan ofynnir swyddog awdurdodedig iddo beidio, yn cyflawni trosedd.

(ii)        Mae unrhyw berson sydd, mewn man cyhoeddus o fewn Ardal y Cyfyngiad, heb esgus rhesymol, sy’n methu ag ildio unrhyw ddiod feddwol sydd yn eu meddiant pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddo beidio, yn cyflawni trosedd.

(iii)       Mae’n rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n gosod gofyniad dan Erthygl 4(a) a/neu 4(b) uchod ddweud wrth y person fod methu â chydymffurfio â’r gwaharddiad ac/neu’r gofyniad, heb esgus rhesymol, yn drosedd.

 

(b)       Nodi er gwybodaeth, ond yn amodol ar benderfyniad terfynol y Cabinet, bod y Gorchmynion Gwarchod Mannau Agored sy'n cwmpasu rheolaeth c?n ac alcohol yn dechrau ar 29 Hydref 2023, yn dilyn cyfnod rhybudd a chyhoeddusrwydd y gorchymyn sydd ar ddod.

 

Dogfennau ategol: