Agenda item
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, Dydd Iau, 30ain Tachwedd, 2023 2.00 pm (Eitem 36.)
- Cefndir eitem 36.
Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Cofnodion:
Wrth gyflwyno'r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau a restrwyd ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 a chyfeiriodd at yr Adolygiad Cymheiriaid Cyfiawnder Ieuenctid a oedd wedi'i symud i gyfarfod mis Chwefror.
Gan gyfeirio at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu yn Atodiad 2, cadarnhawyd bod mwyafrif y camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf wedi'u cwblhau. Roedd yr adroddiad Allsirol wedi'i gynnwys ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gyda chais am Weithdy ar Leoliadau Allsirol ar gyfer Aelodau newydd wedi'i drosglwyddo i'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd. Rhoddwyd diweddariad ar y cais am adroddiad ar Gadw a Recriwtio.
Awgrymodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y dylid diwygio pwrpas yr eitem Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg Cymru a restrwyd ar gyfer y cyfarfod Craffu ar y Cyd ar 27 Mehefin i adlewyrchu trosolwg cyfan o Addysg cyn ac ôl-16.
Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst pam fod “Mynd i’r Afael ag Effaith Anghydraddoldeb ar Ganlyniadau Addysg” yn dal i gael ei restru fel eitem i’w hamserlennu. Cytunodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu i gymryd hyn fel cam gweithredu o'r cyfarfod i sicrhau y neilltuwyd dyddiad cyfarfod ar ei gyfer.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Mackie at ei gais yn y cyfarfod diwethaf am restr o gyrsiau dysgu proffesiynol a gynigir gan GwE ac at y ddogfen a dderbyniodd gan ddweud ei bod yn anodd ei deall. Roedd y wybodaeth yr oedd wedi gofyn amdani yn ymwneud â:-
• Pa hyfforddiant oedd yn cael ei gynnig i athrawon yn Sir y Fflint;
• Pa hyfforddiant oedd yn cael ei ddyfeisio;
• Beth oedd pwrpas yr hyfforddiant;
• Faint o bobl a ddisgwylir i ddod i’r hyfforddiant.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at y wybodaeth hyfforddi a ddarparwyd gan GwE a theimlai y byddai'n ddefnyddiol cynnwys mwy o fanylion ynghylch pa gyrsiau a chyfleoedd hyfforddi oedd ar gael i ysgolion. Credai y gellid cael gwell dealltwriaeth wedyn pe gellid cymharu dadansoddiad o hyfforddiant yn ysgolion Sir y Fflint â Siroedd eraill.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr atodiad yr oedd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) wedi'i anfon at y Cynghorydd Mackie wedi'i ddarparu gan GwE a'i fod yn amlinellu'r holl hyfforddiant a chymorth proffesiynol a ddarperir i ysgolion Sir y Fflint. Cadarnhawyd hefyd fod cyfarfod wedi'i drefnu rhwng y Cynghorydd Mackie, yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) a Swyddogion GwE er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at y cam gweithredu o'r cyfarfod diwethaf a oedd yn ymwneud ag adroddiad ar ddemograffeg a gofynnodd pam nad oedd yn dangos yn yr eitemau i'w hamserlennu. Eglurodd y Prif Swyddog y byddai'r wybodaeth am effeithiau demograffeg disgyblion yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau cyllideb, fodd bynnag, pe bai angen mwy o wybodaeth ar yr Aelodau, yna gellid trefnu gweithdy. Roedd y Cynghorydd Mackie yn meddwl tybed a ellid darparu adroddiad diweddaru rheolaidd, yn debyg i'r wybodaeth a ddarparwyd ynghylch balansau ysgolion, gan ei fod yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol. Cytunwyd ar hyn gan y Prif Swyddog.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Parkhurst at y graddau cyflwr o fewn ysgolion ac at y wybodaeth a ddarparwyd, a gofynnodd gan fod y data wedi’i gasglu yn 2016/17 a bod hyn yn cael ei ailasesu bob 5 mlynedd, a oedd mwy o ysgolion bellach wedi’u gosod yng Nghategori C. Mewn ymateb eglurodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio a Darparu Lleoedd Ysgolion) fod y wybodaeth a ddarparwyd yn ymwneud ag amser penodol a bod rhai gwelliannau wedi eu gwneud gyda sefyllfaoedd rhai adeiladau yn gwella. Bu oedi oherwydd Covid ond roedd tîm technegol y portffolio, ynghyd â chefnogaeth tîm ymgynghorol allanol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ar fin cychwyn adolygiad llawn o’r rhwydwaith ysgolion er mwyn gallu darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflyrrau.
Gofynnodd y Cynghorydd Carolyn Preece a ellid darparu gwybodaeth ar y Fframwaith Arolygu newydd gan Estyn ar gyfer Ysgolion i'r Pwyllgor naill ai fel gweithdy i'r holl aelodau neu fel adroddiad i gyfarfod yn y dyfodol. Cytunwyd ar hyn.
Mewn ymateb i gwestiynau ar y gyllideb a chais am gynnwys gwybodaeth portffolio wrth symud ymlaen gan y Cynghorydd Parkhurst, cytunodd y Prif Swyddog â'r sylwadau a wnaed gan ddweud bod ffigurau'r gyllideb portffolio wedi'u cynnwys yn flaenorol. Rhoddwyd trosolwg manwl o'r pwysau ar y gyllideb, y defnydd o arian grant a'r risgiau i'r portffolio. Ychwanegodd nad oedd unrhyw awgrymiadau gan swyddogion wedi'u cynnwys gan nad oedd unrhyw le ar ôl i fynd i ddod o hyd i arbedion, a bod y cyllidebau'n cefnogi gwasanaethau statudol i blant a phobl ifanc heb unrhyw hyblygrwydd.
Mewn ymateb i gwestiynau ar Leoliadau All-sirol a Chostau Gofal Preswyl gan y Cynghorydd Parkhurst, eglurodd y Prif Swyddog mai amcan y portffolio oedd cynnal cymaint o ddysgwyr â phosibl yn eu hysgolion a'u cymunedau lleol. Byddai'r Uwch Reolwr (Cynhwysiant Ysgolion) yn gallu rhoi mwy o fanylion pan fyddai'r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cydbwyllgor ym mis Mehefin. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cyllid a ddirprwywyd i ysgolion i gefnogi plant oedd wedi eu nodi ag anghenion dysgu ychwanegol a’r gwaith a wnaed gan y Panel Cymedroli wrth benderfynu a oedd anghenion person ifanc y tu hwnt i gylch gorchwyl yr ysgol. Nid oedd y cyllid yn ddigonol i gefnogi'r nifer cynyddol o bobl ifanc ag anghenion cymhleth a rhoddwyd trosolwg o'r prosesau trwyadl ynghylch dyrannu'r cyllid hwnnw mewn ymgynghoriad â Phenaethiaid. Roedd y ddarpariaeth arbenigol ar gael mewn ysgolion i gynorthwyo plant ag anghenion megis lleferydd, iaith ac anawsterau dysgu cymedrol. Fodd bynnag, roedd nifer o blant lle'r oedd angen cefnogaeth darparwr allanol ond roedd y farchnad yn gyfyngedig gyda'r darparwyr yn dal yr holl gardiau ac yn gosod y cyfraddau. Eglurwyd y gallai'r awdurdod ddod yn rhan o ryfel bidio pan oedd cyn lleied o leoedd ar gael, a fyddai'n dod â chostau sylweddol ar gyfer addysg a gofal preswyl. Roedd Llywodraeth Cymru yn gweithredu polisi lle dylai’r ddarpariaeth o’r lleoedd hyn fod ar sail ddielw a chanddo oblygiadau ar gyfer darpariaethau yng Nghymru. Gwnaeth y portffolio yr hyn a allai gyda'r adnoddau oedd ar gael.
Cytunodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol gan ddweud bod y gyllideb all-sirol yn heriol gyda'r farchnad yn gystadleuol iawn wrth geisio lleoli plentyn gyda darparwr priodol. Roedd hon yn her i bob awdurdod yng Nghymru mewn marchnad gystadleuol iawn.
Teimlai’r Cynghorydd Dave Mackie fod pwysau ar y gyllideb ar hyn o bryd ar gyfer y cyllid refeniw ar gyfer 20 lle ychwanegol mewn darpariaeth arbennig, a gellid dadlau bod y cwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Parkhurst yn y broses o gael ei fodloni gan fod y ddarpariaeth hon eisoes wedi’i hadeiladu a bod yr arian a ychwanegwyd at y gyllideb i'r staff redeg y ddarpariaeth honno. Gofynnodd pe byddai’r gyllideb all-sirol yn cael ei symud i ddarpariaeth y Cyngor ei hun, a fyddai’n bosibl cael gwell elw ar yr arian. Cadarnhaodd y Cynghorydd Parkhurst fod y swm mor fawr ond na ddylid colli golwg ar anghenion y plant. Roedd hyn yn ymwneud â gwario'r arian yn y ffordd orau i ofalu am y plant ond hefyd i gael y gwerth gorau i'n preswylwyr.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog mai dyma’r hyn yr oedd y Portffolios yn ceisio’i gyflawni, a chyfeiriodd at adroddiadau a gyflwynwyd i’r Cydbwyllgor a oedd yn amlinellu ystod o strategaethau i gynyddu darpariaeth fewnol y Cyngor. Cyfeiriodd at y gwaith a wnaed gan y Gwasanaethau Plant, y cyfleusterau cartref Plant newydd, y capasiti cynyddol yn yr ysgol gynradd arbenigol a gwella’r ddarpariaeth adnoddau, a gyflawnwyd yn Ysgol Uwchradd y Fflint a’r Uned Cyfeirio Disgyblion. Roedd y Portffolios yn edrych yn gyson ar ffyrdd o gael gwell gwerth am arian drwy gyflwyno’r ddarpariaeth honno’n fewnol, gan ddefnyddio cyllid grant gan Lywodraeth Cymru pan oedd ar gael, i ehangu’r ddarpariaeth honno i gefnogi mwy o blant yn lleol. Darparwyd gwybodaeth am y broses fonitro drylwyr o amgylch y gyllideb all-sirol gyda chyfarfodydd misol yn cael eu cynnal a oedd yn cynnwys y Prif Gyfrifwyr, hi a’r Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Uwch Reolwr (Gwasanaethau Plant), yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant). Rhoddwyd trosolwg o'r adroddiad a ddarparwyd gan y Prif Gyfrifydd a chadarnhawyd ei fod hefyd yn mynychu'r cyfarfodydd cymedroli a gynhaliwyd gan y gweithwyr proffesiynol aml-asiantaeth a'i fod yn olrhain pob dysgwr unigol. Roedd y wybodaeth hon yn bwydo i mewn i'r adroddiadau monitro cyllideb misol.
Teimlai'r Cynghorydd Bill Crease fod pawb eisiau'r canlyniadau gorau i'r bobl ifanc hyn, ond y broblem oedd bod yn rhaid i'r Awdurdod gystadlu mewn marchnad amherffaith. Teimlai mai'r unig ffordd o gyflawni hyn oedd cystadlu ac roedd yn bwysig iawn bod amser, ymdrech ac arian yn cael eu neilltuo i sicrhau bod y ddarpariaeth ar gael yn Sir y Fflint.
Cytunodd y Cynghorydd Gladys Healey â'r holl sylwadau a gobeithiai y gallai Sir y Fflint sefydlu ei darpariaeth ei hun a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r adnoddau i alluogi'r Cyngor i wneud hyn.
Cytunodd y Cadeirydd gan ddweud bod consensws cyffredinol ein bod am i'n plant aros yn Sir y Fflint ond nad oedd hyn yn bosibl ar hyn o bryd.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y Panel Cymedroli gan ddweud ei fod yn Banel aml-asiantaeth sylweddol gyda chynrychiolwyr o bob adran Addysg, Iechyd a'r Tîm Cyllid. Edrychwyd yn fanwl ar bob achos gyda swm sylweddol o dystiolaeth yr oedd yn rhaid ei chyflwyno a'i hadolygu i sicrhau bod y broses yn cael ei gweithredu'n deg ac yn gyson pan oedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Sicrhaodd yr aelodau fod y Panel yn gyson yn ceisio bod yn greadigol gan ddefnyddio cyllid grant lle bynnag y bo modd, gan ddefnyddio darpariaeth adnoddau a chynllunio ar gyfer y rownd nesaf o Gyllid Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Cyfeiriodd at gyllid LlC ar gyfer ysgolion ac eglurodd fod y ddwy ysgol arbenigol yn Sir y Fflint yn llawn ac roedd yn falch o glywed y sylwadau heddiw ynghylch cefnogi plant yn lleol. Oherwydd y sefyllfa ariannol bresennol roedd pob rhaglen a gynigiwyd yn dod â phwysau cost i'r Cyngor oherwydd lefelau ymyrraeth gan LlC. Dyna sut y gellid gwneud hyn mor effeithlon, effeithiol a'r hyn y gellid ei gyflawni'n lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.
Dogfennau ategol:
- Forward Work Programme and Action Tracking (EY&C OSC), eitem 36. PDF 82 KB
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 36. PDF 77 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Education Youth & Culture OSC, eitem 36. PDF 71 KB