Agenda item

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu

YstyriedRhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau sydd wedi’u rhestru ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a oedd ynghlwm yn Atodiad 1. Nid oedd unrhyw newidiadau arfaethedig, ond cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at yr eitemau ychwanegol sydd wedi’u cynnwys ar gyfer cyfarfod 1 Chwefror 2024.  

 

Gan gyfeirio at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu yn Atodiad 2, cadarnhawyd bod gweithdy'n cael ei drefnu i edrych ar y fwydlen newydd, y byddai’r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd yn mynd iddo, a bydd yr adborth yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor. O ran yr Adroddiad Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg 2022-23, cadarnhawyd y byddai Jennie Williams yn paratoi Nodyn Briffio ar raddau cyflwr ysgolion a fyddai'n cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr atodiad data hyfforddiant o Adroddiad Blynyddol GwE, yr oedd wedi’i ddosbarthu i'r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod diwethaf. Eglurodd fod y wybodaeth yr oedd wedi gofyn amdani fel a ganlyn:-

 

   Pa hyfforddiant oedd yn cael ei gynnig i athrawon yn Sir y Fflint;

   Pa hyfforddiant oedd yn cael ei ddyfeisio;

   Beth oedd pwrpas yr hyfforddiant;

   Faint o bobl a ddisgwylir i ddod i’r hyfforddiant.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Mackie a fyddai modd mireinio’r ddogfen data hyfforddiant i gynnwys y wybodaeth uchod gan egluro y byddai’n fodlon cwrdd â swyddogion i drafod hyn. Cytunodd yr Hwylusydd i godi hyn gyda swyddogion yn dilyn y cyfarfod.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie hefyd at Leoliadau y Tu Allan i’r Sir a soniodd am weithdy a gynhaliwyd nifer o flynyddoedd yn ôl a fu o gymorth. Gofynnodd a ellid cynnwys hyn yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol er mwyn i'r Aelodau gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy’n rhan ohono yn ogystal â chynorthwyo, efallai, ag atebion posibl i'r pwysau o ran y gyllideb. Awgrymodd hefyd y dylid darparu gweithdy i Aelodau ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir ar ôl pob etholiad Cyngor Sir.

 

            Dywedodd yr Hwylusydd fod Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn dod dan gylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Cytunodd drosglwyddo'r cais ar ôl y cyfarfod a gofynnodd bod y Pwyllgor yn cael ei wahodd i unrhyw gyfarfod sy’n ystyried y mater hwn. O ran y cais ar gyfer gweithdy, cytunodd i drafod â'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ofyn iddo gael ei gynnwys yn y broses flaengynllunio ar gyfer gweithdai i Aelodau yn y dyfodol.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Gladys Healey o blaid y sylwadau a wnaeth y Cynghorydd Mackie ynghylch Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir a chyfeiriodd at gynnig yn ei ward hi a fyddai'n cefnogi pobl ifanc ac yn helpu i leihau'r gorwariant yn y gyllideb.  Gofynnodd hi a fyddai modd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn. Cytunodd yr Hwylusydd i siarad â swyddogion yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cais y Cynghorydd Healey am wybodaeth.

 

Cafodd yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)     Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.

 

Dogfennau ategol: