Agenda item

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru

Pwrpas:        Bod Aelodau’n nodi'r gwaith a'r cynnydd yn 2022/23 ar y meysydd gwaith sy'n cael eu dwyn ymlaen trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr  Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu adroddiad yn egluro bod dyletswydd ar bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gyflwyno eu hadroddid blynyddol i’w Pwyllgor Craffu ac y byddai unrhyw adborth a geir heddiw’n cael ei anfon i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar eu rhan.  Dywedodd bod hyn yn rhan o’r gofyniad o dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi trosolwg i bob asiantaeth partner a Llywodraeth Cymru o waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ei weithgaredd yn ystod y flwyddyn a’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.  Dywedodd bod gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei rôl ei hun o ran rhannu cyfeiriad clir ar gyfer datblygiad gwasanaeth o safbwynt integreiddio iechyd a gofal chymdeithasol er mwyn sicrhau lles eraill.

 

Cyfeiriodd at bwyntiau allweddol yn adran 3 o’r adroddiad llawn a oedd wedi’i atodi i’r papurau

 

·         Cod Ymarfer Awtistiaeth

·         Cyfalaf

·         Rhaglen Plant a Phobl Ifanc

·         Rheolwr

·         Llwybr Safonau Gofal Dementia (Cymru Gyfan)

·         Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu

·         Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad

·         Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

·         Cronfa Integreiddio Rhanbarthol.

·         Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant

·         Rhaglen Trawsnewid Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

·         Gweithlu

 

Gofynnodd y Cynghorydd Healey am faint yr oedd yn rhaid i blant aros cyn gweld ymgynghorydd yngl?n â’u hiechyd meddwl, a dywedodd hefyd ei bod yn bryderus a fyddai plant sy’n cael prydau ysgol yn cael pryd o fwyd pe baent yn cael eu hanfon adref, e.e. oherwydd llifogydd.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu nad oedd y data wrth law ganddi ynghylch amseroedd aros am wasanaethau iechyd plant a phobl ifanc ond y byddai’n gwneud ymholiadau.  Eglurodd hefyd bod darpariaeth prydau ysgol am ddim yn rhan o’r gwaith sy’n cael ei fwydo i mewn i’r adroddiad sefydlogrwydd y farchnad a bod asesiad o anghenion y boblogaeth yn ystyried niferoedd prydau ysgol am ddim hefyd, sydd yn helpu gyda chynllunio.  Dywedodd bob pob Asiantaeth Partner yn gyfrifol am ei waith ei hun yn ogystal â gwaith ar y cyd a bod Sir y Fflint wedi gweithio’n galed i gefnogi unigolion sy’n dibynnu’n drwm ar y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim.  Dywedodd er bod nifer fawr o ysgolion wedi cau’n ddiweddar oherwydd llifogydd, y cawsant eu cau’n fwriadol ar ôl 1pm fel bod y plant yn cael cinio.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y dylid holi  BIPBC y y tro nesaf y bydd cyfarfod ynghylch amseroedd aros i weld ymgynghorydd i blant ag anghenion iechyd meddwl.  Cyfeiriodd hefyd at adran 3.12 yr adroddiad yngl?n â’r rhaglen trawsnewid iechyd meddwl a chanmolodd y canolbwyntiau cymunedol a fu’n llwyddiannus mewn helpu pobl i gefnogi eu hunain.  Roedd hefyd eisiau gwneud y pwyllgor y ymwybodol fod Sir y Fflint yn arwain ar werth cymdeithasol aa bod hyn yn dal i fod yn rhan allweddol o ymdriniaeth Sir y Fflint.   Dywedodd mai’r Gr?p Rhanbarthol y cyfeirir ato yn yr adroddiad yw’r unig un yng Nghymru sydd wedi bod ar waith ers tua 3 - 4 blynedd erbyn hyn ac mai Cyngor Sir y Fflint oedd yn ei gadeirio

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thew os yw cost BPRhGC yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y 6 Sir a faint mae Sir y Fflint yn ei dalu   Dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu nad yw pob taliad yr un fath a’u bod yn seiliedig ar y fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol, felly roedd y cyfraniadau’n amrywio ond roedd yna hefyd gyfraniadau gan asiantaethau partner allweddol eraill, nid dim ond y 6 awdurdod lleol.  Dywedodd bod Sir y Fflint fel arfer yn talu £123,000 y flwyddyn ond y cafwyd gostyngiad o £50,000 ac  mai’r taliad yn 23/34 oedd £73,000, ond y bydd y tâl o bosibl yn mynd yn ôl i fyny i £123,000.  Dywedodd bod cyfeiriad at hyn yn y papurau ar effeithlonrwydd cyllidebol.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod sefydlu  Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn un o ofynion Llywodraeth Cymru a’i fod hefyd yn fuddsoddiad o ran amser ac adnoddau swyddogion, gan fod llawer o swyddogion yn eistedd ar lawer o gyfarfodydd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y Cynghorydd Thew, ymddiheurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) os oedd wedi ei chamarwain gan egluro fod pob rhanbarth wedi bod â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ers 4 - 5 blynedd a’r hyn yr oedd wedi’i ddweud oedd nad oes gan bob ardal Fforwm Cymdeithasol gweithredol, sydd yn wahanol, ond bod disgwyl yn awr i bob ardal yng Nghymru fod ag un â’u bod yn dal i fyny efo Sir y Fflint.  Awgrymodd hefyd y dylai ei sylwadau ynghylch fformiwla Barnett sy’n cosbi Sir y Fflint ac i bob pwrpas yn cynyddu Treth y Cyngor yn cael effaith ar breswylwyr Sir y Fflint gan fod yn rhaid iddynt deithio i ysbytai y tu allan i’r sir, sy’n ei gwneud yn anodd i rai fynd i apwyntiadau ac ymweld â chleifion, fod yn gwestiwn arall y dylid ei ofyn i BIPBC pan maen nhw’n cyfarfod nesaf.

 

Cafodd yr argymhelliad cyntaf ei ddiwygio ar gais y Cadeirydd a chafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd Gladys Healy a’i eilio gan y Cynghorydd Mel Buckley.  Cynigiwyd yr ail argymhelliad gan y Cynghorydd Gladys Healey a’i eilio gan y Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Bod yr Aelodau’n nodi cymhlethdod, ehangder a dyfnder y gwaith y mae'n rhaid i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ei wneud; a

(b)         Bod yr Aelodau’n nodi'r cynnydd yn 2022/23 ar y meysydd gwaith sy'n cael eu dwyn ymlaen trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Dogfennau ategol: