Agenda item

Balansau Cronfeydd wrth gefn Ysgolion y Flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023

Rhoi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Addysg) yr adroddiad blynyddol ar gronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion Sir y Fflint a’r risgiau a’r prosesau mewnol sy’n gysylltiedig ag ysgolion sydd mewn diffyg.  Roedd yr adroddiad wedi'i rannu â'r holl Benaethiaid ac wedi'i ystyried gan y Fforwm Cyllideb Ysgolion a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.

 

O gymharu â’r flwyddyn flaenorol, bu gostyngiad cyffredinol o 42.31% mewn lefelau cronfeydd wrth gefn ar draws pob sector ar 31 Mawrth 2023, yn ôl y disgwyl, oherwydd ystod o ffactorau.  Dangosodd dadansoddiad o'r sefyllfa fod y rhan fwyaf o ysgolion wedi defnyddio cyfran sylweddol o'u cronfeydd wrth gefn gan arwain at lefel is o gronfeydd wrth gefn nag yn yr un cyfnod y llynedd.  Roedd yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar yr heriau i ysgolion wrth osod eu cyllidebau cytbwys ar gyfer 2023/24 gan arwain at nifer o ddiswyddiadau gwirfoddol a deg ysgol yn gwneud cais am ddiffyg trwyddedig, gyda rhagamcanion ar gyfer cynnydd mewn diffygion erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) er bod cynnydd da wedi’i wneud o ran rheoli’r gostyngiad mewn diffygion mewn ysgolion (yn unol ag argymhelliad Estyn), roedd pryderon sylweddol am sefyllfa ariannol rhai ysgolion a’r anawsterau a wynebir gan Benaethiaid a llywodraethwyr wrth reoli eu cyllidebau yn effeithiol, o ystyried effeithiau parhaus y pandemig a phwysau chwyddiant.  Diolchodd i’r timau Cyllid a chyfrifwyr ysgolion am y cymorth ychwanegol a siaradodd am effeithiau bwlch cyllidebol rhagamcanol y Cyngor ar gyfer 2024/25 ar gyllid ac adnoddau dirprwyedig ysgolion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Brian Harvey ar ardaloedd o amddifadedd economaidd a chymdeithasol, cyfeiriwyd at yr effeithiau ehangach ar deuluoedd, dysgwyr ac ysgolion, ynghyd â gwaith ar y fformiwla ariannu ar gyfer y sector uwchradd a oedd yn anelu at dargedu cymorth yn y modd mwyaf effeithiol.

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Bernie Attridge, rhoddwyd eglurhad ar ymgysylltu â'r deg ysgol a adroddodd sefyllfa ddiffygiol.  Amcangyfrifwyd y byddai'r gwaith hwn wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Hydref, ond byddai angen ystyried yr effaith ar gyllidebau ysgolion ar gyfer 2024/25 yn ddiweddarach.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y Cynghorydd Allan Marshall fod y gostyngiad a ragwelwyd yng nghyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn i tua £2m ar 31 Mawrth 2024 yn seiliedig ar ystod o wybodaeth hysbys ar hyn o bryd.  Yn ogystal, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad am adrodd ar gronfeydd wrth gefn ysgolion yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Glyn Banks o gymharu â'r sefyllfa bum mlynedd yn ôl, siaradodd y Prif Swyddog am yr anawsterau wrth ragamcanu canlyniadau a'r tebygolrwydd na fyddai unrhyw grantiau addysg LlC yn cael eu dyfarnu yn hwyr yn y flwyddyn ariannol i ddylanwadu ar y sefyllfa derfynol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad manwl.  Mewn ymateb i gwestiynau, darparwyd gwybodaeth am y broses a gymeradwywyd ar gyfer diswyddiadau a goblygiadau cysylltiedig o ran cost, ynghyd â chefnogi ysgolion gyda chynlluniau ariannol tymor canolig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Sally Ellis, dywedodd y Prif Swyddog, er nad oedd polisi adleoli mewn lle, yr ymgysylltir ag ysgolion i liniaru'r posibilrwydd o ddiswyddiadau gorfodol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan Sally Ellis a’r Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi lefel cronfeydd wrth gefn ysgolion ar 31 Mawrth 2023 a throsolwg o sefyllfa ariannol gyfredol ysgolion.

Dogfennau ategol: