Agenda item
Blaenoriaethau’r Cynllun Cyfalaf Strategol
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Dydd Iau, 7fed Medi, 2023 2.00 pm (Eitem 23.)
- Cefndir eitem 23.
Sicrhau bod yr aelodau’n gefnogol i’r cynlluniau sydd wedi’u blaenoriaethu, a fydd yn cael eu cyflwyno gydag achosion busnes i Lywodraeth Cymru (LlC) i’w hystyried am gyllid cyfalaf.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu wybodaeth gefndir i’r adroddiad gan nodi bod y chwe rhanbarth yng Nghymru wedi cael cais gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd i grynhoi’r datblygiad allweddol sy’n ofynnol gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol gyda budd-ddeiliaid allweddol eraill i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol sylfaenol a chymunedol, yn benodol lle fyddai angen cyllid LlC i gefnogi’r datblygiadau hynny. Roedd yn rhaid i bob rhanbarth gael Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lle’r oedd arweinwyr strategol mewn gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector annibynnol yn dod at ei gilydd i greu gwasanaeth effeithiol ar gyfer y bobl yn y rhanbarth hwnnw. Y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol fyddai’n gyfrifol am oruchwylio gweithrediad y cynllun. Eglurodd fod y rhaglenni ariannu newydd wedi cael eu sefydlu a bod yr adroddiad hwn yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun 10 mlynedd a sut y byddai’n cael ei symud yn ei flaen. Trosglwyddodd yr awenau i’r Rheolwr Rhaglen (Y Dwyrain) - Gwasanaethau Cymunedol i egluro sut yr oeddent yn sicrhau bod y datblygiadau cyfalaf yn cyd-fynd, yn cefnogi ac yn diwallu anghenion trigolion Sir y Fflint.
Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen (Y Dwyrain) - Gwasanaethau Cymunedol ymddiheuriadau ar ran awdur yr adroddiad, sef Swyddog Arweiniol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn Sir y Fflint. Eglurodd fod y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol wedi disodli’r Gronfa Gofal Integredig yn 2022 a’i bod yn cynnwys elfennau o gyllid refeniw a chyllid cyfalaf. Atgoffodd yr Aelodau mai pwrpas yr adroddiad hwn oedd i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y broses newydd i ddatblygu Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd ar gyfer datblygiadau cyfalaf a oedd yn diwallu anghenion y rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Gogledd Cymru a oedd yn seiliedig ar y cyllid o’r cronfeydd cyfalaf canlynol:-
· Y Gronfa Tai â Gofal - Cyllid grant LlC ar gyfer prosiectau cyfalaf a oedd yn cynyddu’r stoc dai i ddiwallu anghenion pobl gydag anghenion gofal a chymorth.
· Y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso - Cyllid grant LlC ar gyfer prosiectau cyfalaf a oedd yn darparu canolbwyntiau cymunedol a chanolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig neu’n ailgydbwyso’r farchnad ofal drwy fuddsoddi mewn lleoliadau cymunedol ac eiddo gofal preswyl.
Eglurodd mai nid ceisio cytundeb ar gyfer datblygiad neu gyllid cyfalaf oedd bwriad yr adroddiad ond i Aelodau gael deall y broses newydd a’r gofyniad i ddatblygu cynllun 10 mlynedd. Dywedodd fod y cynlluniau o Sir y Fflint a oedd wedi cael eu nodi i’w cynnwys yn y cynllun eisoes wedi cael eu cymeradwyo ac yn rhan o’r rhaglen asedau cyfalaf.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Christine Jones wrth y Cynghorydd Woolley, fel y nodwyd yn yr adroddiad, nad oedd hyn wedi cael ei gyflwyno i’r Cabinet ac y byddai trafodaethau heddiw yn cael eu hadrodd yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.
Mynegodd y Cynghorydd Mackie bryderon ac fe ofynnodd am eglurhad ynghylch y Cynllun Rhanbarthol a’i fod yn seiliedig ar Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru a’r broses gymhleth yr oedd angen ei dilyn i gyflwyno Prosiectau Cyfalaf yn seiliedig ar y Cynllun 10 Mlynedd. Cytunodd y Cynghorydd Christine Jones fod y broses yn gymhleth a’i bod yn eitem ar raglen Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru y diwrnod canlynol. Ychwanegodd y Rheolwr Rhaglen (Y Dwyrain) - Gwasanaethau Cymunedol fod yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru eisoes mewn lle gyda rhaglen dreigl i gael y wybodaeth ddiweddaraf a bod angen i unrhyw bartner a oedd yn dymuno cynnwys datblygiad yn y Cynllun Cyfalaf Strategol nodi sut y byddai’r datblygiad yn cyfrannu at yr anghenion a nodwyd yn yr Asesiad Anghenion Poblogaeth. Eglurodd mai cyfeirio at y Cynllun Cyfalaf Strategol oedd yr adroddiad pan oedd yn cyfeirio at “y cynllun” ac nid oedd angen sawl dogfen, dim ond y Cynllun Cyfalaf Strategol hwn. Rhoddwyd pwyslais ar y ffaith fod bwriad cryf i gael Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd ym mhob rhanbarth a fyddai, mewn amser, yn dechrau cynnwys rhai o’r elfennau eraill y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad. Fodd bynnag, ar y pwynt hwn, nid oedd partneriaid mewn sefyllfa i wneud ymrwymiadau 10 mlynedd ac felly roeddent yn gweithio ar y sail o ychwanegu yr hyn roeddent yn gallu at y cynllun yn yr arfaeth ac yna’r cynllun byw gan ganolbwyntio’n bennaf ar y tair blynedd gyntaf. Dywedodd er eu bod eisoes ym mlwyddyn gyntaf y rownd ariannu 3 blynedd, roedd swyddogion wedi bod yn gweithio ar gynlluniau cyfalaf yn ystod blynyddoedd blaenorol felly nid oedd angen aros i’r Cynllun Cyfalaf Strategol gael ei gymeradwyo cyn dechrau gweithio ar y broses o gyflwyno ceisiadau am gyllid gan Lywodraeth Cymru a oedd bellach yn weithredol.
Mewn ymateb i’r Cynghorydd Gladys Healey, dywedodd y Rheolwr Rhaglen (Y Dwyrain) - Gwasanaethau Cymunedol fod y Cyngor eisoes wedi ymrwymo i ariannu cyfraniadau i bob cynllun a restrwyd yn y Rhaglen Asedau Cyfalaf. Ychwanegodd fod angen i’r Cynllun Cyfalaf Strategol gael ei ddatblygu dros gyfnod o amser er mwyn iddynt ymgymryd â’r broses o wneud cais am gyllid Llywodraeth Cymru o dan y rhaglen hon yn y dyfodol. Nid ceisio cymeradwyaeth am unrhyw gynlluniau cyfalaf neu gyllid oedd pwrpas y cais yn yr adroddiad, ond i’r Cyngor gymryd rhan yn natblygiad y Cynllun Cyfalaf Strategol. Cytunodd fod angen i’r Aelodau fod yn glir o ran yr hyn roeddent yn cytuno iddo, ond mewn gwirionedd, roedd pawb yn ceisio dyfeisio beth oedd yn digwydd nesaf ac roedd camau wedi cael eu rhoi mewn lle i gynyddu’r hyn y gellid ei wneud r?an gyda’r bwriad o lunio Cynllun 10 Mlynedd dros amser. Pwysleisiodd fod neges glir gan Sir y Fflint i gydweithwyr rhanbarthol na fyddai unrhyw beth yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Cyfalaf Strategol nad oedd eisoes wedi bod drwy broses Sir y Fflint, felly nid oedd unrhyw risg o ran cytuno i gymryd rhan mewn datblygu Cynllun Cyfalaf Strategol. Fodd bynnag, pe na bai’r Cyngor yn cymryd rhan yn y broses byddai’n dechrau cyfyngu cyfleoedd am gyllid yn y dyfodol. Awgrymodd, gyda chytundeb y Cadeirydd, eu bod yn glir iawn gyda’r Rheolwr Rhaglen Rhanbarthol yngl?n â’r pwyntiau a godwyd ac y byddai Aelodau yn ceisio gwybodaeth ychwanegol dros amser wrth i gwmpas y Cynllun Cyfalaf Strategol ddatblygu.
Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu fod hyn yn ymwneud â bwriad iddynt feddwl yn hirdymor ar draws bartneriaethau am fuddsoddiad cyfalaf a’u bod ar gamau cynnar hynny. Pwysleisiodd nad oedd ganddynt yr atebion i gyd, ond nid oedd hyn yn ymwneud ag adeiladau; roedd yn ymwneud ag angen partneriaethau i wneud i bethau weithio oddi mewn iddynt.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd McGuill, yngl?n â rhestr ddymuniadau ar gyfer datblygiad cyfalaf i ddiwallu anghenion poblogaeth Sir y Fflint, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu fod ganddynt restr ddatblygol ac roedd y pethau roeddent yn eu cyhoeddi r?an eisoes wedi bod yn cael eu datblygu dros y tair blynedd diwethaf ac roedd yn awr yn amser i benderfynu beth fyddai ei angen mewn tair blynedd arall.
Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen (Y Dwyrain) - Gwasanaethau Cymunedol i ddealltwriaeth y Cynghorydd Bill Crease o’r broses gan ddweud y dylai’r Cynllun 10 Mlynedd, dros amser, ddechrau rhoi ystyriaeth i grantiau gwahanol tu hwnt i’r rhai hynny a oedd wedi cael eu trafod heddiw. Cadarnhaodd mai dim ond am 3 blynedd fyddai cyllid y Gronfa Tai â Gofal a’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgybwyso ar gael. Gan ychwanegu at yr hyn a ddywedodd y Cynghorydd Crease, nid oedd y Cynghorydd Carol Ellis yn gweld sut y gallent gynllunio 10 mlynedd i’r dyfodol heb unrhyw gyllid mewn lle ac nid oedd yn gallu cytuno i rywbeth nad oedd yn ei ddeall yn bendant.
Awgrymodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu y dylai’r Aelodau ystyried fod tair blynedd o sicrwydd cymharol o arian wedi’i alinio o ran cyfalaf ar gyfer ymrwymiadau presennol yn Sir y Fflint. Er bod angen iddynt weithio tuag at gynllun 10 mlynedd, y gwirionedd oedd y byddent yn gwneud hynny fesul cam, dros amser wrth gael mwy o sicrwydd am y cyllid ar gael a’r blaenoriaethau ar gyfer y Cyngor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Christine Jones at argymhelliad (b) yn yr adroddiad a oedd yn gofyn i Aelodau gymeradwyo cymryd rhan yn y rhaglen ranbarthol - oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gofyn i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar draws Cymru i gytuno iddi.
Dywedodd y Cynghorydd Mackie y gallai San Steffan, Llywodraeth Cymru ac Aelodau Sir y Fflint fod yn gwbl wahanol mewn wyth mlynedd, ac fe allai hyn arwain at fwy o newidiadau ac y dylid edrych tu hwnt i’r pum mlynedd o fewn y cysyniad gwleidyddol, a oedd yn anodd. Roedd yn cydnabod fod angen i Sir y Fflint ddechrau cael ymrwymiad ariannol gan Lywodraeth Cymru o’r flwyddyn gyntaf neu fe allai golli allan ar gael cyllid yn ddiweddarach.
Dywedodd y Cynghorydd Tina Claydon y byddai’n pryderu’n arw pe na bai’r strategaeth hon yn cael ei datblygu a chytunodd gyda’r Cynghorydd Mackie y gallai cyllid yn y dyfodol gael ei gyfyngu os nad oedd y Cyngor yn cymryd rhan.
Cafodd argymhelliad (a) yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’i eilio gan y Cynghorydd Tina Claydon.
Fel yr awgrymwyd gan y Cadeirydd, cytunodd yr Aelodau y dylid diwygio argymhelliad (b) fel yr isod, ac fe gafodd hyn ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mackie a McGuill.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Aelodau’n nodi’r gofyniad am Gynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd ar gyfer Gogledd Cymru a’r prosesau blaenoriaethu ac achos busnes cysylltiedig sydd eu hangen i sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru; a
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet y dylid cymeradwyo cymryd rhan yn y cynllun a’i fwriad strategol.
Dogfennau ategol: