Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 6) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 6)

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 6) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 6).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 6 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £3.559 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog sydd i’w ddiwallu o arian wrth gefn), gyda balans o £3.776 miliwn yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl effaith amcangyfrifedig y dyfarniadau cyflog. Darparwyd crynodeb o’r amrywiadau arwyddocaol ar draws y portffolios yn ystod y cyfnod a thynnwyd sylw at Atodiad 2 sy’n cynnwys colofn ychwanegol yn nodi’r arbedion yn sgil gohirio gwariant ymrwymedig heb fod dan gontract. Mae olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys y sefyllfa ddiweddaraf ar y ffi torri cyfraith ailgylchu – roedd y Cabinet i fod i ystyried adroddiad ar hyn. Disgwylir i 99% o’r arbedion effeithlonrwydd sydd ar y gweill yn ystod y flwyddyn gael eu cyflawni yn 2023/24.

 

O ran cronfeydd heb eu clustnodi, bydd swyddogion yn sicrhau bod adroddiadau yn y dyfodol yn defnyddio’r enw Cronfa Argyfwng COVID er cysondeb, yn unol â’r cais.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant a ragwelir o £0.069 miliwn yn is na’r gyllideb yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.266 miliwn, sy’n uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Gan gydnabod newidiadau yn y galw am wasanaeth, teimlodd y Cynghorydd Bernie Attridge y gellir fod wedi gwneud rhagamcaniadau mwy cywir mewn rhai meysydd. Gofynnodd am ragor o wybodaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol am y gorwariant o £0.307 miliwn yng nghyllideb Anableddau Corfforol a Nam ar y Synhwyrau, y cynnydd yn y galw am gyfarfodydd Gr?p Teulu a’r amrywiad o £0.821 ar gyfer cefnogaeth broffesiynol (Gwasanaethau Plant) yn cynnwys y gorwariant yng nghyllideb Gadael Gofal a ddylid, yn ei farn ef, fod wedi’i ragweld.

 

Cytunodd y Rheolwr Corfforaethol i anfon y cwestiynau hyn ymlaen i’r Gwasanaethau Cymdeithasol eu hateb. O ran y cwestiynau eraill, siaradodd am y 5 lleoliad y tu allan i’r sir a’r broses ar gyfer ystyried y trefniadau hynny. O ran newid defnydd cronfa wrth gefn a glustnodwyd dros dro i ariannu gwaith o fewn y gwasanaeth Carelink, dywedodd fod trefniadau croes-gymhorthdal yn caniatáu cwrdd â’r gwariant hwn yn defnyddio Cronfa’r Cyngor heb effeithio ar y cronfeydd wrth gefn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau ar y costau cyfreithiol uwch, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dull a ddefnyddir i reoli swyddi gweigion parhaus, yn cynnwys defnyddio locwm arbenigol yn y Gwasanaethau Plant i ddelio gyda’r cynnydd mewn gorchmynion amddiffyn plant. Dywedodd nad oes modd rhagweld y cynnydd yn y galw oherwydd natur y gwasanaethau a bod costau’r achosion mwy cymhleth a gyfeirir at fargyfreithwyr allanol yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Wrth amlygu diogelwch plant fel blaenoriaeth ar gyfer y Cyngor, cyfeiriodd y Cynghorydd Christine Jones at yr heriau wrth geisio rhagweld y galw a recriwtio gweithwyr cymdeithasol cymwys.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bill Crease y gwaith a wneir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i amddiffyn plant. Mewn ymateb i sylwadau ar ragamcanu mwy cywir, siaradodd y Rheolwr Corfforaethol am yr anawsterau mewn rhai gwasanaethau a sicrhaodd yr Aelodau fod yna waith monitro manwl yn cael ei wneud ar y gyllideb gyda dyraniadau wrth gefn yn cael eu rhoi o’r neilltu.

 

O ran newid defnydd y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd dros dro, gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am eglurhad ynghylch y defnydd o’r gronfa Diwygio'r Gyfundrefn Les ac a yw wedi’i defnyddio ar gyfer Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai. Gofynnodd hefyd a oes unrhyw gyllid arall a glustnodwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi’i gynnwys yn y gronfa wrth gefn honno ac, os nac oes, ble mae’r grantiau hynny wedi’u dyrannu, ynghyd â manylion unrhyw gyfyngiad ar ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn hynny.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oes angen y gronfa wrth gefn ar gyfer Diwygio'r Gyfundrefn Les ar hyn o bryd, ac y bydd yn cael ei hail-lenwi ar gyfer 2024/25. Cytunodd i siarad gyda chydweithwyr i gael ymateb manylach i’r ymholiadau. O ran rhagamcanion cyfraddau llog ar gyfer cyllideb 2024/25, cyfeiriodd at y gwaith modelu parhaus sy’n cael ei wneud i fanteisio ar gyfraniadau i’r gyllideb yn seiliedig ar y cyngor rheoli’r trysorlys a’r rhagamcanu.

 

Holodd y Cynghorydd Sam Swash ynghylch gorwariant sylweddol Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth o ystyried yr adroddiad diweddar ar ffyrdd heb eu mabwysiadu a oedd yn dweud bod y gwaith sydd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn wedi’i ariannu yn defnyddio cyllidebau refeniw presennol. Dywedwyd fod asesiadau risg yn rhan o weithgareddau bob dydd ac y gofynnir i’r Prif Swyddog ddarparu ymateb ar gyfran y gorwariant sydd wedi’i wario ar waith ar ffyrdd heb eu mabwysiadu. O ran costau storm Babet, bydd ymateb yn cael ei geisio gan y Rheolwr Refeniw ar gyllidebu ar gyfer eithriadau Treth y Cyngor o ystyried amlder y digwyddiadau tywydd garw.

 

Yn unol â chais y Cadeirydd, darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ynghylch costau rhagamcanol Storm Babet, a oedd uwchlaw’r trothwy ar gyfer y Cynllun Cymorth Ariannol Brys. Bydd ymateb ar wahân yn cael ei rannu i egluro’r credyd NDR ‘annisgwyl unwaith yn unig’ a gyfeirir ato ym mharagraff 1.07 ac effaith refeniw grantiau ychwanegol Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau Cynhwysiant a Dilyniant.

 

Ar y pwynt hwn, cafwyd seibiant byr cyn ystyried yr eitemau a oedd yn weddill.

 

Y Rhaglen Gyfalaf

 

Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 oedd £94.662 miliwn, gan ystyried yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i’r rhaglen. Roedd newidiadau yn ystod y cyfnod yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ac ailbroffilio’r gyllideb. Roedd y sefyllfa alldro a ragwelwyd yn £93.449 miliwn gan adael £1.213 miliwn o danwariant a argymhellwyd y dylid ei gario drosodd er mwyn cwblhau cynlluniau yn 2024/25 fel y nodwyd. Mae’r adroddiad yn manylu ar un dyraniad ychwanegol a ellir ei ariannu drwy’r ddarpariaeth ‘hyblygrwydd’ bresennol; ac nid oes arbedion wedi’u nodi yn ystod y cyfnod. Roedd y sefyllfa gyffredinol ar ariannu cynlluniau cymeradwy yn adlewyrchu £1.996 miliwn o arian dros ben cyn ystyried y derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllid.

 

Yn ystod y drafodaeth ar Dabl 6, eglurodd y Prif Weithredwr fod y ffigyrau yn cynrychioli buddsoddiad mewn meysydd yn ystod y cyfnod adrodd, yn cynnwys prosiectau mawr. Tra bod mwy o fanylion yn Atodiad C, cytunwyd y dylai’r tabl yn y dyfodol fod yn fwy i gynnwys buddsoddiadau dros y pum mlynedd ddiwethaf er mwyn cael y darlun ehangach.

 

Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a’r Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (mis 6) bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw fater penodol i’w godi gyda’r Cabinet; ac

 

(b)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (mis 6) bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw fater penodol i’w godi gyda’r Cabinet.

Dogfennau ategol: