Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 4)

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 4).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol adroddiadau ar sefyllfa mis 4 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £2.644 miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad cyflog sydd i’w ddiwallu o arian wrth gefn), gyda balans o £4.043 miliwn yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn (ar ôl effaith amcangyfrifedig y dyfarniadau cyflog).  Cadarnhawyd bod Cyllid Caledi a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn ystod 2022/23 wedi dod i ben bellach, a bod balans o £3.743 miliwn o’r arian wrth gefn hwnnw wedi ei gario ymlaen.  Yr oedd y rhagolygon economaidd yn dal i fod yn heriol o ganlyniad i gynnydd chwyddiannol parhaus a chynnydd yn y galw ar wasanaethau.  Rhoddwyd crynodeb o’r sefyllfa a ragwelir ar draws portffolios ac, yn unol â chais blaenorol, byddai adroddiadau monitro’r gyllideb yn y dyfodol yn cynnwys dadansoddiad o symudiadau.

 

Yr oedd trosolwg o risgiau yn cynnwys sefyllfa ddiweddaraf y tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, y galw cynyddol am wasanaethau digartrefedd a lleoliadau y tu allan i’r sir, ac adnewyddiad contract y fflyd, a oedd ar ddod.  Yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol, amcangyfrifwyd y byddai 99% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd wedi eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Parthed y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelwyd y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.065 miliwn yn is na’r gyllideb, a rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol yn £3.262 miliwn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am ddyraniad y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a roddwyd o’r neilltu ar ffurf llinell cyllideb refeniw a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn gwneud cyfanswm o oddeutu £0.250 miliwn.  Gofynnodd hefyd i gael gwybodaeth ar gyfer y cyfarfod nesaf am refeniw a godwyd o’r cynnydd mewn premiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi ar gyfer y flwyddyn bresennol o’i gymharu â’r blynyddoedd diwethaf.

 

Cytunodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gysylltu â Rheolwr Refeniw a Chaffael i ddarparu’r ail beth.  Parthed yr ymholiad yngl?n â’r CDLl, eglurwyd bod trosglwyddiad y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a oedd yn weddill o 2022/23 wedi ei gynnwys yn y cronfeydd wrth gefn at raid a ddygwyd ymlaen i’r flwyddyn bresennol.  Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y dyraniad refeniw CDLl sydd ar ôl (oddeutu £110,000) yn dal i fod yng nghyllideb Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer 2023/24. Perodd hyn i’r Cynghorydd Sam Swash holi pam nad oedd y swm hwn wedi ei drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn i gynorthwyo’r sefyllfa gyffredinol.  Cytunodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ddarparu ymateb ar wahân.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod gwaith yn mynd rhagddo i adolygu unrhyw ddyraniadau nad oedd wedi eu gwario, heb ymrwymiadau contract, y gellid eu rhoi mewn cronfeydd wrth gefn.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge yngl?n â nifer y symudiadau mewn cyllidebau a gymeradwywyd ar y cam cynnar hwn, cytunodd y Cadeirydd ac awgrymu bod y gorwariant ar gyfer pecynnau iechyd meddwl yn cael ei gyfeirio at y Gwasanaethau Cymdeithasol i gael eglurhad pellach yngl?n â sut yr amcangyfrifid costau.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Christine Jones sylwadau am y pwysau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, a byddai’n ceisio cael ymateb llawn gan Reolwr y Gwasanaeth.

 

Wrth gyfeirio at amgylchiadau presennol y farchnad a chostau uchel cysylltiedig, siaradodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol am y galwadau cyfnewidiol a chymhleth ar rai gwasanaethau.

 

Yn unol â chais y Cadeirydd, rhoddodd Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad am ailddyrannu prisiadau actiwaraidd ar gyllidebau pensiynau, a byddai’n darparu trosolwg o’r newidiadau i gyllidebau a gymeradwywyd a ddangosir yn Nhabl 1.  Mewn perthynas â’r tanwariant o £0.414 miliwn ar gyfer lleoliadau preswyl yng Ngwasanaethau Plant, byddai ymateb yn cael ei rannu hefyd am yr effaith posibl ar y gyllideb pan fydd grant LlC wedi dod i ben y tu hwnt i 2024/25.

 

Parthed y gorwariant yng ngwasanaeth Tai a Chymunedau, dywedodd y swyddogion y byddai’r adroddiad am ddigartrefedd, sy’n cael ei baratoi gan y gwasanaeth, yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor cyn gynted â phosibl.

 

Y Rhaglen Gyfalaf

 

Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 oedd £99.084 miliwn, gan ystyried yr holl newidiadau, gan gynnwys symiau a ddygwyd ymlaen.  Yr oedd newidiadau yn ystod y cyfnod yn bennaf oherwydd dyraniad cyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn.  Yr oedd y sefyllfa derfynol a ragwelwyd yn £95.955 miliwn, a oedd yn gadael £3.129 miliwn o danwariant, yr argymhellwyd y dylid ei gario ymlaen er mwyn cwblhau cynlluniau yn 2024/25.  Yn ystod y chwarter, nodwyd un dyraniad ychwanegol yn y rhaglen, fel y manylir yn yr adroddiad, ac ni nodwyd unrhyw arbedion.  Yr oedd derbyniadau cyfalaf am y cyfnod yn gwneud cyfanswm o £0.651 miliwn, a oedd yn rhoi gwarged diwygiedig a ragwelir yn y Rhaglen Gyfalaf ym mis 4 o £1.953 miliwn ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2023/24-2025/26, cyn realeiddio derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau ariannu eraill.  Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyda dangosyddion darbodus yn unol â’r gofyniad newydd.

 

Gan ystyried sefyllfa’r gyllideb, gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge a ddylid gosod moratoriwm ar unrhyw wariant cyfalaf nad yw’n un brys, sydd heb ei ymrwymo eto.

 

Cadarnhaodd y swyddogion pob agwedd o wariant y Cyngor yn cael ei hadolygu a’i hystyried fesul achos.

 

Parthed y dyraniad ychwanegol o £0.055 miliwn ar gyfer offer cyfarfodydd hybrid yn Ystafell Delyn, gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am ddadansoddiad o’r gost er mwyn gallu ystyried a oedd hyn yn rhoi gwerth am arian.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad am y gwaith hwn a chytunodd i rannu gwybodaeth gyfrinachol yn ymwneud â’r contract gyda’r Aelodau yn unol â’r cais.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (mis 4), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet;

 

(b)       Bod adroddiad ar wahân sy’n cael ei baratoi gan wasanaeth Tai a Chymunedau yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor cyn gynted â phosibl; ac

 

(b)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (mis 4), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

Dogfennau ategol: