Agenda item

Trosolwg o Gwynion Moesegol

Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn rhagor o benderfyniadau ers paratoi’r adroddiad, ond y byddant yn cael eu hadrodd mewn cyfarfod arall. Er mwyn cynorthwyo Aelodau, roedd wedi lliwio’r achosion a oedd eisoes wedi cael eu hystyried yn llwyd.

 

  Rhoddwyd trosolwg o’r cwynion a dderbyniwyd, ac amlygwyd gwybodaeth y rhai oedd yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, a’r nifer o gwynion a wrthodwyd o’r cychwyn cyntaf gan yr Ombwdsmon ar sail diffyg tystiolaeth. Roedd hyn yn rhan o brawf dau gam yr Ombwdsmon, gyda gwybodaeth o’r dystiolaeth a’r broses eu hangen ynghyd â’r manylion a oedd wedi’u cynnwys yn y llythyrau gwrthod. Roedd yn anodd nodi themâu penodol, ond roedd elfennau o fwlio, sef yr unig thema amlwg.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a oedd yn amlygu cynnydd yn y nifer o gwynion a gafwyd mewn perthynas â chydraddoldeb a pharch. Gofynnodd a oedd y Swyddog Monitro’n teimlo fod hy yn cael ei adlewyrchu yng nghwynion Sir y Fflint. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Monitro fod dwy neu dair cwyn wedi cynnwys bwlio, a oedd yn cyd-fynd â chydraddoldeb a pharch, ac fe’i adroddwyd fel achos o dorri’r Cod.

 

Yna, cyfeiriodd y Swyddog Monitro at yr Adroddiad Cryno, a oedd yn ymwneud â chwyn yn dilyn Etholiad llynedd. Darparwyd trosolwg o’r gwyn, ynghyd â chyfeiriad at ei effaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd yr achwynydd, yn dilyn blwyddyn yn y swydd, wedi gofyn i’r Ombwdsmon dynnu’r gwyn yn ôl. Roedd yr Ombwdsmon wedi ystyried hyn, ond dywedodd fod y term “prynwyd’ a oedd wedi cael ei ddefnyddio mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, yn amharchus ac wedi dwyn anfri ar yr awdurdod.  Byddai’r achos hwn wedi mynd i wrandawiad oherwydd y derminoleg a ddefnyddiwyd. Roedd y gwyn yn cynnwys elfen o fwlio, ond nid oedd yr Ombwdsmon yn cefnogi hyn, ond daeth i’r casgliad ei fod yn amharchus ac yn awgrymu anweddustra. Oherwydd yr ymddiheuriad cyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol, a’r achwynydd yn dymuno peidio parhau â hyn, ni chafodd yr achos wrandawiad. Yn ôl canfyddiadau’r Ombwdsmon, bu achos o dorri’r Cod. Byddai’r crynodeb yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ombwdsmon, ac yn cael ei gyfeirio i’r adroddiadau “fy nghanfyddiadau” nesaf. Roedd y Swyddog Monitro wedi gofyn i’r Ombwdsmon am adroddiad manylach er mwyn ei rannu gyda’r Pwyllgor mewn sesiwn breifat, ond roedd yn dal i ddisgwyl ymateb.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad a fyddai’n cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ombwdsmon, a gofynnodd a oedd gofyn i’r Pwyllgor Safonau a’r Cyngor Sir gyhoeddi unrhyw beth ar ei wefan ei hun. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd, gan mai’r unig ofyniad oedd cyhoeddi canlyniad gwrandawiad gan Banel Dyfarnu Cymru.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd yn ôl i’r adborth yn yr adroddiad cryno, ac wrth aros am yr adroddiad manylach, gofynnodd a ddylid ystyried unrhyw hyfforddiant penodol. Roedd y Swyddog Monitro yn teimlo y gellir ymdrin â hyn gyda’r hyfforddiant a ddarperir.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Antony Wren a Jacqueline Guest.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r nifer a’r math o gwynion.

 

Dogfennau ategol: