Agenda item

Newidiadau cynllunio i gynnwys gofynion ar gyfer gwefru Passivhaus/solar/EV a gynigiwyd gan y Cyng. Rose a'r Cyng. Mansell

Cael adroddiad ar y cyfleoedd a’r cyfyngiadau mewn polisi cynllunio cyfredol mewn perthynas ag ymgorffori dulliau gostwng carbon.

Cofnodion:

            Cyflwynodd Adrian Walters, Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio yr adroddiad a nododd y cyd-destun polisi cenedlaethol a lleol a nodwyd y polisïau perthnasol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol o ran datblygiad cynaliadwy ac ystyriaethau Newid Hinsawdd.

 

            O ran Passivhaus, dywedodd nad oedd deddfwriaeth na chanllaw cynllunio cenedlaethol a oedd yn gofyn i dai newydd fod yn ddyluniad Passivhaus. Darparodd wybodaeth ar sut mae’r eiddo hyn wedi cael eu hadeiladu a’r gost uchel ynghlwm o’i gymharu ag adeiladu tai traddodiadol, a theimlodd y byddai datblygwyr yn amharod i dderbyn gan ei fod yn syniad eithaf newydd. Hefyd gallai hyn ddylanwadu prynwyr oherwydd y pris prynu uwch a diffydd dealltwriaeth o beth sydd yn rhan o adeiladu’r cartrefi hyn, a dyma pam bod y rhain yn dueddol o fod yn ddatblygiadau unigol. Soniodd am enghreifftiau o gyrff cyhoeddus neu gynghorau a oedd wedi rhoi tir oedd ar gael ar gyfer adeiladu tai a werthwyd ar gyfradd lai neu gyfradd tocyn i gymdeithas dai, ac arweiniodd at gyfleoedd ar gyfer datblygiadau Passivhaus. Ar hyn o bryd roedd y rhain yn brin iawn o ran maint.

            Gan gyfeirio at baneli solar, eglurodd nad oedd gofyniad dan ddeddfwriaeth na chanllaw cenedlaethol ar gyfer paneli solar gael eu cynnwys o fewn datblygiadau tai newydd. Cafodd hyn ei gynnwys o fewn y Rheoliadau Adeiladau dan Ran L gyda Chynllunio wedi’i roi yn flaenorol fel ynni adnewyddadwy fel rhan o ddatblygiad tai, cod ar gyfer tai cynaliadwy, ac roedd gwybodaeth am hyn wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Roedd hyn yn arafu’r system gynllunio felly symudodd Llywodraeth Cymru hyn i Reoliadau Adeiladau, lle’r oeddynt yn teimlo ei fod yn gweddu yn well. Roedd CDLl wedi edrych ar ynni adnewyddadwy drwy gyflawni Asesiad Ynni Adnewyddadwy yn dilyn canllaw gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio Adnodd Ynni Adnewyddadwy. Roedd hyn wedi adnabod cwmpas ar draws y sir ar gyfer ffermydd solar, ac adnabuwyd tair ar ddeg o ardaloedd ynghyd â chynigion am ddatblygiadau ynni o wastraff. Roedd gan y Cynllun bolisi ar sail meini prawf a fyddai’n ei ganiatáu i asesu unrhyw gynigion math o ynni adnewyddadwy a oedd yn dod gerbron y Cyngor.

 

            Gan gyfeirio at bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan, dywedodd bod angen i Lywodraeth Cymru fel rhan o ddatblygiadau masnachol bod â 10% o fannau parcio ceir sy’n cael eu cadw ar gyfer gwefru cerbydau trydan. Doedd dim gofyniad ar ddatblygiadau tai ac roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y CDLl. Gan gyfeirio at gapasiti grid trydan a phwyntiau cysylltiad, dywedodd byddai broblemau petai bob un cartref ar ddatblygiad tai ar raddfa bwyntiau gwefru cerbyd a allai gael goblygiadau ar yr is-orsafoedd a diweddariadau i’r Grid.

 

            Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod nod bod datblygiadau newydd yn garbon niwtral erbyn 2025, ac roedd wedi nodi cwmpas ar gyfer y cyngor, adeiladau cyhoeddus a thai cymdeithasol i arwain y ffordd. Dim ond yn ddiweddar roedd yr Arolygiaeth Gynllunio Annibynnol wedi archwilio’r CDLl, ac ni wnaethpwyd unrhyw argymhellion gan Lywodraeth Cymru nad oedd y Cynllun yn alinio gyda’r Canllaw Cenedlaethol. Roedd y CDLl yn darparu sicrwydd i bawb sy’n gysylltiedig ar yr hyn roedd angen ar gyfer datblygiadau newydd, ac i gyflwyno canllaw newydd nad oedd wedi’i gefnogi gan y Canllaw Cenedlaethol neu Ddeddfwriaeth, a fyddai’n cael goblygiadau ac yn arwain at wrthwynebiadau gan adeiladwyr tai gyda goblygiadau ar gyfer tai fforddiadwy, addysg ayyb. Dywedodd nad oedd y Canllaw Cenedlaethol yn rhoi digon o wybodaeth i roi adnoddau i awdurdodau cynllunio lleol i fynd ymhellach o ran beth oedd yn ofynnol ar gyfer datblygiadau tai newydd. Roedd llawer o gwmpas ar gyfer y Cyngor, fel perchennog tir, i edrych ar y mesurau hyn fel rhan o’i adeiladau a stoc ei hun, a lle’r oedd yn gweithredu fel hwylusydd datblygiad newydd gan weithio gyda deiliaid tir, cartrefi newydd a chymdeithas dai, yn gosod y safonau uwch ar gyfer ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni.

               

            Nid oedd yr Arweinydd Tîm eisiau ymddangos yn negyddol yn ei ymatebion, roedd y system cyfredol yn rhwystredig, ond roedd ychydig o negeseuon cadarnhaol.

               

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at ffurfio’r CDLl nesaf a gofynnodd nifer o gwestiynau ynghylch cyflwyno’r polisïau o gapasiti solar ar ddatblygiadau newydd. Mewn ymateb, teimlodd yr Arweinydd Tîm roedd rhaid rhoi ystyriaeth y bydd hi’n bedair blynedd cyn y bydd angen adolygu’r cynllun, a gellir gwneud newidiadau gan y Canllaw Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ynghylch â rhai o’r materion hyn.  Byddai unrhyw newidiadau yn cael eu herio’n gadarn gan y diwydiant adeiladu tai o ran hyfywedd, os yw’r cyngor angen polisi bod ynni solar yn cael ei gynnwys mewn datblygiadau newydd. Byddai unrhyw newidiadau yn cael eu gwerthuso o ran cadernid gydag un o’r profion oedd ei fod yn gyson gyda chanllaw presennol a byddai’r Arolygydd yn edrych ar hyn.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Rose at y Passivhaus a oedd wedi bod yn bodoli ers 1988, gyda 30 mlynedd o dystiolaeth ryngwladol yn cefnogi hyn, a gofynnwyd a ellir gwneud cyswllt gydag Ymddiriedolaeth Passivhaus i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r tîm Cynllunio. Gan gyfeirio at ddisgwyliadau o’r asesiad ynni sy’n ofynnol i fwy na chant o dai, teimlodd y dylai hyn fod yn eithriad ar gyfer holl eiddo a ni ddylid caniatáu gwastraff ynni. Roedd yn teimlo na ddylai gwrthwynebiadau gan ddatblygwyr er elw fynd yn uwch na’r effaith ar hinsawdd. Gofynnodd os gellir anfon llythyr i’r Gweinidog Newid Hinsawdd i amlinellu rhwystredigaeth y pwyllgor o ran deddfwriaeth Cynllunio ynghylch pa mor bell y gellir gwthio hwn mewn perthynas â phaneli solar ac isafswm safon diogelwch ynni.  Nid yn unig ar gyfer yr hinsawdd ond ar gyfer pobl sydd yn byw yn yr eiddo hwn a chenedlaethau’r dyfodol.

 

            Derbyniodd yr Arweinydd Tîm bod Passivhaus wedi bodoli ers peth amser ond mae’r diwydiant adeiladu tai wedi datblygu ei ffordd o feddwl dros y degawdau ac yn gyndyn o newid. Roedd am gymryd llawer o amser i newid pethau yn anffodus.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Sam Swash at y ddeiseb cyfredol gan Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ddeddfu bod pob datblygiad newydd yng Nghymru yn cael paneli solar, yr oedd y Gweinidog wedi’i wrthod.  Nid oedd yn rhagweld unrhyw gynnydd unrhyw bryd yn fuan a oedd yn bryderus ar gyfer y CDLl nesaf mewn pedair blynedd. Amlygodd hyn y pwysigrwydd y Cyngor hwn yn bod yn hy wrth gyflwyno’r gofynion hyn ac os oedd datblygwyr eisiau herio’r gofynion hyn, ac roedd Llywodraeth Cymru am gytuno i’r heriau hynny, a fyddai’n gwneud i’r datblygwyr a Llywodraeth Cymru edrych yn ddrwg, ac nid y Cyngor.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gan edrych ymlaen at y dyfodol y gallai’r Cyngor wrthod cais cynllunio oherwydd nad oedd ganddo baneli solar a byddai’n anochel yn arwain at apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw.  Nid oedd gan y Cyngor statws Polisi Cynllunio i gefnogi’r gwrthwynebiad hynny a fyddai’n golygu y byddai rhaid i’r Cyngor dalu am yr apêl os yw wedi gweithredu’n afresymol. Roedd yn teimlo mai’r prif yrrwr yn y galw hwn, ac os oedd effeithlonrwydd ynni mewn paneli solar yna byddai’r cwsmer y  cwmnïau tai yn mynnu hyn. Roedd hyn yn gweithio gyda rhai datblygwyr yn dechrau cynnwys hwn o fewn eu tai patrwm llyfr yng Nghaer gyda phaneli solar wedi eu hadeiladu ar y to. Gobeithir y bydd galw gan ddefnyddiwr yn gyrru newid ymddygiad y datblygwyr.

 

            Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn dda wrth drafod galw cwsmer i adeiladwyr tai, ond gyda’r farchnad fel yr oedd byddai sefyllfa lle nad yw’r cyflenwad a’r galw yn gytbwys ac felly doedd gan ddefnyddwyr ddim llawer o b?er yn y maes hwn a’i fod yn benderfyniad y wladwriaeth, Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth Genedlaethol i arwain a symud hyn.

 

            Dywedodd y Cadeirydd bod y Cynghorydd Rose wedi cynnig newid i’r argymhelliad i gynnwys ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd a eiliwyd gan y Cynghorydd Swash.

 

            Derbyniodd y Cynghorydd Marshall, y cynigydd gwreiddiol yr argymhelliad y newid, a hefyd derbyniodd yr eilydd, y Cynghorydd Eastwood.

 

Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhelliad ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod yr Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad hwn a’r fframwaith cynllunio sydd ar gael i hwyluso datblygiad ynni adnewyddadwy a lleihau carbon drwy system gynllunio.

(b)      Anfon llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd i amlinellu rhwystredigaeth y pwyllgor o ran deddfwriaeth Cynllunio ynghylch pa mor bell y gellir gwthio hwn mewn perthynas â phaneli solar ac isafswm safon diogelwch ynni. 

 

Dogfennau ategol: