Agenda item
Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24
Adroddiad Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) - Aelod Cabinet Tai ac Adfywio.
Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:
- Copi o’r adroddiad - Taliadau Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24
- Copi o’r Cofnod o Benderfyniad
- Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn
Cofnodion:
Sylwadau gan y rhai a lofnododd y cais galw i mewn
Diolchodd y Cynghorydd Bernie Attridge y Pwyllgor am ystyried yr hysbysiad galw i mewn a gwnaeth sylw ar y drafodaeth a gynhaliwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor mewn perthynas â ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol cyn cymeradwyaeth y Cabinet. Atgoffodd yr Aelodau bod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ym Mehefin 2023, wedi gofyn i’r Cabinet ystyried rhannu’r cynyddiadau arfaethedig dros gyfnod hirach er mwyn lleihau’r effaith ariannol ar denantiaid y Cyngor. Dywedodd ei fod wedi mynychu’r cyfarfod Cabinet ac adroddodd nad oedd unrhyw beth wedi newid ers i Graffu ystyried yr adroddiad a chwestiynodd a oedd gwerthusiad o’r dewisiadau wedi cael ei gyflawni er mwyn ystyried lledaenu’r gost dros 3 blynedd, gan nad oedd y wybodaeth hon wedi cael ei chynnwys yn yr adroddiad. Atgoffodd yr Aelodau o’r penderfyniad blaenorol a wnaed gan y tenantiaid i aros gyda’r Cyngor, sef y bleidlais o hyder fwyaf o’r gwasanaeth a ddarparwyd gan y Cyngor ar y pryd. Dywedodd bod y cynnydd mewn ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol yn benderfyniad gwleidyddol, ac er y gellir derbyn cyngor gan y swyddogion, oni bai bod penderfyniad yn cael ei wneud gan yr Aelodau a oedd yn anghyfreithlon, nid oedd rhaid i Aelodau dderbyn y cyngor gan y swyddogion.
Gwnaeth y Cynghorydd Attridge sylw ar y lefel o rent oedd yn cael ei golli yn sgil y nifer o eiddo gwag a chododd bryderon o ran ffaith ariannol y byddai’r ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol yn ei gael ar denantiaid tra bod y Cyngor yn parhau i golli arian yn sgil eiddo gwag. Cododd bryderon mewn perthynas â’r defnydd o ardaloedd cymunedol ac y byddai’n rhaid i denantiaid dalu am ffioedd gwresogi pan nad oeddent yn defnyddio’r gofod, neu os fyddai’n gofod yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau nad oedd yn byw yn yr eiddo. Cyfeiriodd ar yr argyfwng costau byw presennol a bod rhaid i rai tenantiaid ddewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu fwyta, a gofynnodd i’r Cabinet ail-ystyried y cynnydd mewn ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Bill Crease at ei gostau gwresogi ei hun mewn perthynas â’r cynnydd i denantiaid, a dywedodd ei fod yn bryderus wrth weld yr adroddiad fod rhai o’r cynnydd yn dangos cynnydd o £486 i £2800 y flwyddyn, a dywedodd bod hyn yn cynrychioli 25% o bensiwn henoed rhywun. Dywedodd bod y ffioedd hyn yn cael eu rhoi ar y trigolion mwyaf diamddiffyn yn y Sir na fyddai mewn sefyllfa i allu talu’r cynnydd arfaethedig.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Thew fod y cynnydd arfaethedig yn greulon. Dywedodd er bod Aelodau wedi cael gwybod bod y trigolion wedi cael eu hysbysu am y cynnydd, nid oedd hi’n credu y byddent yn disgwyl cynnydd mor uchel. Dywedodd y byddai’r cynnydd yn effeithio ar drigolion diamddiffyn a oedd yn annhebygol o gael unrhyw fodd arall o incwm a chefnogodd awgrym y Cynghorydd Attridge y dylai’r cynnydd gael ei gymhwyso dros gyfnod hirach o amser. Gofynnodd a oedd mesurau wedi cael eu cymryd i sicrhau fod yr eiddo yn effeithlon o ran ynni.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dale Selvester at y cynnydd mewn costau ynni yn ei gartref ei hun, a oedd yn llai na’r hyn a oedd yn cael ei gynnig fel rhan o’r ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol. Cyfeiriodd ar ei rôl flaenorol fel swyddog tai, a dywedodd yn ystod y cyfnod hwn, roedd ardaloedd cymunedol mewn eiddo bob amser yn boeth a theimlodd y gallai rheolyddion gwresogi yn yr ardaloedd hyn gael eu hadolygu cyn cynyddu’r gost ar gyfer tenantiaid. Dywedodd bod y Cynghorwyr wedi cael eu hethol i gynrychioli tenantiaid a darparu tai fforddiadwy a chwestiynodd sut oedd y costau cynyddol yn gwneud yr eiddo yn fforddiadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Allan Marshall ei fod wedi bod yn trafod gyda swyddogion tai o ran cyddwysiad a llwydni mewn eiddo. Dywedodd ei fod wedi gwylio’r cyfarfod Cabinet, lle adroddwyd nad oedd rheolyddion gwresogi unigol yn yr eiddo, ac y byddent yn cael eu cyflwyno dros y 12 mis nesaf. Dywedodd fod Arweinydd y Cyngor, yn ystod y cyfarfod, wedi diolch i’r Aelodau a’r swyddogion am eu gwaith o ran gosod cladin yn adeiladau uchel yn y Fflint a bod tystiolaeth fod y cladin yn effeithlon yn sgil y nifer o ffenestri oedd ar agor. Gofynnodd sut oedd mesuryddion d?r poeth yn gweithio ar gyfer fflatiau unigol a hefyd a oedd y rheolyddion unigol n cael eu rhoi i denantiaid er mwyn troi eu gwres ymlaen ac i ffwrdd, a fyddai hyn yn cael effaith ar leithder a llwydni yn yr eiddo. Hefyd gofynnodd pe byddai manylion y deunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer cladin yn adeiladau uchel y Fflint yn gallu cael ei ddarparu ar ôl y cyfarfod.
Ymatebion gan y penderfynwyr
Dywedodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio ei fod yn bryderus am y ffigyrau a oedd yn cael eu hadrodd gan y bobl a wnaeth gais am y galwad i mewn, gan fod y rhain yn cyfeirio at y costau dechreuol yn seiliedig ar y cynnydd gan y darparwr ynni, a oedd wedi cynyddu o 515%. Cyfeiriodd at dabl 2 o fewn yr adroddiad a oedd yn dangos y ffioedd diwygiedig yn seiliedig ar y mesurau a gymerwyd gan y Cyngor i leihau’r ffioedd, gan ddod â’r cynnydd i lawr i 197%. Roedd yn cydnabod bod hyn yn dal i fod yn gynnydd sylweddol i denantiaid, ond dywedodd fod y Cabinet wedi gwneud gwaith sylweddol i leihau’r gost i denantiaid.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol ac Asedau Tai fod y ffioedd gwirioneddol i’r tenantiaid wedi’i nodi yn nhabl 2 a oedd yn dangos gostyngiad yn y ffioedd gwreiddiol o 44%. Roedd y swyddogion wedi ystyried data cymharol gan Nwy Prydain a thenantiaid cymdeithasol a oedd yn dangos fod aelwyd gyffredinol yn talu rhwng £933 am eiddo 1 ystafell wely a £1,346 am eiddo 3 ystafell wely, ac roedd hyn yn dangos fod y costau arfaethedig yn yr ystod ar gyfer aelwyd gyffredin yn seiliedig ar ddata cymharol. Hefyd dywedodd, yn dilyn cyflwyniad y Rhwydwaith Gwresogi, byddai tenantiaid ond yn talu am eu bil unigol a byddai ganddynt fwy o reolaeth dros y gwres ac yn gallu rheoli eu gwres hefyd.
Gofynnodd y Cadeirydd pryd fyddai’r Rhwydwaith Gwresogi yn digwydd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai y byddai hyn yn cael ei gyflawni dros y 12 mis nesaf. Cynigwyd y byddai mesuryddion unigol yn cael eu gosod yn eiddo tenantiaid er mwyn rhoi rheolyddion unigol iddynt. Byddai holl wresogyddion yn eiddo tenantiaid yn cael eu hynysu, gan alluogi i denantiaid osod tymheredd y gwresogyddion yn ogystal â’u troi ymlaen ac i ffwrdd. Byddai cyngor yn cael ei ddarparu i denantiaid o ran lleithder a llwydni.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd gan lofnodwyr a alwodd y penderfyniad i mewn unrhyw gwestiynau pellach.
Dywedodd y Cynghorydd Cease bod y cynnydd diwygiedig a nodwyd yn nhabl 2 yn dal i gynrychioli 10/12% o incwm pensiynwr sengl. Dywedodd ei fod yn deall fod angen i gostau ynni gael ei dalu, ond cyfeiriodd at yr argymhelliad a wnaed yn flaenorol o ran lledaenu’r gost dros gyfnod hirach o amser er mwyn cynorthwyo tenantiaid diamddiffyn, na fyddai wedi cyllidebu ar gyfer cynnydd o’r fath.
Dywedodd y Cynghorydd Attridge y gallai weld yn nhabl 2 yr adroddiad y byddai cynnydd yn y pris ar gyfer eiddo 1 ystafell wely yn codi o £6.20 yr wythnos i £18.85 yr wythnos, a chwestiynodd sut oedd hyn yn iawn. Dywedodd ei fod wedi siarad gyda thenantiaid gan ofyn a oeddent wedi derbyn unrhyw gyfathrebiad gan y Cyngor, ac nid oedd wedi siarad gydag un tenant a oedd wedi derbyn llythyr, a gofynnodd fod copi o’r llythyr yn cael ei ddarparu yn dilyn y cyfarfod. Gwnaeth sylw at gyfatebiaeth flaenorol i denantiaid o ran Tai Gwarchod, ac yn y gorffennol byddai hyn wedi cael ei ystyried yn arfer da i’w ddefnyddio gan holl adrannau o’r Cyngor, ond nid oedd yn credu mai hyn oedd yr achos y tro hwn. Gofynnodd i’r Aelod Cabinet a oedd y dewis i ledaenu’r gost dros gyfnod hirach wedi cael ei ddarparu iddo, ynghyd â’r effaith y byddai hyn wedi ei gael ar y Cyfrif Refeniw Tai cyn penderfyniad y Cabinet.
Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet ei fod wedi holi’r swyddogion i edrych ar y costau o ledaenu’r ffioedd dros gyfnod hirach a gofynnodd i’r Rheolwr Asedau Tai a Chyllid Strategol i ddarparu eglurhad i’r Aelodau o ran pam nad oedd hyn yn bosibl.
Eglurodd y Rheolwr Asedau Tai a Chyllid Strategol fod yr anawsterau o ran lledaenu’r ffioedd dros gyfnod o 3 blynedd yn ddeublyg. Roedd prisiau nwy yn parhau i fod yn ansefydlog ac wrth ystyried y data oedd ar gael, hyd yn oed gyda gostyngiad o 12.7% eleni, byddai cynnydd o hyd at 50% y flwyddyn nesaf, ac eto'r flwyddyn ganlynol. Ar y pryd, roedd tenantiaid yn derbyn cymorth ac nid oedd sicrwydd y byddai hyn ar gael yn y blynyddoedd i ddod pe bai’r cynnydd yn cael ei oedi. Roedd yn bwysig bod y ffioedd yn deg, ac roedd yr holl denantiaid cymdeithasol eraill wedi bod yn talu’r cynnydd dros y 12 mis diwethaf, ac felly byddai’r gost o ddiddymu’r ffioedd yn cael ei adennill yn erbyn holl rent tenantiaid Cyfrif Refeniw Tai.
Gofynnodd y Cadeirydd beth fyddai’ gost petai’r cynnydd mewn ffioedd yn cael ei ddiddymu. Dywedodd y Rheolwr Asedau Tai a Chyllid Strategol ar hyn o bryd yn flynyddol y swm fyddai £80,000.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) ar y cyfathrebu gyda thenantiaid a dywedodd y llynedd pan oedd prisiau ynni yn fyd-eang yn codi, ystyriwyd y byddai hyn yn cael effaith ar ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol. Cysylltodd y Cyngor gyda’r tenantiaid y llynedd er mwyn eu hysbysu y byddai’n debygol y bydd y cynnydd mewn ffioedd yn sylweddol, ond nid oedd y ffigyrau’n hysbys ar y pryd. Yn dilyn hyn, anfonwyd llythyr arall i denantiaid, ac arweiniodd hyn at 1 ymholiad gan denant pryderus. Hefyd dywedodd y byddai’r ffioedd dros 50 wythnos a oedd yn dilyn yr un ffioedd â rhent gyda 2 wythnos am ddim y flwyddyn.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y gyfatebiaeth a anfonwyd i denantiaid o ran ffioedd d?r a’r pryderon a godwyd pan ddangoswyd y ffioedd. Teimlodd y byddai’r un peth yn digwydd gyda ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol, o ystyried mai dim ond 1 ymholiad oedd wedi’i dderbyn ar hyn o bryd.
Gofynnodd y Cadeirydd a hoffai unrhyw aelodau o’r Pwyllgor ofyn cwestiwn.
Cwestiynodd y Cynghorydd Ted Palmer y gwahaniaeth rhwng ffioedd ar gyfer eiddo 1 ystafell wely ar draws Sir y Fflint, a gofynnodd a ddylent fod yr un fath. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai fod hyn yn ymwneud â’r math o eiddo, adeilad a chynllun a sut oedd y systemau gwresogi yn cael eu defnyddio. Bydd ei dîm yn adolygu’r systemau gwresogi gan fod rhai wedi cael eu hadnewyddu’n ddiweddar. Byddai lefelau ychwanegol o reolyddion yn cael eu hychwanegu fel y gall denantiaid eu haddasu i’w hanghenion.
Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin yr Aelod Cabinet i gadarnhau a oedd y cynnydd yr oedd wedi’i nodi yn gynnydd arfaethedig o £900 yn flynyddol, a dywedodd bod hyn yn ymddangos yn uchel. Hefyd cwestiynodd a oedd unrhyw ostyngiadau mewn costau, o ganlyniad i’r Rhwydwaith Wresogi ar gyfer tenantiaid. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet fod y ffigyrau a nododd am ffi flynyddol o £1397 yn cyfeirio ar eiddo 3 ystafell wely yn yr Wyddgrug, a oedd yn gynnydd blynyddol o £900.
Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai y byddai rheolyddion ychwanegol yn cael eu gosod ar gyfer tenantiaid a fydd yn cael eu symud i filiau unigol. O ran gostyngiadau, roedd angen i’r Cyngor fod yn ofalus gan fod bil presennol a oedd angen ei basio i denantiaid yn gyfreithiol, o ran eu defnydd o ynni, ond pan fyddent yn symud i fesuryddion a biliau unigol, ni fyddai’r Cyngor yn rhoi tenantiaid mewn sefyllfa o gan bil unigol a pharhau i fod mewn dyled â’r Cyngor. Eglurodd y Rheolwr Asedau Tai a Chyllid Strategol, unwaith i’r Rhwydwaith Wresogi sefydlu ac unwaith i ddefnydd unigol gael ei sefydlu, gallai’r Cyngor ddechrau casglu gwybodaeth ar eu defnydd gwirioneddol a chodi tâl yn seiliedig ar eu tariff a’i defnydd presennol.
Diolchodd y Cynghorydd Pam Banks y swyddogion am y gwaith a gyflawnwyd ar osodiadau yn yr eiddo yn ei ward. Dywedodd ei bod wedi gwylio’r cyfarfod Cabinet ac roedd yn cefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Attridge, o ran yr ychydig iawn o drafodaeth a gafwyd cyn gwneud y penderfyniad. Am y rheswm hynny, dywedodd y byddai’n cefnogi i’r adroddiad gael ei ystyried gan Graffu eto.
Dywedodd y Cynghorydd Selvester nad oedd yn teimlo fod yr effaith o gynyddu ffioedd wedi cael ei ystyried. Teimlodd y byddai’r eiddo yn dod yn amhoblogaidd a fyddai’n cael effaith negyddol ar ffigyrau eiddo gwag a chynnydd yn nifer o eiddo anodd ei gosod.
Hefyd, gwnaeth y Cynghorydd Attridge sylw ar eiddo gwag a chwestiynodd y penderfyniad i beidio â diddymu’r ffioedd ar gost o £80,000 o’i gymharu â lefelau rhent yn cael eu colli drwy nifer o eiddo gwag. Dywedodd na fyddai’n gadael y tenantiaid ar draws Sir y Fflint i lawr, na ddylai fod yn destun y ffioedd cynyddol, a dywedodd mai penderfyniad gwleidyddol oedd hyn. Dywedodd y byddai’n ceisio cefnogaeth i gyfeirio’r adroddiad yn ôl i’r Cabinet er mwyn ail-ystyried eu penderfyniad.
Gwahoddodd y Cadeirydd y rhai a alwodd y penderfyniad i mewn i grynhoi.
Roedd y Cynghorydd Attridge yn teimlo fod yr achos wedi cael ei wneud i ofyn i’r Cabinet ail-ystyried y penderfyniad hwn. Dywedodd bod nifer o denantiaid yn dewis i wresogi eu tai neu fwyta, ac y byddai’r ffioedd cynyddol yn rhoi mwy o bwysau ariannol ar rhai o’r tenantiaid mwyaf diamddiffyn. Gofynnodd i’r Pwyllgor gefnogi’r cynnig i’r adroddiad hwn gael ei ail-ystyried gan y Cabinet.
Dywedodd y Cynghorydd Thew nad oedd gan y tenantiaid ddewis ar hyn o bryd i droi eu gwres i lawr ac felly teimlodd ei fod yn annheg cynyddu’r ffioedd gyda rhai tenantiaid methu â fforddio hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Crease ei fod wedi rhestru dros y 15 mis diwethaf, fel Aelod newydd, y pwysau ariannol a wynebwyd gan y Cyngor yn sgil caledi, ac roedd wedi gorfod derbyn rhai penderfyniadau yn sgil hyn, ond roedd yn teimlo y dylai’r penderfyniad i gynyddu’r ffioedd i denantiaid diamddiffyn gael ei ystyried gyda thrugaredd ac nid oherwydd ei fod yn ddarbodus.
Gwahoddodd y Cadeirydd y gwneuthurwyr penderfyniad i grynhoi.
Roedd y Rheolwr Asedau Tai a Chyllid Strategol yn deall fod y cynnydd mewn ffioedd yn llawer uwch na’r hyn a welwyd gan yr Aelodau yn y blynyddoedd blaenorol, ond dywedodd eu bod o ganlyniad i ansicrwydd yn y farchnad ynni. Atgoffodd yr Aelodau fod ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol yn cael eu hystyried fel gwasanaeth arbennig a oedd yn effeithio ar denantiaid penodol yn unig o fewn y Cyfrif Refeniw Tai. Dywedodd bod y canllawiau Cyfrif Refeniw Tai yn amlinellu y byddai ffioedd cymunedol yn cael eu hasesu’n gywir a’u hadennill yn llawn gan ddefnyddwyr y gwasanaeth yn unig.
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) y gefnogaeth a ddarparwyd i denantiaid a dywedodd y byddai hyn yn parhau. Hefyd dywedodd bod gan y Cyngor y cyfraddau gorau ar draws Cymru o ran dosbarth grantiau Llywodraeth i gefnogi tenantiaid a phetai cynlluniau yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol, byddai’r Cyngor yn llwyddiannus gyda’r rheiny hefyd. Roedd trefniadau cefnogi mewn lle ac yn cael eu holrhain er mwyn cefnogi tenantiaid sydd ei angen, a hefyd ni fyddai camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn erbyn y tenantiaid hynny nad all fforddio’r ffioedd.
Gofynnodd y Cynghorydd Attridge os oedd y canllawiau Cyfrif Refeniw Tai yn ganllawiau neu’n gyfraith a oedd rhaid ei ddilyn. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Asedau Tai a Chyllid Strategol fod Llywodraeth Cymru (LlC) flynyddoedd yn ôl wedi cyflwyno Llawlyfr Cyfrif Refeniw Tai a oedd yn god ymarfer ar gyfer dibenion cyfrifeg.
Amlygodd yr Aelod Cabinet y rhesymau a ddarparwyd gan y swyddogion o ran yr effaith ariannol o ledaenu’r gost dros nifer o flynyddoedd ar y Cyfrif Refeniw Tai. Dywedodd fod y cynnydd mewn costau ynni wedi effeithio ar holl denantiaid nad oedd yn gallu cael mynediad at gymorth gan y Llywodraeth, ac roedd angen tegwch ar gyfer holl denantiaid y Cyngor.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Hwylusydd atgoffa’r Aelodau o’r dewisiadau ar gyfer gwneud penderfyniad fel y manylwyd yn eitem 3 ar y rhaglen.
Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn cynnig Dewis 3, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Dale Selvester, gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi a gwnaeth y nifer gofynnol o Aelodau gefnogi hyn.
O'i roi i bleidlais wedi’i chofnodi, collwyd y cynnig fel a ganlyn:
O blaid y cynnig:
Y Cynghorwyr: Bernie Attridge, Pam Banks, Helen Brown, Dale Selvester a Linda Thew
Yn erbyn y cynnig:
Y Cynghorwyr: Gillian Brockley, Tina Claydon, Geoff Collett, Rosetta Dolphin, Ray Hughes, Ted Palmer a Kevin Rush
Cynigodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin ddewis 2, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.
O'i roi i bleidlais wedi’i chofnodi, pasiwyd y cynnig fel a ganlyn:
O blaid y cynnig:
Y Cynghorwyr: Gillian Brockley, Tina Claydon, Geoff Collett, Rosetta Dolphin, Ray Hughes, Ted Palmer a Kevin Rush
Yn erbyn y cynnig:
Y Cynghorwyr: Bernie Attridge, Pam Banks, Helen Brown, Dale Selvester a Linda Thew
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried y penderfyniad, bod yr eglurhad yn cael ei dderbyn ond nid ei gefnogi gan y Pwyllgor.
Dogfennau ategol:
- Cabinet Report - Communal Heating Charges 2023-24, eitem 16. PDF 137 KB
- Cabinet Decision, eitem 16. PDF 48 KB
- Call In Notice, eitem 16. PDF 46 KB