Agenda item

Darparu gwasanaethau cyhoeddus yn yr 21ain ganrif: Gwasanaethau a Rennir

Pwrpas:        Ym mis Ebrill 2023, cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor ar ddulliau darparu amgen: “Darparu gwasanaethau cyhoeddus yn yr 21ain ganriftrosolwg”.  Yn y cyfarfod, gofynnwyd am adroddiad dilynol ar un dull darparu amgen arbennig (gwasanaethau arbennig)   Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o wasanaethau a rannir gydag enghreifftiau lleol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) adroddiad ar wasanaethau a rennir yn dilyn trafodaeth ym mis Ebrill a oedd yn archwilio’r buddion a’r cyfyngiadau o anfon gwaith allan ac/neu greu gwasanaethau a rennir fel ffordd o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor.  Mae’r adroddiad wedi darparu rhagolwg cryno o wasanaethau a rennir ynghyd ag enghreifftiau lleol gan gynnwys astudiaeth achos ar Wasanaethau Caffael ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych.

 

Cafwyd cyflwyniad gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar y Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff a Rennir yng Ngogledd Cymru.  Yn ogystal â chynnwys manylion ar y profiadau o sefydlu gwasanaeth a rennir, fe amlygodd y cyflwyniad y buddion, heriau a’r hyn sydd wedi cael ei ddysgu.  O fod wedi rhannu â’r Royal Town Planning Institute and Minerals Planning Association for the UK yn ddiweddar cafodd ei gydnabod fel arfer dda ar gyfer gwasanaethau gydag adnoddau cyfyngedig.

 

Wrth groesawu’r cyflwyniad dyma’r Cadeirydd yn atgoffa’r Pwyllgor  o gefndir y cais ar gyfer yr eitem hon, yn arbennig i edrych ar rannu gwasanaethau swyddfa gefn fel yr ochr gyfreithiol, TGCh ac ati a oedd wedi gweithio’n dda yn y sector breifat.   Siaradodd am y buddion a’r heriau wrth ystyried rhannu adnoddau.

 

Cafodd ei sylwadau eu hailadrodd gan y Cynghorydd Bill Crease a gyfeiriodd at y posibilrwydd o ddatblygu ceisiadau TGCh safonol ar draws y sefydliad i gyflawni arbedion tymor byr.  Wrth gydnabod yr heriau o gytuno ar ddull unedig gydag awdurdodau eraill, fe roddodd enghreifftiau o le mae’n bosib gwneud arbedion ar y cyd.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i’r sylwadau a siaradwyd am yr amcan allweddol ar gyfer trefniadau ar y cyd i gyflawni gwell gwasanaethau gyda buddion ariannol.   Aeth ymlaen i ddweud bod y mwyafrif o’r costau gwasanaeth yn berthnasol i staff ac felly roedd lleihau nifer y staff yn un o’r prif ffyrdd o arbed costau drwy greu gwasanaethau a rennir.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at y cymhlethdodau ac awgrymwyd edrych ar enghreifftiau ar draws y DU.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Crease am ddull cyson ar draws portffolios i adnabod cyfleoedd y byddai’r Pwyllgor yn gallu eu goruchwylio’n rheolaidd.

 

Siaradodd y Cadeirydd am rôl y Pwyllgor a gofynnodd a byddai Aelodau’n dymuno derbyn gwybodaeth ar fentrau ar y cyd gan gynnwys enghreifftiau o awdurdodau yn cydweithio ar draws y rhanbarth.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at fodel gweithredu syml y Cyngor a’i sefyllfa ariannol bresennol ac ar gyfer y dyfodol, gan dynnu sylw at yr amser a’r adnoddau sydd ei angen i ddeall y goblygiadau a’r risgiau.    Dywedodd y byddai cyfleoedd yn parhau i gael eu harchwilio ac awgrymodd y byddai’n cyfathrebu gyda swyddogion i drefnu ar gyfer cyflwyniadau ar amrywiol themâu ar gyfer gwasanaethau/contractau i gael eu rhannu â’r Pwyllgor, ar y cyd â swyddogion perthnasol.

 

Cytunodd y Cadeirydd a gofynnodd fod swyddogion yn ymgysylltu ag ef ar hyn.   Cynigodd yr argymhelliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a bod yr enghreifftiau lleol o wasanaethau a rennir, gan gynnwys y rheiny yn yr atodiad a’r cyflwyniad cysylltiedig; a

 

(b)       Bod swyddogion yn cyfathrebu gyda’r Cadeirydd er mwyn trefnu cyflwyniadau ar amryw o themâu mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Dogfennau ategol: