Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (alldro)

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn darparu sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a sefyllfa alldro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022/23.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol adroddiadau ar ganlyniad terfynol 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Gyda Chronfa’r Cyngor roedd symudiad ffafriol o £0.907m o fis 11 wedi golygu sefyllfa derfynol o arian dros ben o £3.013m.   Fodd bynnag nodwyd fod amryw o eitemau unwaith ac am byth o ran gwariant wedi dod i £5.876m wedi cael eu cymeradwyo am gyllid o’r Gronfa Arian wrth Gefn a bod cymryd y cyfansymiau hyn o’r gyllideb refeniw yn ystod y flwyddyn wedi golygu gorwariant net cyffredinol o £2.863m ar gyfer 2022/23.  Balans y gronfa arian wrth gefn ar 31 Mawrth 2023 oedd £9.508m ar ôl cymryd y dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol i ystyriaeth.  Mae taliadau sy’n dod i £5.419m wedi cael eu hawlio o Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru, er ni fu cadarnhad y byddai’r cyllid yn parhau ar gyfer 2023/24.

 

Dangoswyd amrywiadau rhwng mis 11 ac roedd y canlyniad terfynol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gan gynnwys manylion o symudiadau sylweddol ar hyd portffolios.  Mae trosolwg o risgiau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys cyfansymiau ychwanegol yng nghyllideb 2023/24 i adlewyrchu’r galw uchel am Leoliadau Allan o’r Sir, Digartrefedd a gwasanaethau Cludiant Ysgol tra bod symudiad cadarnhaol ar gasglu Treth y Cyngor yn cael ei groesawu.   Adroddwyd hefyd bod yr holl effeithiolrwydd wedi’i gynllunio wedi cael ei gyflawni yn ystod y flwyddyn a bod balans o £3.743m o Gronfeydd wrth Gefn Brys Covid-19 yn cael eu cario ymlaen.  Derbyniwyd trosolwg o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ynghyd â dadansoddiad o’r sefyllfa derfynol a’r lefel cronfa arian wrth gefn dros y pum mlynedd diwethaf.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai’r sefyllfa derfynol yn dangos gwariant o £2,688m yn fwy na’r gyllideb a oedd yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.786m, a oedd yn llawer uwch na’r canllawiau a argymhellwyd.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, cafwyd eglurhad ar y cynnydd mewn incwm o eiddo o dan Wasanaethau Cymdeithasol a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd wedi’u cario ymlaen i gwrdd â’r ymrwymiadau yn weddill gyda’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Ar Wasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth fe ofynnodd y Cynghorydd Sam Swash am y tebygolrwydd o dâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff yn cael ei gyflwyno ar y Cyngor.   Ymatebodd y swyddog fod hyn yn dal i gael ei drafod gan Lywodraeth Cymru ac y byddai ceisio derbyn y newyddion diweddaraf gan y portffolio.

 

Rhoddwyd eglurhad hefyd i’r Cynghorydd Allan Marshall ar gyflwyno data yn y tabl o gronfeydd arian wrth gefn a oedd yn dangos lefelau ar ddiwedd y flwyddyn yn symud ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Talodd y Cynghorydd Paul Johnson deyrnged i’r gwaith sydd wedi cael ei wneud i gyrraedd sefyllfa weithredu lle mae arian dros ben ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Dyma’r Cadeirydd yn diolch i’r Rheolwr Refeniw a Chaffael a’i dîm am y sefyllfa derfynol gadarnhaol wrth gasglu Treth y Cyngor.   Yn ôl y cais fe ddarparodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar symudiadau bychain munud olaf rhwng cyllidebau wedi’u cymeradwyo a dywedwyd o fis 4 y byddai gwybodaeth yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad ar yr holl symudiadau i gyllidebau wedi’u cymeradwyo.   Amlygodd y Cadeirydd hefyd ymrwymiad y Pwyllgor ar leihau dyled ar gyfer cyd-becynnau gofal iechyd parhaus a’r budd o ran llif arian i’r sefyllfa ariannol derfynol.

 

Y Rhaglen Gyfalaf

 

Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 oedd £58.830m, gan ystyried yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i’r rhaglen.  Roedd newidiadau yn ystod y chwarter olaf yn bennaf oherwydd cyflwyno ariannu grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ac ailbroffilio’r gyllideb.  Cyfanswm y gwariant gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn oedd £55.013 miliwn a oedd yn 93.51% o’r gyllideb, gan adael £3.817 miliwn o danwariant a argymhellwyd y dylid ei gario ymlaen ar gyfer cwblhau cynlluniau yn 2023/24.  Cafodd dyraniadau ychwanegol eu hadnabod yn y chwarter olaf eu crynhoi ym mharagraff 1.16.  Nodwyd cyfanswm arbedion o £0.013 miliwn ac roedd y sefyllfa derfynol wedi arwain at sefyllfa ariannol ddiwygiedig o arian dros ben o £1.302 miliwn, cyn ystyried y derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffrydiau cyllido eraill.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr  Allan Marshall a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (sefyllfa derfynol), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet; ac

 

(b)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (sefyllfa derfynol), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

Dogfennau ategol: