Agenda item
Estyn allan i'r gymuned ehangach ar Newid Hinsawdd
- Cyfarfod Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Dydd Mawrth, 23ain Mai, 2023 2.00 pm (Eitem 4.)
- Cefndir eitem 4.
Pwrpas: Trafod cynnwys y Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu drafft ar gyfer y Rhaglen Newid Hinsawdd a chytuno ar ddull i’r Pwyllgor ymgysylltu â’r cyhoedd a phobl ifanc.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd David Healey fersiwn ddrafft o’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer y Rhaglen Newid Hinsawdd er mwyn cytuno ar y dull o ymgysylltu â’r cyhoedd ac yn benodol, pobl ifanc. Croesawodd benodiad diweddar Ben Turpin fel Swyddog Prosiect yn y tîm Newid Hinsawdd.
Rhannodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon gyflwyniad am y Cynllun drafft oedd yn manylu ei bwrpas, Egwyddorion Arweiniol a chydymffurfio a Chydraddoldeb, Cynhwysiant a Safonau’r Gymraeg. Fe nodwyd grwpiau budd-ddeiliaid a lefelau ymgysylltu a byddai gweithgareddau’n cael eu monitro gan y tîm Newid Hinsawdd gyda chynlluniau gweithredu i gyd-fynd a fyddai’n esblygu i ategu llwyddiant y rhaglen.
Gwahoddwyd y Pwyllgor i awgrymu gweithgareddau eraill o dan y penawdau canlynol, yn ogystal â’r rheini a amlinellwyd yn y cyflwyniad.
Eiriolaeth ac Ymgysylltu
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chrissy Gee at ymarfer drws i ddrws blaenorol a fu’n llwyddiannus yn annog mwy o breswylwyr i ailgylchu.
Dywedodd y Cynghorydd David Healey y dylid dewis ardaloedd targed lle y byddai’n ddymunol i breswylwyr newid ymddygiad. Tra bod gwybodaeth ar gael ar y wefan, roedd yn teimlo y gallai’r neges gael ei darparu mewn modd mwy hygyrch drwy gyfrwng graffig ar steil cart?n, allai apelio at fwy o bobl. Fe soniodd hefyd am yr ymarfer blaenorol o rannu negeseuon pwysig o fewn gohebiaeth Treth y Cyngor.
Cafodd pwysigrwydd ymgysylltu â’r cyhoedd ei gydnabod gan y Cynghorydd Bernie Attridge a awgrymodd y gallai’r tîm Cyfathrebu fod yn rhan o gefnogi digwyddiadau cymunedol, ymweld ag ysgolion ac ati, er mwyn cyrraedd preswylwyr nad oedd yn defnyddio gwefan y Cyngor.
Awgrymodd y Cynghorydd Mared Eastwood erthyglau wedi’u hysgrifennu’n barod a chlipiau i wrando arnynt y gallai Aelodau eu llwytho i’w tudalennau gwe/newyddlenni er mwyn lledaenu neges gyson. Fe awgrymodd hefyd fwrdd dathlu i hyrwyddo cyflawniadau wrth leihau carbon.
Fe awgrymodd y Cynghorydd Steve Copple y gallai Cynghorau Tref a Chymuned gynorthwyo i ledaenu’r prif negeseuon ac y gallai cefnogwyr Newid Hinsawdd enwebedig ar lefel leol helpu gyda chyhoeddusrwydd mewn ysgolion a digwyddiadau.
Ar ôl siarad am y camau yr oedd wedi’u cymryd i fesur ei gyfradd ailgylchu ei hun, gofynnodd y Cynghorydd Allan Marshall a oedd hi’n bosibl i gyhoeddi data amser-real ar y wefan i ddangos ardaloedd sy’n perfformio’n dda ac yn wael.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Hodge y byddai ymarfer casglu sbwriel yn ei ardal yn helpu i ymgysylltu gyda phobl iau a chodi ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol. Roedd yn cefnogi defnyddio posteri i dynnu sylw at fentrau amgylcheddol, ar yr amod eu bod yn cael eu diweddaru er mwyn cynnal diddordeb, ac awgrymodd eu bod yn creu masgot ailgylchu Sir y Fflint mewn steil cart?n.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Dan Rose bwysigrwydd dyfynnu ystadegau er mwyn atgyfnerthu prif negeseuon, fel y dangoswyd yng nghyflwyniad rheoli mannau agored a rannwyd yn y gweithdy ym mis Ionawr. Dywedodd y gallai cyhoeddi data ailgylchu ardal achosi problemau yn sgil y demograffeg amrywiol ac awgrymodd y gallai’r Cyngor ymgysylltu gyda phartneriaid presennol megis Bionet ar ddigwyddiadau lleol.
Roedd y Cynghorydd Carolyn Preece yn cytuno gyda’r angen am negeseuon cyson a chryno oedd yn ymdrin â phob mater rheoli hinsawdd. O ran digwyddiadau, fe awgrymodd ymgysylltu gyda grwpiau cyfryngau cymdeithasol megis Mold Plastic Reduction a chynrychiolwyr Eco mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Pan ofynnodd y Rheolwr Rhaglen, dywedodd tua hanner y Pwyllgor y byddent yn teimlo’n gyfforddus yn siarad am newid hinsawdd heb gael rhagor o hyfforddiant.
Negeseuon Allweddol
Roedd y Cadeirydd yn teimlo ei bod hi’n bwysig egluro na fyddai camau gweithredu o fewn y cynllun yn cyflawni net sero, ond byddent yn ceisio lleihau allyriadau trwy gynnwys ymdrech ehangach y tîm Newid Hinsawdd ac uwch swyddogion. Dywedodd fod angen derbyn ar bob lefel er mwyn annog newid.
Roedd y Cynghorydd Copple yn cytuno y byddai newid ond digwydd petai pawb yn chwarae eu rhan.
Dywedodd y Cynghorydd Rose y gellir gofyn i unigolion ystyried nid yn unig newidiadau yn eu bywydau eu hunain ond i adnabod cyfleoedd ar draws eu busnesau a sefydliadau allai gael mwy o effaith.
Amcanion
Dywedodd y Cynghorydd Healey y dylai newidiadau allweddol penodol gael eu nodi - yn ogystal ag ailgylchu - gan nodi ei bod yn bosibl y bydd oblygiadau ariannol ynghlwm â rhai ohonynt. Fe awgrymodd hefyd y gallai arwyddair helpu i hyrwyddo newidiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Eastwood y byddai cyhoeddi cyfres o negeseuon sydyn ‘wyddoch chi?’ yn helpu i godi ymwybyddiaeth o weithredoedd dyddiol er mwyn lliniaru newid hinsawdd. Fe soniodd hefyd y byddai gan rai preswylwyr ddiddordeb clywed beth oedd y Cyngor yn mynd i wneud i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Dywedodd y Cynghorydd Sam Swash y byddai cwis yn helpu i adnabod unrhyw fylchau.
Dywedodd y Cadeirydd y dylai’r dull o ymgysylltu gydnabod na fyddai newid yn ymddygiad defnyddwyr yn unig yn datrys yr argyfwng, heb i’r isadeiledd a’r polisïau angenrheidiol fod yn eu lle.
Dywedodd y Cynghorydd Copple y dylai defnyddwyr gael eu hannog i fynegi eu pryderon er mwyn dylanwadu ar weithredoedd cyflenwyr, sefydliadau ac ati.
Roedd y Rheolwr Rhaglen yn annog pob Aelod i gofrestru i gael e-newyddlen Newid Hinsawdd (sy’n cynnwys adran gwybodaeth a chrynodeb o brosiectau/digwyddiadau) a’i hyrwyddo i breswylwyr. Cytunodd i rannu dolen ar ôl y cyfarfod.
I gloi’r eitem, diolchodd y Cynghorydd Healey i Aelodau am eu cyfraniadau i’r drafodaeth.
Dogfennau ategol: