Agenda item

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi.

 

Cynghorydd Bernie Attridge: Adolygiad o ddechrau'r flwyddyn gwyliau blynyddol.

Cofnodion:

Derbyniwyd un cwestiwn ac roedd yr Aelodau wedi cael copi, yn cynnwys yr ymateb:

 

Y Cynghorydd Bernie Attridge

 

“All yr Aelod Cabinet ymrwymo i adolygiad brys o wyliau gweithwyr oherwydd bod llawer o weithwyr yn cymryd gwyliau blynyddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a gadael gwasanaethau’n wannach. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech edrych ar ben-blwyddi gweithwyr fel ffordd o ddatrys y broblem hon. Rwyf yn gwerthfawrogi mai rheolwyr ddylai reoli hyn, ond rwyf yn ymwybodol bod rhai gwasanaethau’n defnyddio dim byd ond staff asiantaeth tra bod ein gweithwyr ar wyliau blynyddol. Hoffwn ofyn cwestiwn ychwanegol i’r Aelod Cabinet yn y Cyngor Llawn yn dibynnu ar ei ymateb”.

 

Wrth ymateb i’r cwestiwn, dywedodd y Cynghorydd Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol:

 

“Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Attridge am ei gwestiwn.

 

Gall y flwyddyn wyliau fod yn unrhyw gyfnod o 12 mis ond fe’i diffinnir fel arfer yn y Deyrnas Unedig fel y flwyddyn galendr (1 Ionawr i 31 Rhagfyr) neu’r flwyddyn ariannol o 1 Ebrill i 31 Mawrth.

 

Mae blwyddyn wyliau blynyddol y Cyngor wedi’i seilio ar y flwyddyn ariannol (1 Ebrill i 31 Mawrth) ac felly y bu hi erioed. Mae hyn yn galluogi i gydweithwyr cyllid wneud darpariaeth ariannol gywir ar gyfer unrhyw wyliau sy’n cael ei gario ymlaen i’r flwyddyn wyliau newydd. Mae hefyd yn cyd-fynd â chanlyniad trafodaethau cenedlaethol ar gyflogau a thelerau ac amodau, sy’n dod i rym ar 1 Ebrill bob blwyddyn. 

 

Mae Prif Swyddogion wedi ystyried y cwestiwn o wyliau a newid y flwyddyn wyliau yn y gorffennol fodd bynnag, ac fel rhan o’r ystyriaethau hynny, mae nifer o gymhlethdodau fyddai’n cynnwys llawer iawn o ail wneud gydag ychydig iawn o fudd cyffredinol i fusnes. Mae’n glir mai’r sefyllfa sylfaenol yw y dylai gwyliau gael ei reoli’n effeithiol yn y portffolios a ffurfio rhan o drafodaethau gweithredol parhaus gyda rheolwyr ag aelodau eu tîm i osgoi gadael llawer iawn o wyliau ar ôl, na ellir ei gymryd yn synhwyrol erbyn diwedd y flwyddyn wyliau.

 

O ran pwynt y Cynghorydd Attridge am adael gwasanaethau’n wannach, nid wyf yn credu bod hyn yn digwydd, nac wedi digwydd erioed, a byddwn wrth gwrs yn croesawu unrhyw wybodaeth benodol ganddo fel y gellir ei ystyried yn llawn.

 

Awgrymodd y gellid cynnal cyfarfod gyda’r Prif Weithredwr, Aelod Cabinet, y Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol a’r Cynghorydd Attridge.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Attridge ei bod yn broblem eang drwy’r awdurdod cyfan gan nad oedd gweithwyr yn gallu cario gwyliau drosodd. Soniodd am un maes gwasanaeth oedd wedi bod â nifer fawr o reolwyr i ffwrdd ar yr un pryd, gyda staff asiantaeth yn cyflenwi, nad oedd yn dderbyniol.  Croesawodd y cyfle i fod yn rhan o’r cyfarfod fel y cynigiwyd gan yr Aelod Cabinet.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mullin fod angen dod o hyd i ddatrysiad addas oedd yn gweithio i bawb.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod angen gwneud mwy o waith ar y mater ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.  

Dogfennau ategol: