Agenda item

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: derbyniwyd un erbyn y dyddiad cau.

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd fod un cwestiwn cyhoeddus wedi’i dderbyn gan Vicki Roskams:

 

“Yn dilyn y difrod a achoswyd i natur a’r hen goetir i lawr mewn ardal SoDdGA sy’n rhedeg ochr yn ochr ag Aber Afon Dyfrdwy, sydd hefyd yn ardd a safle rhestredig, hoffem ofyn:-

    

Beth mae Sir y Fflint yn mynd i’w gynnig i wella ei weithdrefnau, strategaethau adrodd ac i SICRHAU bod cyfathrebu cliriach a llinellau amser yn cael eu ffurfioli ac y cedwir atynt, i atal y math hwn o ddifrod rhag gwaethygu gyda chanllawiau adrodd cliriach a chyfrifoldebau ar y cyd, gan sicrhau rheolau a chanlyniadau sefydlog clir am dorri canllawiau o’r fath sy’n cael eu cyhoeddi a’u gorfodi?

 

Wrth ymateb, dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Bithell:

 

“Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn ymdrin ag ymchwiliad Gorfodaeth Cynllunio yn safle John Summers Shotton Point, yn dilyn cyfres o broblemau a godwyd gyda’r Cyngor gan nifer o ffynonellau eilaidd a thrydydd parti, yn cynnwys sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, nad yw wedi helpu o gwbl.  

 

Yn dilyn e-bost gan Mrs Vicki Roskams o Enbarr Enterprises Limited a dderbyniwyd ddydd Gwener 28 Ebrill yn holi am gynnydd, mae Mrs Roskams a budd-ddeiliaid allweddol eraill eisoes wedi cael gwybod yn llawn am yr ymchwiliad sydd ar y gweill gan y Cyngor, yn cynnwys y camau y mae’r Cyngor wedi’u cymryd eisoes ac mae’n bwriadu eu cymryd i sicrhau bod budd pennaf yr holl asedau cadwraeth perthnasol yn y safle hwn yn cael eu hystyried. 

 

Y cyfan all y Cyngor ei wneud yw gweithredu’n unol â’r ddeddfwriaeth a’r pwerau sydd ar gael iddo, a phan fo niwed cynllunio clir wedi’i ddynodi. Wrth ymateb i’r cwestiwn a ofynnwyd, mae’n anodd i’r Cyngor ddeall beth y gall ei newid, neu’n wir beth sydd angen iddo newid, o safbwynt ei bolisïau, prosesau neu ymateb gorfodi.  Mae’r Cyngor wedi, ac yn dilyn ei Bolisi Gorfodi mabwysiedig ac yn delio â phob achos yn ôl ei rinweddau, sy’n gonfensiwn cynllunio sydd wedi’i hen sefydlu.   

 

Mae hefyd yn bwysig ym mhob ymchwiliad gorfodi bod y Cyngor yn defnyddio dull cytbwys a chymesur. Mae hyn yn cynnwys cael gafael ar y wybodaeth yn llawn cyn gweithredu, ac i glywed gan ddwy ochr y ddadl neu fater, yn hytrach na chymryd un safbwynt yn unig. Dyma beth mae’r Cyngor wedi’i wneud ac mae’n parhau i’w wneud yn brydlon a chymesur, o fewn y pwerau sydd ganddo. 

 

Mae ymateb y Cyngor wedi bod yn glir, yn wybodus a chymesur, ond nid yw hyn wedi cael ei helpu ar brydiau gan y sylw yn y cyfryngau cymdeithasol, sy’n gallu gweithredu fel rhwystr i ymchwiliad gorfodi sydd ar y gweill.

 

Bydd y Cyngor yn parhau i reoli’r sefyllfa ac mae wedi ymgysylltu’n llawn â pherchnogion y safle yn cynnwys derbyn strategaeth amlinellol ar gyfer y safle cyfan, y gall y Cyngor ei thrafod â nhw a’u cynghori am y ffordd briodol o’i datblygu a pharhau i gydymffurfio. Yn wir, yn aml dyma ganlyniad gorau ymchwiliad gorfodi ble, yn hytrach na cheisio cosbi rhywun, gellir cyflawni canlyniad positif a buddiol. Dyma yw nod y Cyngor ar gyfer y safle”.

 

Gofynnwyd y cwestiwn ategol canlynol a dywedwyd wrth Ms Roskams y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu:

 

“Rydych yn nodi’n glir bod Mrs Roskams a budd-ddeiliaid allweddol eraill eisoes wedi cael gwybod yn llawn am yr ymchwiliad sydd ar y gweill, yn cynnwys y camau y mae’r Cyngor wedi’u cymryd eisoes a’r rhai y mae’n bwriadu eu cymryd i amddiffyn asedau treftadaeth y safle. Ond ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth, ac nid yw’r Cyngor wedi siarad â phob parti, i gael trosolwg cytbwys a chyson, dyna pam yr anfonwyd yr e-bost ar 28 Ebrill yn gofyn am wybodaeth. Hefyd, yn nes ymlaen yn eich ateb, rydych yn trafod sut i sgwrsio â budd-ddeiliaid am ddatblygu cynlluniau.

 

Beth am bopeth yn y gorffennol, a’r difa canfyddedig i fannau gwyrdd a gardd restredig a’r ailwampio sydd eisoes wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf.  Wrth gadw hyn mewn cof - Beth mae’r Cyngor yn ei ystyried yn ffordd brydlon a chymesur? - oherwydd rhoddwyd mesurau ar waith ym mis Mawrth 2022 gan yr adran Gorfodi ar gyfer cynllunio pellach am y gwaith a wnaed ar y safle i gael eu cyflwyno i’r Landlord, ond ni ddigwyddodd hyn byth ac mae hi bellach yn fis Mai 2023. Pan dynnwyd sylw Cyngor Sir y Fflint at y mater ym mis Mawrth 2023 am bod coed yn cael eu torri a chynefinoedd llawer o fywyd gwyllt sydd “Mewn Perygl” yn cael eu difrodi o’r safle rhestredig gen i ac aelodau’r cyhoedd hefyd, eich etholwyr, dim ond wedi i Ms Roskams gael cefnogaeth CADW ac aelodau’r Senedd y dechreuodd y Cyngor gymryd sylw o’r pryderon. 

 

Nid wyf yn fodlon ychwaith â’r sylwadau yn beio’r cyfryngau cymdeithasol am rwystro’r ymchwiliad, oherwydd yn rhai ohonynt, roeddwn yn ateb negeseuon cyhoeddus neu’n rhybuddio’r cyhoedd nad oedd gan y gwaith a’r tannau heb ganiatâd oedd yn digwydd unrhyw beth i’w wneud â ni na’n gwirfoddolwyr. Roeddem eisiau ymbellhau ein hunain oddi wrth y cyfrifoldeb, yn dilyn y negeseuon niferus a gawsom drwy sianelau cyfryngau cymdeithasol gwahanol gan aelodau pryderus o’r cyhoedd / y gymuned a chefais fy ngalw i’r safle sawl gwaith gan y gwasanaeth tân oherwydd tannau heb ganiatâd oedd y llosgi allan o reolaeth yn hwyr i’r nos, ac na achoswyd gen i na Enbarr Foundation na Enterprises pan oedd y landlord ddim yn ateb ei ffôn.

 

Mae gen i enw da proffesiynol i’w gadw, nid dim ond i mi ond i aelodau’r gymuned sydd wedi rhoi eu hamser dros 3 blynedd i droi lle anial a esgeuluswyd i le rhagorol sy’n ennill gwobrau, felly hoffwn ofyn i’r Cyngor eto, beth maen nhw’n mynd i’w wneud, i wella’r sefyllfa hon? A beth maen nhw’n ei ystyried yn brydlon, oherwydd i mi, nid yw blwyddyn yn brydlon, a dyna pam fy mod wedi ei godi dan y Polisi Rhannu Pryderon oherwydd nid wyf yn credu eich bod wedi dilyn eich gweithdrefnau eich hunain nac wedi delio ag unigolion yn deg na chytbwys. Diolch.

 

Hoffwn wneud un sylw arall, hoffwn nodi bod y Cynghorydd Selvester a’r Cynghorydd Jones wedi bod yn gefnogol iawn yn ystod y sefyllfa hon, maen nhw wedi bod i lawr i’r safle, wedi delio ag aelodau’r gymuned ac ni allaf eu canmol ddigon am eu cefnogaeth.

Dogfennau ategol: