Agenda item

Rheoli Cartrefi Gwag

Pwrpas:        Rhoi diweddariad llafar ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag.

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod cais wedi ei wneud gan Gadeirydd y Pwyllgor am gael adroddiadau rheolaidd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am reoli a darparu cartrefi gweigion wedi eu darparu ym mhob cyfarfod yn y dyfodol.  Yn dilyn ymgynghori gyda’r Cadeirydd, cynigiodd y dylai adroddiadau yn y dyfodol ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:–

 

  • Y nifer o eiddo a derfynwyd, gan arwain at eiddo gwag newydd
  • Nifer dyraniadau eiddo gwag
  • Rhesymau dros eiddo gwag
  • Math o eiddo gwag
  • Nodi’r eiddo hynny y mae galw mawr amdanynt a galw isel amdanynt
  • Faint o eiddo gwag sydd eu hangen yn gyffredinol, a faint sy’n rhai gwarchod

 

Siaradodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai am y gweithgareddau allweddol a gynhaliwyd, fel y’u nodwyd yn y cynllun gweithredu, a gyflwynwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor.  Dywedodd fod y fframwaith contractau wedi cael ei aildendro, ac yr oedd wedi cyfarfod â’r contractwyr sydd newydd eu comisiynu yn ddiweddar.  Dechreuodd y gwaith ar arolygon cyflwr y stoc a fyddai’n llywio gwaith yn y dyfodol, ac yr oedd swydd cydlynydd wedi ei gaffael er mwyn darparu hyfforddiant manwl i arolygwyr a syrfewyr dros y 12 mis nesaf.  

 

Byddai’r camau nesaf, fel yr amlinellir yn y cynllun gweithredu, yn cynnwys ymgysylltiad parhaus gyda Llywodraeth Cymru drwy gyllid grant, a bu’r Cyngor yn llwyddiannus wrth gael cyllid grant o £207,000 tuag at eiddo gwag y llynedd.  Cyflwynid cais arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn.  

 

Yn olaf, yr oedd ystyriaeth wedi ei rhoi i flaenoriaethu unedau gweigion a lle byddai adnoddau’n cael eu dyrannu.  Sefydlwyd panel a fyddai’n cyfarfod i ystyried pa eiddo gwag y dylid eu pennu yn rhai brys.  Byddai’r adroddiad a gyflwynir i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf yn casglu’r holl wybodaeth a amlinellwyd yn flaenorol, darparu gwybodaeth am y sefyllfaoedd presennol, beth oedd niferoedd y dyraniad a beth oedd y camau nesaf yn ôl y cynllun gweithredu cyfredol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin i’r adroddiad diweddaru a ddarperir i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf fod yn ysgrifenedig.  Mynegodd bryderon hefyd yngl?n â dyrannu unedau gweigion i denantiaid cyn cwblhau gwaith ar yr eiddo, a’r amseroedd hir yr oedd tenantiaid yn gorfod aros.  Cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y byddai’r adroddiad diweddaru a gyflwynid yn y cyfarfod nesaf mewn fformat ysgrifenedig.  Mewn perthynas â’r broses ddyrannu, dywedodd fod pryderon wedi eu mynegi yngl?n â hyn mewn gweithdy Aelodau’n ddiweddar ac, o ganlyniad, gwnaed newidiadau i’r broses ddyrannu i sicrhau bod y gwaith o ddyrannu’n dechrau pan oedd yr eiddo ar gael.

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd David Evans, cytunodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai i ddarparu gwybodaeth am ddata’r mis blaenorol ar ffigyrau dyrannu a’r nifer o unedau gweigion yn yr adroddiad a gyflwynir yn y cyfarfod nesaf.  Dywedodd hefyd y dylai Aelodau weld yr ôl-groniad o unedau gweigion yn lleihau yn dilyn y cynnydd yn nifer y contractwyr, a dywedodd fod 5 eiddo wedi ei ddyrannu i bob contractwr yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a byddai cynnydd y gwaith yn parhau i gael ei olrhain. 

 

Adleisiodd y Cynghorydd Glyn Banks y sylwadau a wnaed yn flaenorol gan Aelodau.  Dywedodd ei fod wedi gofyn o’r blaen am adroddiad diweddaru rheolaidd i’r Pwyllgor am eiddo gwag, ond dywedwyd wrtho na fyddai hynny’n bosibl.  Dywedodd fod ganddo bryderon tebyg i Aelodau eraill yngl?n â’r nifer o eiddo gwag, ond teimlai fod gwelliannau cadarnhaol yn cael eu gwneud.  Ymatebodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai ei bod wedi bod yn bwysig bod swyddogion yn cael yr amser a’r cyfle i weithio drwy’r camau gweithredu fel y’u hamlinellir yn y cynllun gweithredu, a gyflwynwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor, er mwyn gwneud gwelliannau i’r nifer o eiddo gwag a llunio adroddiadau diweddaru llawnach i’r Pwyllgor.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson cytunodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai i ddarparu gwybodaeth yn yr adroddiad a gyflwynir yn y cyfarfod nesaf am y gyllideb ar gyfer dod ag unedau gweigion yn ôl i gael eu defnyddio.  Eglurodd mai cyfeirio at adnoddau staff ydoedd pan oedd yn siarad am yr adnoddau a oedd ar gael.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dale Selvester na ddylid defnyddio pandemig Covid fel rheswm dros eiddo gwag yn y dyfodol bellach ar ôl diwedd y pandemig.  Croesawodd y cynnydd mewn Arweinwyr Tîm a dywedodd ei fod yn gobeithio – gyda’r camau gweithredu a gymerir – gweld eiddo gwag yn dod yn ôl i gael eu defnyddio yn gyflymach.  Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod pandemig Covid wedi cael effaith sylweddol ar y cynnydd yn nifer yr eiddo gwag, ac, er bod y sefyllfa wedi gwella, yr oedd materion etifeddiaeth yn dal i fod a oedd yn parhau i gael sylw.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd pandemig Covid wedi dod i ben, a bod gwaith ar eiddo gwag wedi arafu’n sylweddol yn ystod y pandemig ymhlith yr holl Awdurdodau Lleol, ond nid oedd wedi stopio’n gyfan gwbl yn Sir y Fflint.  Dywedodd ei fod yn hyderus y byddai’r camau gweithredu a gymerwyd gan Reolwr Gwasanaeth Asedau Tai a’i dîm yn arwain at welliannau sylweddol, a gobeithiai y byddai’r wybodaeth ddiweddaraf yn rhoi hyder i’r Aelodau yn y gwaith wrth symud ymlaen. 

 

            Dywedodd Aelod Cabinet Tai ac Adfywio fod yr holl Aelodau’n rhannu’r rhwystredigaeth yngl?n â’r nifer o eiddo gwag, a bod yr holl Awdurdodau Lleol yn wynebu’r broblem hon ar hyn o bryd.  Er ei fod yn cytuno rhywfaint gyda sylwadau’r Cynghorydd Selvester, dywedodd fod y gostyngiad yn nifer y crefftwyr a oedd yn mynd i eiddo yn ystod pandemig Covid wedi cael effaith negyddol ar y nifer o eiddo gwag.  Rhoddodd sicrwydd bod gostwng nifer yr eiddo gwag yn flaenoriaeth, ac er ei fod yn sylweddoli bod Aelodau eisiau adroddiadau diweddaru rheolaidd, nid oedd eisiau dargyfeirio unrhyw adnoddau oddi wrth ymdrin â’r mater i fynd tuag at ysgrifennu adroddiadau.  Dywedodd fod y diweddariad gan Reolwr Gwasanaeth Asedau Tai wedi bod yn briodol, a’i fod yn hyderus y byddai’r Aelodau’n gweld gostyngiad yn nifer yr unedau gweigion dros yr ychydig fisoedd nesaf.

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Evans fod y diweddariad ar lafar yn cael ei nodi, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tina Claydon.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad ar lafar.