Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 11)

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 11) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol sefyllfa  monitro cyllideb refeniw 2022/23 ym mis 11 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu fod yna £2.106miliwn dros ben (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n dod o’r cronfeydd wrth gefn).  Byddai hyn yn gadael balans cronfa wrth gefn at raid o £8.364miliwn ar ddiwedd y flwyddyn sy’n cynnwys cost ychwanegol yn ystod y flwyddyn o £3.955miliwn ar gyfer dyfarniadau cyflog 2022/23 hyd yma a £2.4miliwn o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a drosglwyddwyd o ddyraniad cynnal refeniw ychwanegol 2021/22, a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr 2022.  Roedd y symudiadau sylweddol o fis 10 yn bennaf o ganlyniad i newidiadau i gyllid grant ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r dyraniad o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol a gafodd effaith gadarnhaol ar y sefyllfa gyda Lleoliadau y tu Allan i’r Sir.  Roedd y symudiad cadarnhaol mewn Cyllid Canolog a Chorfforaethol oherwydd incwm annisgwyl unwaith yn unig o arbedion Ardrethi Annomestig a lleihad pellach mewn costau benthyca byrdymor o Fenthyciadau Canolog a’r Cyfrif Buddsoddiadau, yn ychwanegol at gynyddu incwm o fuddsoddiad dros dro o ganlyniad i gyfraddau llog banciau yn codi.   Roedd nifer o geisiadau i gario cyllid drosodd i 2023/24, a oedd yn dod i gyfanswm o £1.4miliwn ar draws portffolios, fel y nodir yn Atodiad 6.

 

Roedd crynodeb o risgiau yn ystod y flwyddyn a gafodd eu holrhain yn nodi’r sefyllfa bresennol o ran lefelau casglu Treth y Cyngor a’r dyfarniadau cyflog, ynghyd â risgiau eraill fel tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, lle arhoswyd am benderfyniad gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd diweddariad ar gronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi yn nodi bod y balans presennol ar yr Arian Wrth Gefn Brys Covid-19 yn £3.610miliwn, i’w ddefnyddio i fodloni’r costau sy’n gysylltiedig â Covid a galwadau ehangach.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £2.839miliwn yn uwch na’r gyllideb, a fyddai’n gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.635miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Sam Swash a’r Cadeirydd ar y tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, eglurwyd bod gorchymyn wedi’i roi i’r Cyngor a bod trafodaethau yn parhau er mwyn sefydlu’r gosb a roddir.   Byddai’r risg yn cael ei asesu fel rhan o ymrwymiadau diwedd y flwyddyn yn nhermau dyrannu arian at raid yn y cyfrifon gan ddibynnu ar ganlyniad y trafodaethau hynny.

 

Fel y gofynnwyd yn flaenorol, gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys eglurhad ar y symudiadau (waeth pa mor fach) mewn cyllidebau cymeradwy i ychwanegu eglurder.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y diwygiwyd i adlewyrchu’r ddadl, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (mis 11), bod y Pwyllgor yn dymuno bod y risg o ran y tâl posibl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff yn cael ei godi gyda’r Cabinet.

Dogfennau ategol: