Agenda item

Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg

Darparu adroddiad diweddaru i amlinellu’r camau gweithredu â blaenoriaeth i ysgolion sy’n dilyn yr archwiliad.

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad diweddaru, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgol) bod hwn yn dilyn adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2021 ac roedd yn cynnwys gwybodaeth ar waith lleol a chenedlaethol a wneir i gefnogi plant y lluoedd arfog mewn ysgolion.   

 

            Dywedodd yr Uwch Reolwr fod yr awdurdod yn gweithio’n agos gyda Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac roedd yn falch fod Jane Borthwick (Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd) yn bresennol yn y cyfarfod.   Eglurodd fod yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd yn arwain ar hyn, gan weithio’n agos gydag ysgolion, SSCE a’r Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol a thrwy’r gwaith hwn roedd yn bosibl cynyddu’r arian grant oedd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion i ddeall eu rolau i gefnogi plant y lluoedd arfog yn well.  Roedd hyn hefyd yn galluogi adnoddau a gweithgareddau ymgysylltu i’r dysgwyr hynny.   Er mai swm bach o arian yn unig oedd ar gael, roedd yn bosibl gweld yr effaith gadarnhaol yr oedd hyn yn ei gael.   Rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth ar y gwaith oedd wedi cael ei wneud dros y dair blynedd ddiwethaf i ddeall anghenion plant y lluoedd arfog a gallu darparu cefnogaeth wedi’i thargedu.  

 

            Soniodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd am y diwrnod ardderchog a gynhaliwyd yn Nh? Calon yng Nglannau Dyfrdwy gyda nifer o ysgolion yn bresennol gyda phlant o 5 i 11 oed yn mwynhau chwarae gemau gyda’i gilydd.  Roedd yn galonogol gweld rhieni y lluoedd arfog yn bresennol hefyd.    Yn dilyn y digwyddiad hwn roedd prosiect cyfaill gohebol yn cael ei sefydlu fel y gallai’r plant gadw mewn cysylltiad, yn arbennig y sawl sy’n symud i fyny i’r ysgol uwchradd.    Roedd gwaith yn parhau i godi proffil plant y lluoedd arfog mewn addysg a darparu cefnogaeth iddyn nhw a’u teuluoedd.    Roedd hyn yn gadarnhaol iawn ac roedd digwyddiad arall wedi’i drefnu ar gyfer Mehefin yn Ysgol Uwchradd y Fflint gyda mwy o ddysgwyr ysgol uwchradd yn cymryd rhan.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Bill Crease i swyddogion am yr adroddiad ac roedd yn falch o weld effaith gadarnhaol y gefnogaeth ar blant y lluoedd arfog ac roedd yn darparu amlinelliad o’i brofiad personol ei hun.  

 

            Diolchodd y Prif Swyddog i’r Uwch Reolwr a’r Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd am eu gwaith gyda phlant y lluoedd arfog mewn ysgolion.  Hefyd, estynnodd wahoddiad i Aelodau’r pwyllgor sy’n dymuno mynychu’r digwyddiad ym mis Mehefin ac roedd yr uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd yn cytuno i gysylltu â’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu i ddosbarthu’r wybodaeth i Aelodau.

 

            Roedd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd hefyd yn cynnig y cyfle i Aelodau ymuno â’r cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda’r rhanddeiliaid eraill.  Roedd y Cynghorydd Dave Mackie a’r Cadeirydd wedi rhoi eu henwau ymlaen.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’i eilio gan y Cynghorydd Arnold Woolley. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi derbyn lefel briodol o sicrwydd yngl?n â gwaith y Portffolio Addysg ac Ieuenctid i gefnogi ysgolion sydd â phlant y lluoedd arfog. 

Dogfennau ategol: