Agenda item

Rheoli Cartrefi Gwag

Pwrpas:        Rhoi diweddariad pellach ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) yr wybodaeth ddiweddaraf am Reoli Cartrefi Gwag fel y dangosir ar y rhaglen.  Yr oedd y diweddariad yn darparu ffigyrau allweddol am y nifer o eiddo gwag a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag.  Byddai’r Pwyllgor yn parhau i dderbyn yr wybodaeth hon yn fisol, a bydd adroddiad ffurfiol ar unedau gweigion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi. 

 

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.

 

Amlinellodd y nifer o unedau gweigion newydd a’r rheiny a oedd wedi eu cwblhau.  O fis Mawrth, derbyniwyd 26 eiddo gwag, a chwblhawyd 23 eiddo, a oedd wedi eu cwblhau cyn penodi contractwyr newydd i’r gwasanaeth.  O fis Ebrill, derbyniwyd 24 eiddo gwag a chwblhawyd 18.  Cafwyd oedi o ganlyniad i absenoldebau ac oedi wrth ardystio.  Cwblhawyd mwy o unedau gweigion, ond oherwydd oedi wrth ardystio nid oeddynt wedi eu cymeradwyo eto.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd nifer yr eiddo a oedd angen gwaith mawr a’r rheiny a oedd angen mân waith, ynghyd â’r galw am yr eiddo.

 

Mewn perthynas â’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, amlinellwyd y canlynol gan y Rheolwr Gwasanaeth:-

 

·         Yr oedd y Gwasanaeth wedi cyfarfod â’r holl gontractwyr a oedd newydd eu comisiynu;

·         Cynhaliwyd 6 o’r 6 chyfarfod cyn-gontract gyda’r contractwyr newydd;

·         Yr oedd y gwaith o arwyddo contractwyr bron wedi ei gwblhau;

·         Dechreuwyd arolwg o gyflwr y stoc ym mis Hydref 2022;

·         Dyrannwyd adnoddau ychwanegol i gynnal arolygon o gyflwr y stoc;

·         Yr oedd y Cydlynydd Hyfforddiant bellach yn ei swydd;

·         Yr oedd y Cydlynydd yn trefnu’r holl hyfforddiant craidd angenrheidiol am y 12 mis nesaf.

 

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor gan y Rheolwr Gwasanaeth at yr wybodaeth am y gyllideb a’r 3 phrif reswm dros derfynu tenantiaeth – gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am hyn mewn cyfarfodydd blaenorol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd David Evans sylw am nifer yr eiddo gwag, a oedd wedi cynyddu ym mis Ebrill o’i gymharu â mis Mawrth, a gofynnodd a fyddai’r Pwyllgor yn gweld y ffigwr hwn yn gostwng yn y misoedd i ddod.  Dywedodd fod angen dod â mwy o eiddo gwag i gael ei ddefnyddio eto er mwyn gallu ymdopi â’r sefyllfa bresennol.  Gofynnodd hefyd am i’r wybodaeth ganlynol gael ei darparu mewn diweddariadau briffio yn y dyfodol:- 

 

  • Gwybodaeth yngl?n â’r math o ystafelloedd gwely oedd yn yr eiddo a oedd dod yn wag, ochr yn ochr â dadansoddiad o gyfanswm ffigyrau unedau gweigion;
  • Y math o eiddo yr oedd tenantiaid yn mynd i fyw iddynt wrth drosglwyddo i eiddo arall gan Gyngor Sir y Fflint;
  • Ardaloedd daearyddol eiddo gwag.

 

Gwnaeth y Rheolwr Gwasanaeth sylw am y cynnydd mewn eiddo gwag, ac atgoffodd y Pwyllgor mai newydd eu penodi oedd y contractwyr newydd a gomisiynwyd.  Ailadroddodd ei sylwadau blaenorol na ellid rhuthro’r broses ac y gallai nifer yr eiddo gwag gynyddu cyn dechrau gostwng yn gyson.  Parthed y cais am wybodaeth ychwanegol, dywedodd y gellid darparu gwybodaeth am fathau o ystafelloedd gwely a map gwres i ddangos lleoliad daearyddol eiddo gwag, ac y byddai’n ymchwilio i weld a ellid casglu gwybodaeth am y math o eiddo yr oedd tenantiaid yn symud iddynt.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge faint o weithlu’r Cyngor ei hun oedd yn gweithio ar eiddo gwag, a pham na ellid defnyddio mwy o’r Sefydliad Llafur Uniongyrchol (SLlU).  Dywedodd fod argyfwng cyfredol gydag eiddo gwag a oedd yn golygu bod pobl yn gorfod aros dros dro mewn gwestai tra’r oeddynt yn disgwyl am eiddo gan y Cyngor.  Gofynnodd hefyd pam oedd cymaint o eiddo angen gwaith mawr arnynt, a gofynnodd a oedd y tîm rheoli tai yn asesu’r eiddo ac a oedd tâl yn cael ei godi ar denantiaid blaenorol am unrhyw ddifrod a wnaed.  Yn ogystal, gofynnodd pam oedd eiddo yn cael ei neilltuo i denantiaid 6/7 mis cyn i’r eiddo gwag gael ei ryddhau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod SLlU y Cyngor yn gwneud mân waith ar eiddo gwag yn bennaf, gan mai tîm cynnal a chadw ac atgyweirio ydoedd, ond dywedodd wrth y Pwyllgor fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i alluogi’r SLlU i wneud gwaith ffensio a gosod synwyryddion mwg mewn eiddo gwag.  Dywedodd hefyd fod tâl yn cael ei godi ar denantiaid blaenorol mewn achosion lle gwnaethpwyd difrod.

 

Siaradodd Rheolwr Gwasanaeth Tai, Lles a Chymunedau am y broses o neilltuo eiddo gwag, ac eglurodd eu bod yn cysylltu â thenantiaid posibl i ofyn a hoffent i eiddo gael ei neilltuo iddynt fisoedd cyn iddo fod yn barod.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryder yngl?n â swm y rhent / Treth y Cyngor sydd heb ei gasglu o ganlyniad i nifer yr eiddo gwag.  Wrth ymateb i’w chwestiwn yngl?n â faint o staff oedd yn nhimau’r SLlU, awgrymodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai ei fod yn darparu’r wybodaeth ganlynol yn y diweddariad nesaf:-

 

  • Nifer y staff yn nhîm y SLlU;
  • Nifer yr Arweinwyr Tîm sy’n rheoli’r SLlU; a
  • Nifer yr Arweinwyr Tîm sy’n rheoli contractwyr.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester a oedd achosion o gydgyfnewid yn cael eu cynnwys yng nghyfanswm yr eiddo gwag.  Gwnaeth sylw am yr angen i sicrhau bod archwiliadau yn cael eu cynnal mewn eiddo, yn enwedig os oeddynt yn ymwybodol bod yr eiddo’n mynd i ddod yn wag, a gofynnodd a roddwyd ystyriaeth i oedi trosglwyddiadau eiddo am ychydig fisoedd er mwyn caniatáu i nifer yr eiddo gwag ostwng.  Cwestiynodd hefyd y broses neilltuo, a gofynnodd pe bai cynnig ffurfiol yn cael ei wrthod, a fyddai’r unigolyn hwnnw wedyn yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros.

 

Eglurodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai nad oedd achosion o gydgyfnewid yn cael eu cynnwys yng nghyfanswm yr eiddo gwag.  Eglurodd y broses ar gyfer trosglwyddo eiddo ac archwiliadau swyddogion tai, a dywedodd y gallai ddarparu mwy o fanylion am hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol os gofynnid am hynny.  Nid oedd yn teimlo y byddai oedi trosglwyddiadau o gymorth, a chyfeiriodd at y rhestr aros gyfredol a’r nifer o bobl a oedd yn aros am eiddo.  Eglurodd Rheolwr Gwasanaeth Tai, Lles a Chymunedau y gofynnid i denantiaid posibl yn ystod sgyrsiau gyda hwy a fyddent yn hoffi i eiddo gael ei neilltuo iddynt fisoedd cyn iddo fod yn barod. Gwneid hyn cyn rhoi cynnig ffurfiol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Geoff Collett bryder yngl?n â nifer yr eiddo gwag.  Gwnaeth sylw am ymweliad safle a chyfarfod gydag Aelodau a gynhaliwyd rai misoedd yn ôl, a dywedodd ei fod yn bryderus bod nifer yr eiddo gwag wedi cynyddu ers y cyfarfod hwnnw’n unig.  Cytunodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson gyda’r sylwadau hyn, a dywedodd fod angen sicrhau archwiliadau rheolaidd o gartrefi tenantiaid – teimlai y byddai hynny’n mynd i’r afael â’r broblem o fod angen gwneud gwaith mawr ar eiddo gwag.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Tai ac Adfywio ei fod yn rhannu pryderon yr Aelodau, ond ychwanegodd ei bod yn bwysig peidio â rhuthro’r broses er mwyn sicrhau nad oedd y Cyngor yn canfod ei hun yn yr un sefyllfa mewn 12 mis.  Dywedodd fod yr Aelodau angen gadael rhwng 9 a 12 mis i weld gwelliannau yn nifer yr eiddo gwag, o ystyried y contractwyr newydd a gomisiynwyd a oedd bellach yn gweithio ar yr eiddo yma.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Rush a ellid cynnal archwiliad o safon gwaith y contractwyr yn gynt na chyfnod o 6 wythnos.  Gofynnodd hefyd a ellid symud y SLlU i weithio ar eiddo gwag am ychydig fisoedd.

 

Eglurodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod y SLlU yn gweithio ar ôl-groniad o atgyweiriadau.  Dywedodd hefyd y byddai archwiliadau ar waith y contractwyr yn cael eu cynnal yn gynt na chyfnod o 6 wythnos.     

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Thew yngl?n â nifer y contractwyr, dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod yna 6 chontractwr, a bod 3 ar gael i gamu i’r adwy pe bai problemau gyda safon y gwaith sy’n cael ei wneud.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thew sawl eiddo gwag y disgwylid i gael eu dychwelyd yn yr wythnos wedyn.  Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod disgwyl i 10 eiddo gwag gael eu dychwelyd erbyn y cyfarfod nesaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Pam Bank a oedd posibilrwydd o ehangu’r SLlU cyfredol.  Eglurodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai nad oedd y Cyngor mewn sefyllfa ar hyn o bryd i ehangu’r SLlU.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Evans fod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei nodi.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

Dogfennau ategol: