Agenda item
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r
gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.
Cofnodion:
Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-
Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth
- A5119 Northop Road, Maes Hyfryd, Third Avenue, Fourth Avenue a Fifth Avenue, Y Fflint Cynnig i Wahardd Aros a Chyfyngiadau Aros ar Unrhyw Adeg
Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r cynnig i Wahardd Aros ac Aros ar Unrhyw Adeg ar y ffyrdd a restrir uchod.
- Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Kiln Lane, Yr Hôb) (Gwahardd Gyrru) (Ac Eithrio Mynediad) 2023
Hysbysu'r Aelodau o'r gwrthwynebiad a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r cynnig i Wahardd Gyrru – Ac Eithrio Mynediad ar Kiln Lane, Yr Hôb.
- Ffordd yr Ysgol, Deansbury Close, Shaftsbury Drive a Windsor Drive, Y Fflint Gorchymyn Gwahardd Aros Arfaethedig
Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r Gorchymyn Gwaharddiad i Aros ar Unrhyw Adeg arfaethedig ar y ffyrdd a restrir uchod.
- Cynnig i Weithredu Dim Aros ar Farciau Cadwch y Ffordd yn Glir wrth Ysgol Maes Hyfryd ac Ysgol Uwchradd y Fflint, Y Fflint
Hysbysu'r Aelodau o'r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r marciau Ysgol Cadw'n Glir arfaethedig ar Faes Hyfryd, Y Fflint.
- Cyngor Sir y Fflint - Ffordd Llywelyn, Y Fflint. Gwaharddiad Aros Arfaethedig
Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r cynnig i Wahardd Aros ar Unrhyw Adeg ar y ffyrdd a restrir uchod.
Refeniw
- Diddymu Ardrethi Busnes
Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol, i ddiddymu dyledion rhwng £10,000 a £25,000.
Mae dwy ddyled Ardrethi Busnes sy’n werth cyfanswm o £34,762 yn cael eu hystyried yn anadferadwy ac mae angen eu diddymu.
Llywodraethu
- Adolygiad o Ffïoedd Cofrestru Anstatudol
Mae'r Cyngor yn rheoli'r Gwasanaeth Cofrestru sydd â nifer o swyddogaethau statudol gan gynnwys cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau sifil a phartneriaethau sifil. Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli yn Neuadd Llwynegrin, yr Wyddgrug ac mae'n cadw cofnodion archifol y rhoddir copïau o dystysgrifau ohonynt. Mae'r gwasanaeth hefyd yn trwyddedu lleoliadau ar gyfer seremonïau sifil ar draws y Sir ac yn cynnal amrywiaeth o wasanaethau dathlu anstatudol. Mae'r ffïoedd sy'n ymwneud â gwasanaethau statudol wedi'u pennu gan statud ac ni allant fod yn fwy na chost darparu'r gwasanaeth. Fodd bynnag, mae gan y Cyngor gwmpas i osod ffïoedd ar gyfer gwasanaethau anstatudol.
Mae natur y Gwasanaeth Cofrestru yn golygu bod rhai gwasanaethau megis priodas yn cael eu harchebu hyd at 24 mis ymlaen llaw ac o ganlyniad mae angen gosod ffïoedd anstatudol ymlaen llaw er mwyn caniatáu i barau gynllunio. Cynhaliwyd adolygiad sylfaenol o ffïoedd pan gyflwynodd y Cyngor ei “Dempled Adennill Costau Ffïoedd a Thaliadau” a rhoddwyd ffïoedd newydd ar waith ar 1 Ebrill 2021, am dair blynedd.
Bob blwyddyn caiff y ffïoedd eu hadolygu i sicrhau bod y gwasanaeth bob amser yn cyhoeddi set o ffïoedd am dair blynedd. Mae'r adroddiad hwn yn gosod y ffïoedd ar gyfer 2025/26 i sicrhau bod y Gwasanaeth Cofrestru yn parhau i gyhoeddi ffïoedd tair blynedd.
Gwasanaethau Cymdeithasol
- System Rheoli Achosion Gofal Cymdeithasol
Mae'r contract ar gyfer y System Rheoli Achosion Gofal Cymdeithasol bresennol i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth 2025 ac felly mae angen caffael System Rheoli Achosion Gofal Cymdeithasol.
Dogfennau ategol: