Agenda item

Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol

Pwrpas:        I dderbyn diweddariad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Therapi Galwedigaethol yr adroddiad ac eglurodd fod Therapi Galwedigaethol yn canolbwyntio ar yr hyn y mae pobl gyffredin o bob oed yn ei wneud yn eu bywydau bob dydd a’i fod yn eu cefnogi nhw i barhau i fod mor annibynnol â phosibl.  Rhoddodd drosolwg byr o’r gwahanol dimau a grwpiau defnyddwyr gwasanaethau y buon nhw’n gweithio gyda nhw, fel y nodir yn yr adroddiad:-

 

·                     Ardal Leol

·                     Ailalluogi  

·                     Pediatreg

·                     Tîm Derbyn

 

Mewn ymateb i gwestiwn a gododd y Cynghorydd Mackie, dywedodd yr Uwch Reolwr Oedolion, o safbwynt perfformiad, fod gan Sir y Fflint hanes gwych o ddarparu Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol cynhwysfawr ac mae’r ffaith mai ychydig iawn o swyddi gwag oedd ganddyn nhw yn wahanol i flynyddoedd blaenorol yn dangos hyn.  Eglurodd nad oedd pobl yn aros am amser hir am Therapi Galwedigaethol a dywedodd fod atgyfeiriadau'n cael eu categoreiddio'n ôl lefel uchel, canolig neu isel a’u trin yn unol â hynny.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey faint o amser a gymerwyd i gasglu cyfarpar pan nad oedd ei angen mwyach.  Eglurodd yr Uwch Reolwr Oedolion mai dim ond pan fydden nhw’n cael eu hysbysebu nad oedd angen y cyfarpar mwyach y gallen nhw ei gasglu. Dywedodd, pe bai profedigaeth, y byddai cysylltu â nhw yn isel ar restr pobl a allai arwain at beidio â chasglu cyfarpar. Dywedodd wrth yr Aelodau fod swm sylweddol o gyfarpar NEWCES, y gellid ei adnabod yn rhwydd oddi wrth y cod bar, wedi'i ddychwelyd yn dilyn amnest o ran siopau elusen.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gweithrediadau fod Llywodraeth Cymru wedi gosod safon amser ymateb o 14 diwrnod i gasglu cyfarpar o adeg cael yr hysbysiad, ac yr oedden nhw wedi’i fodloni 100%.  Dywedodd hefyd wrth yr Aelodau pe bai rhywun yn cysylltu â nhw ar ôl profedigaeth a bod y cyfarpar yn achosi trallod, yna byddai'n cael ei gasglu o fewn 3 diwrnod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill am esboniad ynghylch rhestrau aros am gyfarpar a sut yr oedden nhw’n cael eu hadolygu.  Eglurodd yr Uwch Reolwr Oedolion pan gysylltwyd â’r tîm Un Pwynt Mynediad am gymorth, bod asesiad trylwyr wedi’i gynnal, a dywedodd y gallai hwn gymryd llawer o amser gan fod angen iddyn nhw edrych ar y darlun llawn a oedd yn aml yn nodi materion eraill y gellid eu gwella.  Esboniodd nad oedd cyfarpar yn angenrheidiol yn aml iawn gan mai'r cyfan sydd angen ei wneud yw ail-addysgu pobl sut i wneud pethau.  Dywedodd hi eu bod nhw’n gweithio'n galed iawn i gadw'r rhestr aros o 3 mis yn isel a'u bod nhw’n cysylltu â phobl yn rheolaidd rhag ofn bod eu hamgylchiadau nhw wedi newid.  Dywedodd hi nad oedd yn bryderus ynghylch hyd y rhestr gan y byddai'n well ganddi i bobl gael y cymorth a'r cyngor cywir.  Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y byddai'n beryglus dosbarthu cyfarpar y gofynnwyd amdano fel mesur tymor byr cyn i bobl gael eu hasesu oherwydd efallai nad dyna'r hyn sydd ei angen arnyn nhw mewn gwirionedd.  Ychwanegodd y Rheolwr Therapi Galwedigaethol, trwy wneud hynny dan yr hen system hunanasesu, bod angen ymweliadau cartref ychwanegol ar 80% o bobl, a fyddai’n dyblygu eu gwaith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn arall a gododd y Cynghorydd McGuill ynghylch diogelu'r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl at y dyfodol ar gyfer pediatreg, esboniodd y Rheolwr Therapi Galwedigaethol eu bod nhw’n edrych i'r dyfodol ynghylch sut y byddai'r plentyn yn datblygu ond dywedodd nad oedd am ymyrryd yn rhy gyflym oherwydd gall y plentyn wella o ganlyniad i lawdriniaeth neu ffisio.  Weithiau yr oedd angen cyfnod hirach i sicrhau bod y canlyniad terfynol yn bodloni anghenion y plentyn pan fyddai rhwng 14 a 18 oed.  Awgrymodd hi eu bod nhw’n ceisio diogelu eiddo ar gyfer y dyfodol, chwilio am eiddo newydd neu ymestyn yr eiddo presennol i fodloni anghenion y teulu cyfan.

 

Dywedodd yr Hwylusydd wrth yr Aelodau, gan fod y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl yn dod dan gylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai, y cytunwyd y byddai eitem ar y cyd yng nghyfarfod mis Hydref.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) wrth yr Aelodau fod Therapi Galwedigaethol yn un o'r grwpiau proffesiynol allweddol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn aml nid oedden nhw’n cael y proffil yr oedden nhw’n ei haeddu, ond yr oedd yn gobeithio y byddai'r Aelodau'n cael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ar ôl y cyfarfod hwn.  Dywedodd eu bod nhw mewn sefyllfa llawer gwell, fel yr oedd yr Aelodau wedi sylwi, o ran bod bron digon o staff i lenwi pob swydd, rhestrau aros yn gwella'n sylweddol a gwnaeth ddiolch i'r swyddogion am eu cyflwyniadau.

 

Cafodd yr argymhelliad ei ddiwygio ar gais y Cadeirydd a chafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd McGuill a’i eilio gan y Cynghorydd Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau'n nodi, yn cefnogi ac yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a'r gwaith a wnaeth y Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol.

Dogfennau ategol: