Agenda item

Mabwysiadu’r Canllaw Iaith Gyffredin Model i’r Cyfansoddiad a gwneud diweddariadau i’r Cyfansoddiad Model Cenedlaethol

Pwrpas:        Argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a’r Cyfansoddiad diwygiedig yn dilyn y gwaith a gyflawnwyd gan y gweithgor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod cyfansoddiad y Cyngor yn seiliedig ar fodel cenedlaethol a baratowyd ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol yn 2014. Cafodd model diwygiedig ei gomisiynu gan y cyrff hynny yn ystod 2021 i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth a’r angen i foderneiddio’r iaith.

 

Sefydlodd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd weithgor i ystyried y ddogfen newydd. Edrychodd ar y ddogfen a chredai y dylid ei mabwysiadu.  Yn ei gyfarfod ar 12 Ionawr, gofynnwyd i’r Pwyllgor gynnal adolygiad pellach o’r darpariaethau oedd yn ymddangos eu bod yn newid y ffordd y mae rheolau / gweithdrefnau presennol y Cyngor yn gweithredu. Roedd y gweithgor yn fodlon, er bod y derminoleg ac mewn rhai achosion, dyluniad y ddogfen wedi newid, nad oedd y ddogfen newydd yn newid sut oedd y Cyngor yn gweithredu yn ei hanfod. Roedd y ddogfen bellach yn cael ei hargymell i’w mabwysiadu.

 

Roedd y model presennol a’r un newydd yn cynnwys disgrifiadau o rolau ar gyfer gwahanol rolau yn y cyngor e.e. cadeirydd Pwyllgor a Chynghorydd ward.  Yn 2014, nid oedd y Cyngor yn dymuno mabwysiadu’r disgrifiadau rolau, ond y tro hwn, roedd y gweithgor yn credu y byddent yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, roedd y gweithgor yn cydnabod y dylid ymgynghori â phob Cynghorydd ar y disgrifiadau rolau, oedd angen mwy o waith cyn eu mabwysiadu. Byddent yn cael eu rhannu â phob Aelod i sicrhau eu bod yn cytuno bod y disgrifiadau'n adlewyrchu rolau gwahanol yr Aelodau. Bydd gwiriad cysondeb hefyd yn cael ei gynnal ochr yn ochr â’r canllawiau Saesneg clir.

 

            Diolchodd y Prif Swyddog i Matt Geiorgiou oedd wedi gadael ei swydd yn Sir y Fflint fel Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro, am y gwaith a wnaeth gyda’r Gweithgor, oedd wedi bod yn ddarn mawr o waith, a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Rob Davies yr argymhelliad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hodge.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod angen diwygio tudalen 119 i adlewyrchu nifer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sef pump ac nid chwech. Ar dudalen 115, dylai’r geiriad fod yn ‘CDLl’ ac nid ‘y CDLl’.  Wrth ymateb i gwestiwn, eglurodd y Prif Swyddog fod unrhyw eiriau oedd wedi eu tanlinellu yn y ddogfen yn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed. Mewn ymateb i gwestiwn arall, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y Ddeddf yn caniatáu i swyddi yn y Cabinet gael eu rhannu, oedd yn cynnwys y Dirprwy Arweinydd.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones am gyngor os oedd y trefniadau dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn unol â’r Cyfansoddiad ai peidio. Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ddogfen fyw a bod y gwaith wedi dechrau arni yn ystod hydref y flwyddyn flaenorol. Mae’n disgrifio beth sy’n digwydd pan fo unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud fel bod cofnod ohonynt. Nid oedd y ddogfen wedi dal i fyny, ond roedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu ar gyfer yr hyn oedd wedi bod ar waith ers y llynedd o ran rhannu rôl y Dirprwy Arweinydd. Roedd gan yr Arweinydd yr ymreolaeth i benodi pwy bynnag y mynnai yn cynnwys rhannu rolau, y soniodd amdano yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn 2022.  Ers i’r ddeddfwriaeth ddod i rym, mae’r gwaith wedi dechrau ar y ddogfen, ond nid oedd yn barod i gael ei hadrodd arni ym mis Mai 2022 ac argymhellwyd y dylid ei mabwysiadu cyn gynted ag y bydd swyddogion yn gallu ei chyflwyno i’r Aelodau. Penderfynwyd mai dyma oedd y cyfle rhesymol nesaf i gyflwyno'r ddogfen ddiwygiedig. Gofynnodd y Cynghorydd Jones am i’r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn y ddogfen.

 

Canmolodd y Cynghorydd Peers y gwaith a wnaed gan y Gweithgor a diolchodd yn ffurfiol i’r swyddogion, Cadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ac aelodau’r Gweithgor.  

 

Rhoddodd y Cynghorydd Bithell sylwadau ar nifer o ddiwygiadau oedd eu hangen: tudalen 110 – dylai Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth ddangos y Cynghorydd Dave Hughes fel Aelod Cabinet a’r Aelod Cabinet Cymunedau a Thai oedd y Cynghorydd Sean Bibby.  Ar dudalen 201, dylid dileu’r cyfeiriad at Gr?p y Gynghrair Annibynnol. Tudalen 563, nid David Hanson oedd yr AS dros Delyn bellach ac nid oedd Michelle Brown yn AS Cymru. Gofynnodd y Prif Swyddog i’r Aelodau roi gwybod iddo os byddant yn dod o hyd i unrhyw beth anghywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y model cyfansoddiad diwygiedig yn cael ei fabwysiadu, gyda’r eithriad o ddisgrifiadau rôl yn Adran 31 o’r cyfansoddiad drafft ac yn ddarostyngedig i wiriad cysondeb mewnol terfynol, prawf-ddarllen a chroesgyfeirio gyda’r canllaw iaith gyffredin;

 

(b)       Bod y Cyngor yn ystyried adroddiad pellach ar y disgrifiadau rôl yn Adran 31 y model diwygiedig wedi i ymgynghoriad gael ei gynnal â phob Cynghorydd ar y geiriad; a

 

(c)        Bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Swyddog (Llywodraethu), mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, i wneud unrhyw newidiadau yn dilyn y prawf ddarllen a’r gwiriad cysondeb.

Dogfennau ategol: