Agenda item
Polisi Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer mannau parcio oddi ar y stryd
Pwrpas: Gofyn i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd adrodd i’r pwyllgor hwn a Phwyllgor yr Amgylchedd a’r Economi ar ddichonoldeb cynnig gosod pibelli ceblau rhwng tai a’r stryd i alluogi perchnogion cerbydau trydan heb fynediad at le parcio oddi ar y stryd i redeg ceblau ar draws palmentydd yn ddiogel, a bydd y preswylydd yn talu am hyn yn yr un modd â gosodiadau palmant wedi’i ostwng. Gofyn i’r Cabinet fabwysiadu polisi i alluogi tenantiaid y cyngor i osod, neu osod ar gais, mannau gwefru cerbydau yn eu cartrefi.
Cofnodion:
Darllenodd y Cadeirydd yr argymhellion yr oedd gofyn i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd eu cyflwyno i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar ddichonoldeb cynnig gosod pibelli ceblau rhwng tai a’r stryd i alluogi perchnogion cerbydau trydan heb fynediad at le parcio oddi ar y stryd i redeg ceblau ar draws palmentydd yn ddiogel, gyda’r preswylydd yn talu am hyn yn yr un modd â gosodiadau palmant wedi’i ostwng a gofyn i’r Cabinet fabwysiadu polisi i alluogi tenantiaid y cyngor i osod, neu osod ar gais, mannau gwefru cerbydau yn eu cartrefi.
Wrth gynnig yr argymhellion, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Preece ei bod yn cefnogi’r cynnig. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson.
Mynegodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd bryderon ar oblygiadau ehangach yr argymhellion ac awgrymodd y dylid ystyried y mater ymhellach.
Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) i’r sylwadau a’r pwyntiau a godwyd gan Aelodau mewn perthynas â mynediad at fannau gwefru, addasrwydd llefydd parcio oddi ar y stryd, a’r anawsterau yr oedd rhai preswylwyr yn eu profi wrth geisio parcio yn agos neu du allan i’w cartrefi. Cyfeiriodd at dargedu ‘Gwefru mewn cyrchfan’ lle darperir mannau gwefru mewn cyrchfannau allweddol ar draws y sir, a ‘Gwefru ar y ffordd’ lle gellir gwefru Cerbydau Trydan ar ganol siwrnai. Disgwylir i’r astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer cam nesaf gwefru mewn cyrchfan gael ei chynnal yn 2023 yn amodol ar sicrhau’r cyllid, a fydd yn nodi’r lleoliadau Cyngor neu leoliadau preifat mwyaf strategol i ddatblygu’r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan ymhellach.
Gan grynhoi, cyfeiriodd y Cadeirydd at yr argymhellion fel a ganlyn:
- gofyn i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd adrodd i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar ddichonoldeb cynnig gosod pibelli ceblau rhwng tai a’r stryd i alluogi perchnogion cerbydau trydan heb fynediad at le parcio oddi ar y stryd i redeg ceblau ar draws palmentydd yn ddiogel,
- gwahodd preswylwyr yn Sir y Fflint i gael cyfle i osod yr uchod gyda’r preswylydd yn talu am hyn yn yr un modd â gosodiadau palmant wedi’i ostwng; a
- gofyn i’r Cabinet fabwysiadu polisi i alluogi tenantiaid y cyngor i osod, neu osod ar gais, mannau gwefru cerbydau yn eu cartrefi.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Carolyn Preece ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson. Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Gofyn i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd adrodd i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar ddichonoldeb cynnig gosod pibelli ceblau rhwng tai a’r stryd i alluogi perchnogion cerbydau trydan heb fynediad at le parcio oddi ar y stryd i redeg ceblau ar draws palmentydd yn ddiogel,
(b) Gwahodd preswylwyr yn Sir y Fflint i gael cyfle i osod yr uchod gyda’r preswylydd yn talu am hyn yn yr un modd â gosodiadau palmant wedi’i ostwng; a
(c) Gofyn i’r Cabinet fabwysiadu polisi i alluogi tenantiaid y cyngor i osod, neu osod ar gais, mannau gwefru cerbydau yn eu cartrefi.