Agenda item

Diweddariad Gweinyddu/ Cyfathrebu Pensiynau

Pwrpas:  Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.

Cofnodion:

            Rhoddodd Mrs Williams ddiweddariad ar y broses gyfathrebu a gweinyddu ers mis Tachwedd. Cyflwynodd gynnydd yr eitemau ar y Cynllun Busnes ar gyfer 2022-23, gan gynnwys:

 

-       A6, roeddent ar ei hôl hi gydag adolygu’r polisïau a’r strategaethau, oherwydd llwyth gwaith a’r newidiadau a gyhoeddwyd i lwfans treth pensiwn yn y gyllideb ddiweddaraf. 

-       A9, y strategaeth gyfathrebu ddiwygiedig - defnyddir y brand newydd o 1 Ebrill ymlaen. Dosbarthwyd hysbysiad o’r newid i’r aelodau, ynghyd ag Arolwg Bodlonrwydd Aelodau ac mae mwy na 300 o ymatebion papur a mwy na 500 o ymatebion electronig wedi’u derbyn hyd yma. Ymhlith yr ymatebion electronig, mynegodd 44 o wirfoddolwyr ddiddordeb yn y Grwpiau Ffocws Aelodau, ac roedd yr ymatebion papur yn cael eu casglu o hyd. 

            Tynnodd Mrs Williams sylw at ddatblygiadau diweddar, gan gynnwys:

-       Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen McCloud. Roedd Bwrdd Cynghori’r Cynllun wedi cyhoeddi canllawiau ar sut y dylid defnyddio cyllid os na chaiff data ei dderbyn gan gyflogwr, yn ogystal â chanllawiau ar ddilysu data. Bydd Mrs Williams yn trefnu cyfarfod ar gyfer gr?p llywio McCloud ym mis Mai. Mae prosesau dilysu eisoes ar waith a byddai’r rhain yn cael eu hadolygu gan ystyried y canllawiau gan SAB. 

-       Ailbrisio ECGA – Roedd y cynnydd o 10.1% mewn pensiynau yn y broses o gael ei ychwanegu at fudd-daliadau o fis Ebrill ymlaen. Roedd hwn yn faes gwaith sylweddol.

-       Roedd y llif gwaith wedi bod yn cael ei fonitro ers nifer o flynyddoedd a bu i hyn helpu’r gronfa i nodi meysydd pwysau. Roedd rhagor o waith dadansoddi yn cael ei wneud mewn ymgais i ragweld llif gwaith yn y dyfodol a bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin.  Fodd bynnag, oherwydd cymhlethdod cynyddol achosion a’r camau ychwanegol cysylltiedig, mae’n anoddach monitro llif gwaith ar sail gyfatebol o un flwyddyn i’r llall. 

-       Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i’r ymgyrch recriwtio ddiweddar ar gyfer y swyddi gwag gweinyddu a bu i’r tîm nodi mwy o ymgeiswyr addas nag oedd eu hangen i lenwi’r swyddi gwag. Llwyddwyd i gyflwyno dirprwyaeth frys rhag colli’r cyfle recriwtio, a arweiniodd at fewnlifiad o brofiad gwaith amrywiol o fewn y tîm. Ni lwyddwyd i lenwi pob un o’r pum swydd ychwanegol, felly bydd y rhai sy’n weddill yn cael eu hysbysebu fel rhan o adolygiad y tîm prosiect.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Swash sylw mewn perthynas â’r ohebiaeth ddiweddar yngl?n â’r brandio a’r Arolwg Bodlonrwydd Aelodau. Mynegodd bryder ynghylch cost ac effaith amgylcheddol dosbarthu’r papurau hyn a gofynnodd pam fod rhai wedi cael eu hanfon ar bapur ac eraill dros e-bost. Eglurodd Mrs Williams mai dim ond ar gyfer yr Aelodau sydd wedi nodi eu bod yn ffafrio hynny y caiff gohebiaeth ar bapur eu hanfon.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad.

 

Dogfennau ategol: