Agenda item

Diweddariad Llywodraethu

Pwrpas:  Rhoi diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â Llywodraethu.

Cofnodion:

Trafododd Mr Latham yr adroddiad diweddaru chwarterol hwn gyda’r Pwyllgor, gan dynnu sylw at y canlynol:

-       Roedd paragraff 1.02 ar gyllideb y gwanwyn yn trafod bwriad y Llywodraeth i newid i lai o gronfeydd, yn achos asedau o fwy na £50 biliwn. Byddai PPC ymhell islaw’r trothwy newydd hwn. Pan gafodd cronfeydd eu cyfuno am y tro cyntaf, roedd Cymru wedi’i heithrio rhag y trothwy blaenorol, ond nid oedd yn amlwg a fyddai’r eithriad hwn yn berthnasol i unrhyw drothwyon newydd. 

-       Mewn perthynas â’r cynllun hyfforddi ym mharagraff 1.06, eglurodd Mr Latham fod Cod Cyffredinol y Rheoleiddiwr Pensiynau wedi’i ohirio ac felly byddai’r hyfforddiant a drefnwyd ar gyfer 26 Ebrill naill ai’n cael ei ganslo neu’n cael ei ddefnyddio yn hytrach ar gyfer hyfforddiant llywodraethu buddsoddi, ac os felly, byddai cyfarfod wyneb yn wyneb yn cael ei ffafrio.  Byddai’r Pwyllgor yn trafod hyn gyda’r swyddogion ar ôl y cyfarfod.

 

            Mynegodd Mr Hibbert bryderon ynghylch y rhesymeg dros y newidiadau i sgôr risg 3 o ran gwrthdaro buddiannau a chyfrifoldeb ymddiriedol ym mharagraff 4.02 yn yr adroddiad. Roedd am ei gwneud yn glir ei fod wedi ymrwymo i weithredu er budd holl aelodau’r cynllun, ers ymuno â’r Pwyllgor yn 2014. Nododd ei bryderon parhaus ynghylch y diffyg awydd ymddangosiadol i waredu pan nad yw ymgysylltiad yn llwyddiannus, gan nodi bod rhai meysydd, y mae wedi tynnu sylw atynt o’r blaen, yn ymwneud ag asedau o lai na £30 miliwn yn y Portffolio Dyrannu Asedau Tactegol.  Roedd o’r farn bod defnyddio’r risg o beidio â bodloni rhwymedigaethau yn y dyfodol fel rheswm dros beidio â chyflawni dyletswyddau penodol yn amhriodol mewn llawer o sefyllfaoedd, megis fel yn achos yr enghraifft TAA. Credai pe bai’r newid yn y sgôr risg yn feirniadaeth uniongyrchol o’i uniondeb a’i allu personol, na fyddai ganddo unrhyw ddewis ond ymddiswyddo o’r Pwyllgor. Gadawodd Mr Hibbert y cyfarfod.

            Dywedodd y Cadeirydd fod Mr Hibbert yn aelod gwerthfawr iawn o’r Pwyllgor, ac y byddai’n chwith ganddo pe bai’n ymddiswyddo. Cytunodd gyda Mr Latham, Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd, y bydden nhw’n trefnu cyfarfod gyda Mr Hibbert ar gyfer ei berswadio i aros ar y Pwyllgor. 

            Eglurodd Mr Latham nad oedd wedi derbyn unrhyw rybudd ymlaen llaw o fwriadau Mr Hibbert. Cyfeiriodd at y pwyntiau y tynnwyd sylw atynt gan Mr Hibbert ac eglurodd fod hyfforddiant a chynllun gweithredu ar gyfer sut y gellir datblygu’r pwyntiau hyn. Cytunodd bod Mr Hibbert yn aelod hynod werthfawr o’r Pwyllgor ac y byddai’n siomedig pe na bai’n parhau fel aelod. Tynnodd sylw penodol at werth Mr Hibbert fel cynrychiolydd aelodau’r cynllun sydd â phleidlais. 

            Dywedodd y Cynghorydd Rutherford ei fod yn swyddog llawn amser gydag Unsain ond mewn ardal arall ac nad oedd wedi bod yn ymwybodol o fwriadau Mr Hibbert. Mynegodd bryderon hefyd yngl?n â Mr Hibbert yn ymddiswyddo fel aelod o’r Pwyllgor, gan nodi fod Mr Hibbert bob amser yn frwdfrydig am ei gyfrifoldebau a’i fod wedi ychwanegu cymaint o werth i’r gronfa gyda’i gyfraniad dros y blynyddoedd. 

            Nododd y Cynghorydd Swash ei fod yn credu bod rhai o’r pryderon a godwyd gan Mr Hibbert yn ddilys a’i fod yn drist iawn am y sefyllfa annisgwyl hon. Gofynnodd y Cynghorydd Swash hefyd am eglurhad ynghylch y rhesymau am y newid mewn risg ym mharagraff 4.02.

            Cytunodd Mrs McWilliam fod Mr Hibbert yn aelod gwerthfawr iawn o’r Pwyllgor a’i bod yn dra siomedig ei fod o’r farn bod y newid i sgôr y risg gwrthdaro buddiannau wedi’i gyfeirio ato ef, ac nad oedd hynny’n wir. Yna, eglurodd bod y newid yn sgôr y risg yn cyd-fynd â’r sylw a wnaed yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor, lle’r oedd aelodau’r Pwyllgor yn cydnabod ei bod hi’n bwysig ceisio cyngor priodol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, yn enwedig yn achos meysydd sy’n ymwneud â newid hinsawdd, er enghraifft. Atgoffodd y Pwyllgor fod y materion buddsoddi a oedd yn cael eu trafod yn rhai technegol iawn. Os na chaiff cyngor priodol a chlir ei ddarparu, mae risg na fydd y Pwyllgor yn deall y newidiadau sy’n cael eu cynnig a goblygiadau’r newidiadau hynny’n llawn, ac felly mae yna risg y gallai penderfyniadau amhriodol gael eu gwneud. Nododd y risg yn parhau’n isel – cafodd ei newid o ‘isel iawn’ i ‘isel’ ac roedd hi’n disgwyl iddo newid i ‘isel iawn’ eto ar ôl y penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor ym mis Mehefin, yn dilyn yr hyfforddiant ym mis Mai. Yn olaf, dywedodd ei bod yn bwysig i gofrestrau risg gael eu diweddaru’n rheolaidd, er mwyn ymateb i sefyllfaoedd wrth iddynt godi.

            [Nodyn ar ôl y cyfarfod – Mewn trafodaeth ar wahân rhwng Mr Hibbert, y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar ôl y cyfarfod, rhoddwyd cyfle i Mr Hibbert drafod ei bryderon a’i rwystredigaeth yngl?n â fformat cyfarfodydd dros y we mewn mwy o fanylder. Ar ddiwedd y drafodaeth, penderfynodd Mr Hibbert barhau’n aelod o’r Pwyllgor.]

 PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad Llywodraethu.

 

Dogfennau ategol: