Agenda item

Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24

Pwrpas:        Ystyried y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2023/24 cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) drosolwg o sefyllfa gyfredol y Cyngor mewn perthynas â Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol, gan nodi bod y portffolio’n gweithredu wyth cynllun gwresogi ardaloedd cymunedol o fewn Sir y Fflint ar hyn o bryd, gyda 417 eiddo’n defnyddio systemau gwresogi ardaloedd cymunedol.   Roedd y Cyngor wedi ail-drafod y tariff tanwydd ar gyfer 2023/24 gan fod y contract blaenorol wedi dod i ben ym mis Mawrth 2023.

 

 Roedd y ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y gronfa wresogi wrth gefn.  Er mwyn adennill y ffioedd gwresogi a ragwelir yn llawn, roedd angen cynyddu ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol yn unol â’r cynyddiadau i’r tariff.   Roedd y taliadau arfaethedig i'w hailgodi yn 2023/24 wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol - Masnachol a Thai wybod, os bydd y Cyngor yn parhau i gyfrifo’r ffioedd yn yr un modd ag y maent wedi’i wneud yn y blynyddoedd blaenorol, y byddai tenantiaid a oedd yn defnyddio’r systemau Gwresogi Ardaloedd Cymunedol yn destun cynyddiadau o 515% yn seiliedig ar y tariff nwy cytunedig newydd.   Roedd hyn yn uwch na’r cynnydd tariff cyffredinol o 420% wrth i’r ffioedd ardaloedd cymunedol newydd ddod i rym i denantiaid o 31 Gorffennaf 2023.   Roedd gwaith wedi cael ei gwblhau i warchod tenantiaid rhag y cynnydd posibl ac felly’r cynnydd cyfartalog arfaethedig i denantiaid oedd 197%.   Byddai hyn yn golygu y byddai diffyg yn y gronfa wresogi wrth gefn o oddeutu £0.080 miliwn ar ddiwedd 2023/24 y byddai’n rhaid ei adennill yn y dyfodol wrth i brisiau cyfleustodau adfer a sefydlogi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei fod ef, ac Arweinydd y Cyngor, wedi anfon cwestiynau cyn y cyfarfod at swyddogion, gan ei fod yn bryderus am y cynnydd arfaethedig, a dywedodd na allai gefnogi cynnydd o’r fath i denantiaid ar hyn o bryd.   Cyfeiriodd at sylwadau’r swyddogion am ecwiti i bob tenant, ond dywedodd y gellid dadlau bod tenantiaid yn sybsideiddio’r rheiny nad ydynt yn talu rhent neu’n difrodi eu heidio cyn iddynt ddod yn wag.   Dywedodd yr hoffai weld y costau’n cael eu hadennill dros gyfnod hirach fel yr oeddent wedi’i wneud yn y gorffennol a dywedodd bod y mwyafrif o’r tenantiaid yr oedd yn eu cynrychioli yn y ddau gynllun a restrir yn yr adroddiad hwn yn ddiamddiffyn ac yn methu hawlio cymorth ariannol gan eu bod ychydig yn uwch na’r trothwy.   Roedd yn gobeithio y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi ei gynnig i beidio â chefnogi’r cynnydd.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y drafodaeth e-bost gyda’r Cynghorydd Attridge a dywedodd bod y Cyngor yn anelu at adennill y costau llawn mewn perthynas â rhent, a’u bod yn rhagweithiol iawn o ran hyn, ac fe fyddai hynny’n amlwg i aelodau yn yr adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.   Eglurodd bod y Cyngor yn derbyn ffioedd gan gwmnïau cyfleustodau ac yn ceisio lliniaru graddfa’r cynnydd i denantiaid fel y gwelir yn yr adroddiad.   Cyfeiriodd at benderfyniad yn y gorffennol i ohirio prosesau adennill costau dros gyfnod o dair blynedd, ond cafodd hynny ei wrthdroi i gyfnod o ddwy flynedd, sef yr hyn a oedd yn cael ei gynnig nawr.   Roedd tenantiaid wedi cael eu gwarchod i ryw raddau o’r cynnydd hyd yma, ond ni allai’r Cyngor reoli marchnadoedd byd-eang, ond roedd y Cyngor yn ceisio lliniaru swm y cynnydd y byddai tenantiaid yn ei brofi.

 

            Ymatebodd y Cynghorydd Attridge gan nodi ei fod yn benderfyniad gwleidyddol i rannu’r broses adennill costau dros gyfnod o dair blynedd.   Cyfeiriodd at y Cyfrif Refeniw Tai, a oedd, meddai, bob amser ag arian dros ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a gofynnodd a oedd modd defnyddio’r arian hwn i ostwng y cynnydd arfaethedig i denantiaid.   Nododd y Rheolwr Cyllid Strategol y cynigwyd yn 2017 i rannu’r broses adennill costau dros dair blynedd, ond fe ddaeth i’r amlwg ar ôl blwyddyn fod y cynyddiadau’n cael effaith sylweddol ar y cyfrif gwresogi a phenderfynwyd gostwng y cyfnod i ddwy flynedd.   Roedd bob amser yn ofynnol i gostau gwresogi gael eu hadennill yn llawn o fewn y Cyfrif Refeniw Tai, fel y nodwyd yn y canllawiau, ac roedd yn anodd rhannu’r broses adennill costau dros gyfnod hirach gan fod prisiau nwy’n parhau i fod yn ansefydlog.   Cyfeiriodd y Prif Swyddog aelodau’r Pwyllgor at benderfyniad blaenorol a wnaethpwyd, ac a gefnogwyd, gan y Cabinet, y byddai unrhyw arian dros ben yn y Cyfrif Refeniw Tai’n cael ei ddefnyddio i ostwng nifer yr eiddo gwag. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd David Evans sut fyddai’r defnydd o ardaloedd cymunedol yn cael ei gyfrifo.   Cynghorodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai y byddai gwaith yn cychwyn ar osod mesuryddion mewn eiddo unigol ar draws y Sir yn ogystal â phob ardal gymunedol er mwyn nodi’r defnydd.   Byddai gwaith hefyd yn cael ei gwblhau i osod mesurau rheoli effeithiol dros y 12 mis nesaf.     

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Thew ynghylch gosod paneli solar, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddent yn ystyried gosod paneli solar unwaith y byddai angen adnewyddu’r systemau gwresogi.       

 

            Diolchodd y Cynghorydd Geoff Collett i swyddogion am eu hymdrechion i leihau’r cynnydd cyhyd ag y bo hynny’n bosibl.   Gofynnodd pe bai tenantiaid yn hwyr yn talu eu biliau gwresogi, a fyddai hyn yn cael ei ystyried yn unol â thaliadau rhent ac a allai tenantiaid gael eu troi allan.   Eglurodd y Prif Swyddog fod taliadau gwasanaeth ar wahân i rent o ran taliadau tenantiaid. 

 

            Soniodd y Cynghorydd Attridge am y defnydd o ardaloedd cymunedol gan grwpiau o bobl nad ydynt yn denantiaid, ar gyfer digwyddiadau megis boreau coffi a bingo a gofynnodd pam ddylai tenantiaid dalu am yr ynni a ddefnyddir yn yr ardaloedd cymunedol hyn os nad ydynt yn cymryd rhan.   Eglurodd y Prif Swyddog fod taliadau gwasanaeth i denantiaid wedi aros yr un fath, ond roedd taliadau gwresogi’n ffi gwasanaeth a gaiff ei basio ymlaen gan gwmnïau cyfleustodau.   Roedd gofyn i denantiaid dalu am eu defnydd nhw, ac nid oedd gofyn iddynt dalu am ddefnydd yn yr ardaloedd cymunedol.    

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Ris a oedd y Cyngor yn bwriadu cyflwyno mesurau i fynd i’r afael â gwres sy’n cael ei golli mewn ardaloedd cymunedol.   Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth wybod, yn ystod adolygiad o systemau gwresogi canolog cymunedol, y byddai gweithredu rheolyddion pellach i wella effeithlonrwydd ynni’n cael ei ystyried.

 

            Amlinellodd y Cadeirydd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad.  Cynigodd y Cynghorydd Attridge ddiwygiad, a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Thew, fel a ganlyn:-

 

  • Bod y Pwyllgor yn gofyn i’r Cabinet ystyried rhannu’r cynyddiadau arfaethedig dros gyfnod hirach er mwyn lleihau’r effaith ariannol ar denantiaid y Cyngor. 

 

Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn gofyn i’r Cabinet ystyried rhannu’r cynyddiadau arfaethedig dros gyfnod hirach er mwyn lleihau’r effaith ariannol ar denantiaid y Cyngor.

Dogfennau ategol: