Agenda item
Rhyddid y Sir - Yr Arglwydd Barry Jones
Pwrpas: Ystyried rhoi Rhyddid y Sir y Sir y Fflint i'r Arglwydd Barry Jones i gydnabod ei gyrfa Seneddol nodedig.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac egluro y byddai’r Arglwydd Barry Jones wedi dathlu 50 mlynedd o gynrychioli pobl Sir y Fflint fel seneddwr yn 2020. Yr oedd y Cyngor wedi gwneud trefniadau o’r blaen i ailenwi Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir i ‘Siambr Cyngor yr Arglwydd Barry Jones’ er mwyn cydnabod ei gamp. Yn anffodus, oherwydd COVID a’r cyfyngiadau a oedd mewn grym ar y pryd, ni chynhaliwyd y digwyddiad.
Awgrymwyd ers hynny y dylid cyflwyno Rhyddfraint Sir y Fflint i’r Arglwydd Barry Jones, yn ogystal ag ailenwi Siambr y Cyngor ar ei ôl – byddai hynny’n deyrnged addas iddo am ei wasanaeth a’i ymroddiad i gymunedau lleol Sir y Fflint.
Yr enwebiad oedd cyflwyno Rhyddfraint Sir y Fflint i’r Arglwydd Barry Jones i gydnabod ei yrfa wleidyddol hir a disglair, a chytunodd holl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor ar yr enwebiad. Bu’r Arglwydd Jones yn eiriolwr dros Sir y Fflint drwy gydol ei yrfa, a pharhaodd i weithio’n ddiflino dros bobl, busnesau a grwpiau cymunedol ledled y sir. Dyma’r anrhydedd mwyaf y gallai Cyngor Sir ei roi.
Rhoddwyd Rhyddfraint y Sir dan Adran 249 (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Nododd y ddeddfwriaeth y gallai Cyngor Sir roi Rhyddfraint y Sir i “bobl o fri” ac “unigolion sydd, ym marn yr Awdurdod, wedi gwneud cymwynasau amlwg â’r lle hwnnw neu’r ardal honno”.
Mae’n rhaid i benderfyniad i dderbyn Rhyddfreinwyr Anrhydeddus gael ei basio yng nghyfarfod y Cyngor a alwyd yn arbennig, lle rhoddwyd hysbysiad yngl?n ag amcan y cyfarfod a’i basio gan ddim llai na dau draean o Aelodau’r Cyngor sy’n pleidleisio arno.
Yr oedd teitl Rhyddfreinwyr Anrhydeddus yn Sir y Fflint yn anrhydedd yn unig, ac nid oedd yn rhoi unrhyw hawliau na breiniau arbennig.
Croesawyd yr Arglwydd a’r Fonesig Jones a’u gwesteion arbennig i’r cyfarfod gan y Cadeirydd. Arweiniodd y teyrngedau i’r Arglwydd Barry Jones, ac fe’i dilynwyd gan y Prif Weithredwr, a chyfeiriwyd at ei bresenoldeb mewn digwyddiadau dinesig lle bu’n cefnogi Cadeirydd y Cyngor. Yr oedd yn ?r lleol a gâi ei adnabod am ei frwdfrydedd dros yr ardal a’r bobl a oedd yn byw a gweithio yn yr ardal lle bu’n chwarae rhan allweddol wrth ddiogelu a hybu busnesau.
Canmolwyd y gefnogaeth a gafodd yr Arglwydd Barry drwy gydol ei yrfa gan y Fonesig Janet, tra’r oedd hi ei hun hefyd yn dal swyddi pwysig yn y gymuned. Yr oedd buddsoddiad yn yr ardal a thwf busnes yn brawf o’r gwaith cynnar a wnaeth yr Arglwydd Barry Jones wrth gefnogi datblygiad Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Airbus, y Diwydiannau Awyrofod cysylltiedig, Gwibffordd yr A55 a Phont Sir y Fflint.
Arweiniodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor, deyrngedau o’r Siambr, ac fe’i dilynwyd gan nifer o Aelodau. Dywedwyd bod yr Arglwydd Barry Jones yn enghraifft ragorol o wasanaeth cyhoeddus ac ymroddiad, ac yn unigolyn a oedd wedi gweithio’n ddiflino. Brwydrodd yn erbyn cau Courtaulds a Gwaith Dur Shotton, ac ers hynny bu’n gweithio’n ddiflino i gefnogi datblygiad diwydiannol yn Sir y Fflint. Cafwyd teyrngedau wedyn gan westeion arbennig.
Cynigiodd y Cynghorydd Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Attridge.
Rhannwyd atgofion personol, a diolchodd pawb i’r Arglwydd Barry am ei gymorth a chefnogaeth dros y blynyddoedd, gan gynnwys ei gefnogaeth i’r sir.
Anerchodd yr Arglwydd Barry Jones y Siambr, ac ymatebodd i’r holl sylwadau ac atgofion a rannwyd. Diolchodd i’r Cyngor am yr anrhydedd o gael Rhyddfraint Sir y Fflint ac am ailenwi’r Siambr i fod yn “Siambr Cyngor yr Arglwydd Barry Jones”.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor yn rhoi Rhyddfraint Sir y Fflint i’r Arglwydd Barry Jones dan Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1972 i gydnabod 52 o flynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus fel seneddwr a’i wasanaeth ac ymroddiad parhaus i gymunedau lleol Sir y Fflint; a
(b) Bod Siambr y Cyngor yn cael ei ailenwi yn “Siambr Cyngor yr Arglwydd Barry Jones”..
Dogfennau ategol: