Agenda item

Rheoli Cartrefi Gwag

Pwpras:        Rhoi diweddariad pellach ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag. 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai adroddiad i roi diweddariad arall ar reoli a darparu unedau gwag.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod nifer o heriau i’w goresgyn wedi bod dros y 24 mis diwethaf, oedd yn cynnwys y pandemig, Brexit a’r rhyfel yn Wcráin, a oedd wedi cynyddu pwysau wrth geisio cael gafael ar adnoddau i grefftwyr, deunyddiau crai ac wedi cynyddu prisiau a soniodd am y gwaith oedd yn cael ei wneud i gyrraedd cerrig milltir allweddol yn y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad, oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

  • Cyllideb
  • Adnewyddu
  • Gweithlu
  • Trosolwg ac Adrodd
  • Cydymffurfio

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd y gweithgareddau lleol oedd wedi’u cyflawni, gan ychwanegu bod y Tîm Rheoli’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod cynnydd a pherfformiad ar y meysydd canlynol:

 

  • Cyllid y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Pontio
  • Caffael Rhestr Brisiau newydd
  • Caffael/tendro’r fframwaith newydd
  • Caffael contractwyr newydd
  • Adleoli swyddi adnoddau mewnol (Arweinwyr Tîm ac Arolygwyr)
  • Hyfforddiant i’r Tîm Unedau Gwag
  • Datblygu proses ddyrannu newydd
  • Dod o hyd i unrhyw gyllid ychwanegol
  • Edrych ar Safon Ansawdd Tai Cymru 2 a datgarboneiddio
  • Adolygiad llawn o fanylebau i safonau unedau gwag, i adeiladu arolygon safonol cadarn
  • Sicrhau bod contractwyr yn cyrraedd meincnodau

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin yngl?n â chostau cyfartalog dod ag eiddo gwag yn ôl i gael ei ddefnyddio a chymhariaeth hynny ag awdurdodau cyfagos, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod awdurdodau cyfagos fel arfer yn gwario rhwng £18,000 ac £20,000 ar eiddo gwag, ond tua £9,000 oedd y costau cyfartalog i Sir y Fflint.  Cytunodd i ddarparu gwybodaeth ar faint o’r eiddo gwag oedd angen gwaith oedd yn costio mwy na £10,000 i Aelodau’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Croesawai’r Cynghorydd Dale Selvester yr adroddiad manwl.  Croesawai hefyd fod yr holl Arweinwyr Tîm wedi dychwelyd i’r gweithle a bod gwaith recriwtio wedi’i wneud a dywedodd yr hoffai weld sut roedd y gwasanaeth wedi gwella yn sgil hyn.  Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i ddarparu dadansoddiad data ar fanteision y swyddi ychwanegol mewn adroddiadau diweddaru yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Selvester hefyd a oedd contractwyr allanol yn cael gwybod beth oedd eu targedau perfformiad a pha fesurau oedd yn cael eu defnyddio os nad oeddent yn eu cyrraedd.  Holodd hefyd yngl?n â’r amryw broblemau â deunyddiau a chyflenwadau oedd yn yr adroddiad gan ddweud ei fod wedi cael sgyrsiau gydag adeiladwr lleol oedd yn dweud nad oedd unrhyw broblemau mawr â chyflenwadau o ddeunyddiau fel ffenestri.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod contractwyr allanol yn gweithio i dargedau perfformiad a oedd wedi’u gosod.  Er enghraifft, byddai contractwr bach yn cael 2 eiddo gwag a phan fyddent wedi gwneud 75% o’r gwaith, byddai rhagor o eiddo’n cael ei ddyrannu iddynt er mwyn cynorthwyo â llif gwaith a chynllunio at y dyfodol.  Pe bai unrhyw gontractwr yn hwyr yn cwblhau eiddo neu os oedd problemau ag ansawdd, byddai’n effeithio ar ddyrannu eiddo iddynt yn y dyfodol.  O ran deunyddiau, roedd yr adroddiad yn sôn am broblemau dros y 2 flynedd ddiwethaf yn ystod y pandemig ac roedd y rhan fwyaf o’r rhain bellach wedi’u datrys.  Y bwriad oedd gweithio’n agos gyda chyflenwyr lleol i ddechrau cynyddu lefelau stoc a rhannu rhaglenni gwaith i’r dyfodol wrth symud ymlaen.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dave Evans a oedd cartrefi’n cael eu harchwilio’n rheolaidd er mwyn dod o hyd i broblemau cyn iddynt droi’n waith atgyweirio mawr pan fyddai’r adeilad yn wag.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod arolwg o gyflwr y stoc wedi cychwyn yn 2020 ond nid oedd modd cael mynediad i’r adeiladau yn ystod y pandemig.  Byddai arolwg lefel uchel o gyflwr y stoc i asesu cartrefi tenantiaid yn cychwyn yn fuan, ond gydag unrhyw denant oedd yn y gorffennol wedi gwrthod mynediad i’w cartref, yn rhan o waith Safon Ansawdd Tai Cymru, roedd rhaid cael mynediad i sicrhau bod ceginau ac ystafelloedd ymolchi’n ddiogel.  Pan fyddai gweithiwr yn mynd i eiddo ac yn dod o hyd i bryderon, byddai’n rhoi gwybod am y rhain cyn gynted â phosib’.  Roedd yn hyderus bod prosesau cadarn ar waith.

 

Mewn ymateb i bryderon a gododd y Cynghorydd Pam Banks ar waith atgyweirio eiddo yn ei ward hi lle’r oedd tenantiaid wedi bod yn disgwyl sawl blwyddyn, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i drafod hyn gyda’r Cynghorydd Banks ar ôl y cyfarfod.

 

Yn ateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Selvester yngl?n â Swyddogion Tai’n rhoi gwybod am faterion diogelu wrth fynd i mewn i eiddo, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Swyddogion Tai’n gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Plant i sicrhau eu bod yn cael gwybod am unrhyw bryderon heb oedi. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd a wnaed i gyflawni’r gweithgarwch oedd wedi’i gynllunio a amlinellwyd i’r Pwyllgor ym mis Medi 2022, y camau nesaf a’r cerrig milltir yn y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag fel yr oedd yn Atodiad 1; a

 

(b)       Cefnogi’r cynigion i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag.

Dogfennau ategol: