Agenda item

Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau

Pwrpas:        Cymeradwyo'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii) - (xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Roedd yr adroddiad hefyd yn delio â phenodi Pwyllgorau a Chadeiryddion eraill a materion eraill fel dyrannu seddi dan gydbwysedd gwleidyddol.

 

Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn ymdrin ag un penderfyniad a oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol ar gyfer eu hystyried.

 

(i)        Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r pwyllgorau sydd wedi’u rhestru ym mharagraff 1.01 yr adroddiad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Billy Mullin.  O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol ar gyfer 2022/23:

 

Pwyllgor Apeliadau

Pwyllgor Newid Hinsawdd

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Pwyllgor Cwynion

Pwyllgor Apeliadau Cwynion

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel a ganlyn:

  • Tai a Chymunedau
  • Adnoddau Corfforaethol
  • Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
  • Yr Amgylchedd a’r Economi
  • Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau

 

(ii)        Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol a bod y Cyngor eisoes wedi penderfynu y dylai’r prif Bwyllgorau fod yn ddigon mawr i allu cynrychioli pob gr?p gwleidyddol.   Cyfeiriwyd at ofynion deddfwriaethol yn ymwneud â maint a chyfansoddiad y Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Safonau fel y manylir ym mhwynt 1.04 yn yr adroddiad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Billy Mullin.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at y rheol am gydbwysedd gwleidyddol a oedd y nodi bod gan gr?p mwyafrifol hawl i fwyafrif ym mhob pwyllgor.  Eglurodd, mewn sefyllfa lle’r oedd gan y gr?p mwyafrifol hanner y seddi, yn cynnwys y Cadeirydd, ar bwyllgor gyda 12 aelod, byddai pleidlais fwrw’r Cadeirydd, i bob pwrpas, yn rhoi rheolaeth gyffredinol iddynt.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y gallai’r Cyngor newid maint y pwyllgorau ar ôl y Cyfarfod Blynyddol os y gellid dod i gytundeb rhwng Arweinwyr Grwpiau.  Ychwanegodd hefyd nad oedd y rheol am gydbwysedd gwleidyddol yn rhoi ystyriaeth i bleidleisiau bwrw gan Gadeiryddion a dywedodd bod nifer o bwyllgorau lle nad oedd y gr?p mwyafrifol yn cael y bleidlais fwrw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers, dywedodd y Prif Swyddog bod y Gr?p Strategaeth Cynllunio yn gr?p ymgynghorol a benodwyd o dan drefniadau gweithredol â rôl a oedd yn cael ei chydnabod yn y Cyfansoddiad, felly nid oedd wedi’i gynnwys ar y rhestr o gyrff gwneud penderfyniadau ffurfiol yn yr adroddiad.

 

Cynigodd y Cynghorydd Bernie Attridge ddiwygiad, sef y dylid cyfeirio cais y Cynghorydd Banks i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd er mwyn gallu cyflwyno adroddiad yn ôl i’r Cyngor.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

Derbyniwyd y diwygiad gan y Cynghorydd Ian Roberts a ofynnodd bod y mater hefyd yn cael ei drafod gydag Arweinwyr Grwpiau.  Daeth hwn yn brif gynnig ac fe gafodd ei gymeradwyo yn dilyn pleidlais.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod maint pob pwyllgor fel y nodir ym mharagraff 1.03 yr adroddiad; a

 

(b)       Bod yr adolygiad o faint pwyllgorau yn cael ei gyfeirio at yr Arweinwyr Grwpiau cyn cyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd er mwyn gallu adrodd yn ôl i’r Cyngor.

 

(iii)       Cylch Gorchwyl Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y Pwyllgorau a benodwyd ganddo.  Roedd y rhain wedi’u nodi yn y Cyfansoddiad ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylid cymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones.  Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cylch gorchwyl ar gyfer pob Pwyllgor fel y’u nodir yn y Cyfansoddiad, yn cael eu cymeradwyo.

 

(iv)      Cydbwysedd Gwleidyddol

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhaid i’r Cyngor benderfynu yn y Cyfarfod Blynyddol, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl hynny, ar ddyraniad seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 (fel y’u diwygiwyd).  Nid oedd y rheolau hynny’n berthnasol i’r Cabinet na’r Pwyllgor Safonau.  Rhoddwyd eglurhad ar sail y gofyniad statudol ar gyfer dyrannu seddi pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol yn ogystal â gwahanu’r pwyllgorau ‘cyflogaeth’ i sicrhau nad oedd grwpiau llai dan anfantais; arfer a oedd yn galw am gytundeb penodol gan bob Aelod.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Rob Davies.  O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Dyrannu’r seddi yn unol â chydbwysedd gwleidyddol, fel y’i nodir yn Atodiad 1, a rheolau aelodaeth Pwyllgorau, fel y’u nodir yn yr adroddiad; a

 

(b)       Dyrannu’r seddi ar y Pwyllgor Cwynion, Pwyllgor Apeliadau Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu i roi amrediad gwleidyddol eang i’r aelodaeth.

 

(v)       Penderfyniad y Grwpiau i benodi Cadeiryddion Trosolwg a Chraffu

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi eu dewis gan y grwpiau gwleidyddol yn seiliedig ar gryfder y gwahanol grwpiau a oedd â seddi ar y Cabinet.  Roedd Tabl 2 o’r cyfrifiad cydbwysedd gwleidyddol ynghlwm wrth yr adroddiad yn rhoi syniad o hawl i Gadeiryddion Trosolwg a Chraffu yn seiliedig ar faint grwpiau gwleidyddol a’r rheiny â seddi Cabinet.

 

Mewn ymateb i sylwadau Aelodau, eglurwyd bod yr hawl i grwpiau Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael ei thalgrynnu i lawr i’r rhif cyfan agosaf oherwydd bod ganddynt seddi ar y Cabinet.  Felly, roedd gan y gr?p Llafur a’r gr?p Annibynnol yr hawl i enwebu dau Gadeirydd yr un ac roedd gan gr?p yr Eryr yr hawl i enwebu un Cadeirydd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylai’r Gr?p Annibynnol enwebu Cadeiryddion ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Tai a Chymunedau ac Adnoddau Corfforaethol, dylai’r Gr?p Llafur enwebu Cadeiryddion ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a’r Amgylchedd a’r Economi ac y dylai Gr?p yr Eryr enwebu Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Wrth eilio’r cynnig, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts bod enwebiadau’r gr?p Llafur yn cynnwys y Cynghorydd Teresa Carberry fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a’r Cynghorydd Dave Evans fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi.

 

Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhelliad ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu dyrannu fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu:                  Gr?p i Ddewis Cadeirydd:

Tai a Chymunedau                                       Annibynnol

Adnoddau Corfforaethol                              Annibynnol

Addysg, Ieuenctid a Diwylliant                    Llafur (y Cynghorydd Teresa Carberry)

Yr Amgylchedd a’r Economi                        Llafur (y Cynghorydd David Evans)

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd                    Gr?p yr Eryr

 

(vi)      Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu penodi gan wahanol gyrff, rhai ohonynt a oedd yn destun cyfyngiadau, fel y nodir ym mharagraff 1.19 yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr enwebiadau canlynol, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Helen Brown:

 

  • Penodi’r Cynghorydd Allan Marshall fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd;
  • Penodi’r Cynghorydd Ted Palmer yn Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd;
  • Penodi’r Cynghorydd Rob Davies yn Is-gadeirydd y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd;
  • Penodi’r Cynghorydd Marion Bateman yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu; a
  • Phenodi'r Cynghorydd Richard Lloyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts ddiwygiad i’r uchod, gan gyflwyno’r enwebiadau canlynol, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson:

 

  • Penodi’r Cynghorydd Alasdair Ibbotson fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd; a
  • Phenodi’r Cynghorydd Rosetta Dolphin yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill, felly cafwyd pleidlais ar bob enwebiad.  Yn dilyn pleidlais, penodwyd y Cadeiryddion canlynol:

 

Y Cynghorydd Alasdair Ibbotson - Pwyllgor Newid Hinsawdd

Y Cynghorydd Rosetta Dolphin - Pwyllgor Trwyddedu

Y Cynghorydd Richard Lloyd - Pwyllgor Cynllunio

Y Cynghorydd Rob Davies - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Y Cynghorydd Ted Palmer - Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Cadeiryddion y Pwyllgorau canlynol yn cael eu penodi (gan nodi unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd):

 

·             Pwyllgor Newid Hinsawdd - y Cynghorydd Alasdair Ibbotson

·             Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd – y Cynghorydd Ted Palmer

·             Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd – y Cynghorydd Rob Davies

·             Pwyllgor Trwyddedu – y Cynghorydd Rosetta Dolphin

·             Pwyllgor Cynllunio – y Cynghorydd Richard Lloyd

 

(b)       Bod y Pwyllgor Cwynion, y Pwyllgor Apeliadau Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu yn penodi eu Cadeiryddion eu hunain o blith eu haelodau.

 

(vii)     Cymeradwyo’r Cyfansoddiad

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Cyfansoddiad yn seiliedig ar fodel cenedlaethol a ddiweddarwyd yn 2022.  Yn ôl y gofyn, cymeradwywyd mabwysiadu’r model diweddaraf yn y cyfarfod cyn y Cyfarfod Blynyddol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylid cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Johnson.  O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r rheolau, gweithdrefnau, dirprwyaethau a’r codau / protocolau sydd yn y Cyfansoddiad.

 

(viii)    Enwebu i Gyrff Mewnol

 

Roedd y Cynllun Dirprwyo presennol yn darparu ar gyfer Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swyddogion haen gyntaf ac ail haen, yn cynnwys saith Aelod.  Nid oedd hwn yn Bwyllgor sefydlog a byddai’n cael ei gynnull pan fo angen drwy geisio enwebiadau gan Arweinwyr Gr?p.  Yn y gorffennol yr oedd yn arferol i Aelodau’r Pwyllgor ddod o’r holl grwpiau, gan gynnwys yr Aelod Cabinet perthnasol. Ni fyddai cydbwysedd gwleidyddol, yn ffurfiol, er hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylid cymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Cunningham.  O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cyfansoddiad y Pwyllgor Penodiadau.

 

(ix)      Pwyllgor Safonau

 

Eglurodd y Prif Swyddog gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau, yn cynnwys y tri Chynghorydd Sir a benodwyd y llynedd am gyfnod o bum mlynedd a oedd yn gallu gwasanaethau am ddau dymor ar y mwyaf.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Ian Roberts ac fe gafodd ei gymeradwyo yn dilyn pleidlais.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y tri Chynghorydd sydd eisoes wedi’u penodi i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau ar gyfer y tymor hwn yn cael eu nodi.

 

(x)       Penodiadau i Gyrff Allanol

 

Dywedodd y Prif Swyddog y gallai’r Cyngor enwebu Cynghorwyr i wasanaethu ar wahanol gyrff megis yr Awdurdod Tân, Panel yr Heddlu a Throsedd, yn ogystal â sefydliadau ac elusennol lleol (a elwir gyda’i gilydd yn “gyrff allanol”).  Gwnaed penodiadau yn y Cyfarfod Blynyddol diwethaf ar gyfer holl dymor y Cyngor.  Rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr Grwpiau, i wneud unrhyw ddiwygiadau i’r penodiadau hynny yn ôl y gofyn.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Bernie Attridge eglurder yngl?n â chymeradwyo penodiadau i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac fe gynigodd y dylid dyrannu dwy sedd i’r gr?p Llafur a dwy sedd i’r gr?p Annibynnol.

 

Cynigiwyd diwygiad gan y Cynghorydd Ian Roberts, sef bod dwy sedd yn cael eu dyrannu i’r gr?p Llafur, un i’r gr?p Annibynnol ac un i’r Democratiaid Rhyddfrydol.  Yn dilyn hyn, tynnodd y Cynghorydd Attridge ei gynnig yn ôl oherwydd ei fod yn teimlo bod hyn yn ddyraniad mwy cynrychiadol o’r seddi.  Eiliodd y cynnig gan y Cynghorydd Roberts ac fe gafodd ei gymeradwyo yn dilyn pleidlais.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr Grwpiau, i wneud unrhyw ddiwygiadau i benodiadau i gyrff allanol yn ôl y gofyn.

Dogfennau ategol: