Agenda item

Cynllun Strategol Archwilio Mewnol

Cyflwyno’r Cynllun Archwilio Mewnol arfaethedig ar gyfer 2023/24 - 2025/26 er ystyriaeth yr Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Cynllun Strategol Archwilio Mewnol tair blynedd ar gyfer 2023/24 - 2025/26 a oedd wedi ei ddatblygu gan ddefnyddio mapio gwarant, canlyniadau gwaith archwilio blaenorol, risgiau newydd a rhai sy’n datblygu ac ymgynghori gydag uwch swyddogion ac Archwilio Cymru.  Cafodd yr holl archwiliadau blaenoriaeth uchel ac adolygiadau blynyddol/dwywaith y flwyddyn eu cynnwys yn y Cynllun ‘craidd’ i’w gwblhau yn 2023/24 gyda sgorau blaenoriaeth yn cael eu dangos.   Roedd yna hyblygrwydd o fewn y Cynllun i gynnwys unrhyw waith mewn ymateb i faterion brys neu risgiau a fyddai’n cael blaenoriaeth dros adolygiadau blaenoriaeth canolig a byddai’n destun adolygiad rheolaidd gyda deiliaid portffolio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am waith blaenorol ar y defnydd o ymgynghoriaeth ac awgrymodd y pynciau canlynol ar gyfer eu hystyried: cael gwerth am arian neu waredu asedau, gwrth-lwgrwobrwyo a llygredigaeth gan gynnwys anrhegion a lletygarwch, cydymffurfiaeth gyda rheolau cadw dogfennau a phenderfyniadau Cynllunio yn cynnwys buddiannau Aelod/swyddogion.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg fod gwaredu asedau wedi ei archwilio’n flaenorol a bod polisïau llwgrwobrwyo a llygredigaeth yn cael eu hadolygu yn rheolaidd.  Tra bod gwaith blaenorol wedi ei wneud ar Gynllunio, roedd adolygiad o Ddatganiadau o Gysylltiad wedi eu cynnwys yn y Cynllun cyfredol.  Ar y defnydd o ymgynghorwyr, roedd gwariant wedi gostwng yn sylweddol ers cyflwyno prosesau a rheolaethau a oedd wedi eu hatgyfnerthu a oedd yn profi i fod yn effeithiol.  Gan ddilyn awgrym y Cadeirydd, byddai gwybodaeth ar hyn yn cael ei rhannu.

 

Wrth ymateb i gwestiynau pellach, rhoddwyd eglurhad ar yr adolygiad o grantiau corfforaethol a chadarnhawyd y byddai archwiliad blaenorol o reoli credyd a dyled ddrwg yn cael ei gadw o dan adolygiad.

 

Fel yr awgrymwyd gan Allan Rainford, byddai’r Cynllun yn cael ei ddiwygio i adolygu gwaith ar Ddiogelwch Seiber/Data ac Amddiffyn yn erbyn Meddalwedd Wystlo ac mae hynny wedi ei drefnu ar gyfer 2023/24 ac fesul blwyddyn.

 

Ar reoli eiddo gwag, dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylai’r Pwyllgor gael mwy o sicrwydd ar gynnydd gyda chamau gweithredu.  Byddai capasiti pellach yn cael ei adolygu yn y Cynllun gan fod gwaith eisoes wedi’i gwblhau ar eiddo gwag.  Gofynnwyd i’r Cynghorydd Attridge ddarparu mwy o wybodaeth ar ei gais am adolygiad o Arlwyo NEWydd a’r goblygiadau o wrthdaro buddiannau posibl.  Byddai adolygiad a awgrymir o gontractau inswleiddio waliau allanol (yn benodol ar draws Glannau Dyfrdwy) yn cael ei ystyried unwaith y bydd y broses gyfreithiol wedi ei chwblhau.

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Attridge, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i rannu canfyddiadau adroddiad ar y digwyddiad ar-lein yn y Cabinet ym mis Chwefror.

 

Yn unol â chais y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg sicrwydd ar gapasiti i gyflawni’r Cynllun yn seiliedig ar adnoddau cyfredol.  Mewn ymateb i sylwadau, rhoddodd fanylion gwaith diweddar ar recriwtio a chadw yn ychwanegol at adolygiad o’r model cyflog.  Hefyd rhannodd wybodaeth ar adolygiad o fewn Gwasanaethau Stryd a Chludiant a fyddai’n ychwanegu’r gwerth mwyaf ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.   Byddai adolygiad yn y dyfodol o strategaeth ymgysylltu’r cwsmer, sydd ar hyn o bryd yn cael ei datblygu, yn cael ei gynnwys yn y Cynllun i asesu pa mor dda y mae wedi ei ymgorffori ar draws y sefydliad.

 

Ar sail hynny, cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Glyn Banks a'i eilio gan y Parchedig Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried y meysydd dan sylw, gan gynnwys y rhai a flaenoriaethwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a lefel adnoddau’r archwiliad, mae’r Pwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Strategol Archwilio Mewnol Sir y Fflint ar gyfer 2023-2026.

Dogfennau ategol: