Agenda item

Nanny Biscuit

Pwrpas:        Cael cyflwyniad ar waith y sefydliad cymunedol lleol sy’n rhoi ystod eang o gefnogaeth i bobl ddiamddiffyn. 

Cofnodion:

Rhoddodd James Hunt gyflwyniad ar ei gefndir a’r gwaith o sefydlu Nanny Biscuit.   Ar ôl gadael yr ysgol, fe ddaeth yn Beiriannydd Nwy cyn ymuno â’r Fyddin yn 2010 ond yn anffodus, oherwydd anaf a gafodd wrth wasanaethu yn Affganistan, roedd yn rhaid iddo adael.   Yn dioddef yn feddyliol ac yn gorfforol, roedd eisiau helpu pobl yn hytrach na chael pobl yn ei helpu ef ac felly sefydlodd Nanny Biscuit yn 2018 - wedi’i enwi ar ôl ei nain a fu farw yn 2017 gan ei bod yn arfer rhoi bisgedi iddo.  Bu iddo sylweddoli mai ei angerdd oedd helpu’r Gymuned pan ddarparodd ginio Nadolig ac adloniant i’r rhai a oedd yn dioddef o unigrwydd ac  arwahanrwydd.   Wedyn ceisiodd gymorth i gael mwy o wybodaeth i ddatblygu syniadau eraill yr oedd ganddo, fel therapïau cyfannol am ddim.   Gyda’i gefndir fel peiriannydd nwy, roedd wedi bwriadu gwneud rhywbeth tebyg i DIY SOS ond gan y byddai hynny wedi bod yn gostus, bu iddo droi ei gwmni plymio a gwresogi CAF Gas yn Fenter Gymdeithasol yn 2020 er mwyn defnyddio ei elw ac asedau i helpu’r unigolion mwyaf diamddiffyn yn y Gymuned yn hytrach na chwilio am grantiau.   Oherwydd y pandemig, roedd yn rhaid oedi hwn am y tro a phenderfynodd canolbwyntio ar Nanny Biscuit.   Dangosodd fideo i’r Aelodau o’r hyn a wnaethant yn ystod y pandemig, a oedd yn cynnwys danfon parseli bwyd, darparu cyngerdd awyr agored i Gartref Gofal, darparu cynllun cyfeillion i roi cefnogaeth emosiynol i bobl a oedd yn teimlo’n ynysig ac, ar y cyd â MoneySuperMarket, bu iddynt ddanfon dros 44,000 o brydau bwyd.

 

            Yn ystod yr ail gyfnod clo, bu iddo sefydlu digwyddiad blynyddol o saith niwrnod o weithgareddau a heriau o amgylch Cymru o’r enw Wythnos Wych yng Nghymru er mwyn cael Cymunedau i weithio gyda’i gilydd.

 

Erbyn hyn roedd tri phantri bwyd yng Nghei Connah, Shotton a Sandycroft a oedd yn cael eu rhedeg gan gr?p o wirfoddolwyr.   Cafodd yr arian a godwyd o werthu 10 eitem o fwyd am £3, a roddwyd gan FairShare, ei ddefnyddio ynghyd â rhoddion i brynu prif eitemau bwyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am effaith cau’r safle yn Shotton oherwydd y diffyg cyllid gan y Cyngor ar gyfer talu costau rhent.  Mewn ymateb, dywedodd James y byddai’n broblem fawr ar hyn o bryd gan nad oeddent yn gallu talu’r gost oherwydd y cynnydd ym mhris bwyd.   Gofynnodd y Cadeirydd beth oedd maint yr adeilad yr oedd ei angen arnynt a dywedodd James wrth yr Aelodau fod pobl nid yn unig yn dod i mewn am fwyd; ond eu bod yn dod ar gyfer yr ochr gymdeithasol hefyd ac i gael paned o de a sgwrs a oedd wedi bod o fudd mawr i’r pantrïoedd.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Mackie a’r Cynghorydd Gladys Healey fod James yn cysylltu â nhw’n uniongyrchol fel y gallant rannu syniadau ag ef, gan fod y ddau ohonynt yn rhedeg canolfannau galw heibio dros ychydig o ddyddiau’r wythnos yn eu hardaloedd i leihau unigrwydd.