Agenda item

Hunanasesiad Corfforaethol 2021-22

Pwrpas:        Adrodd am y canfyddiadau a chynllun gwella yn dilyn cwblhau Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad am y canfyddiadau a chynllun gwella yn dilyn cwblhau Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22 cyntaf y Cyngor.   Roedd yr adroddiad yn cynnwys y dull tri cham oedd yn canolbwyntio ar wyth thema allweddol.   Roedd y canfyddiadau yn nodi bod y Cyngor yn ymarfer ei swyddogaethau yn effeithiol, wedi defnyddio adnoddau yn effeithiol a bod llywodraethu effeithiol ar waith, gyda gwaith partneriaeth wedi’i sgorio yn ‘arfer da iawn’.

 

Roedd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wedi darparu gwybodaeth ar gamau a gymerir mewn ymateb i dri chwestiwn a nodwyd gyda thystiolaeth ond angen camau pellach.    Byddai’r camau a nodwyd yn adran 6 y ddogfen yn cael eu cyflawni dros y tymor byr i ddarparu buddion gwirioneddol.

 

Roedd y Cynghorydd Bill Crease yn mynegi pryderon am ddiffyg cyfraniad Aelodau yn y broses i graffu ar gamau gweithredu yn annibynnol. 

 

Cafodd y pwynt ei gydnabod gan y Prif Weithredwr a dywedodd y byddai adborth Aelodau yn rhan o’r broses yn y dyfodol.    Hwn oedd hunan-asesiad cyntaf y Cyngor gafodd ei adolygu yn annibynnol a’i herio gan y tîm Archwilio Mewnol.    Roedd rhannu’r adroddiad gyda’r Pwyllgor hwn yn rhoi cyfle i dderbyn adborth cyn ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac yna’r Cabinet.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gallai cam dau o’r broses gael ei gynnal ar y cyd gan Aelodau a swyddogion. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gofyniad i asesiad cyfoedion corfforaethol gael ei gynnal bob pum mlynedd ar y cyd ag awdurdodau eraill.     Dywedodd er bod y ddyletswydd ar yr hunanasesiad yn dod i rym o Ebrill 2022, roedd yr adroddiad yn cynnwys trefniadau ar gyfer 2021/22 fel peilot.   Wrth gytuno ar y pwyntiau a wnaed am ymgynghori ag Aelodau, dywedodd y gallai trefniadau tebyg gael eu rhoi ar waith fel y rhai oedd wedi eu cynnwys eisoes yn y broses ar gyfer datblygu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Ar yr argymhellion yn yr adroddiad, gofynnodd y Cynghorydd Allan Marshall pa un a oedd yn fwy priodol i’r Pwyllgor dderbyn yn hytrach na chymeradwyo.    Roedd y Prif Weithredwr a’r Cadeirydd yn cytuno mai y Cabinet ddylai ei gymeradwyo. 

 

Yn dilyn sylwadau pellach gan y Cynghorydd Crease ar rôl Aelodau, roedd y Prif Weithredwr yn rhoi eglurhad ar y broses adrodd. 

 

Gwnaeth y Cadeirydd y sylwadau canlynol:

 

  • Cynllunio a Rheoli Adnoddau:  Cwestiwn B8 - dylai’r golofn olaf gynnwys y Strategaeth Asedau yn y rhestr o strategaethau a enwyd.
  • Cwestiynau B9, 10 ac 11 - dylai’r golofn olaf gael ei hadolygu i egluro sut y cyflawnwyd yr amcanion. 
  • Arloesi a Rheoli Newid: Cwestiwn E21 - anghytunwyd gyda sylwadau yn y golofn olaf gan fod y rhan fwyaf o’r cerrig milltir ar ddiwedd y flwyddyn. 
  • Ymgysylltu â Chwsmeriaid a’r Gymuned - dylid rhoi mwy o ystyriaeth i ymgysylltu â’r cyhoedd i nodi gwelliannau, er enghraifft cyfathrebu’n well gyda’r cyhoedd ar faterion gwastraff/ailgylchu.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Aelodau am eu sylwadau a adroddir i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet.    Roedd yn cefnogi’r awgrym i Aelodau gyfrannu yn ystod cam cynnar o’r broses. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i diwygiwyd eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Allan Marshall a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canfyddiadau’r Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22 yn cael eu nodi a’u derbyn; a

 

(b)       Bod y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn yr Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22 yn cael eu nodi a’u derbyn.

Dogfennau ategol: