Agenda item
Goddefebau
To receive any requests for dispensations.
Members of the press/public will be able to remain at the meeting whilst an application for dispensation is presented to the Committee and will be able to return to hear the Committee’s decision. However, under Paragraph 18C Schedule 12A Local Government Act 1972 the Committee will exclude the press and public from the meeting whilst it deliberates on any application for a dispensation.
Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.
Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.
Cofnodion:
Dywedodd y Cadeirydd bod un cais am oddefeb wedi’i dderbyn gan y Cynghorydd Ian Papworth, a’i fod yn cael ei glywed o dan 18C, Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Byddai aelodau o’r wasg a’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod wrth i’r cais gael ei gyflwyno, ond byddent yn cael eu symud i’r cyntedd tra byddai’r pwyllgor yn ymgynghori ac yna’n dychwelyd i glywed y penderfyniad.
Eglurodd y Swyddog Monitro bod hyn yn ymwneud â Neuadd Goffa Trelawnyd. Roedd hyn yn destun newidiadau llywodraethu gyda’r Cyngor Cymuned, gan fod y landlord, sy’n dymuno rhoi prydles newydd i Gymdeithas Gymunedol Trelawnyd, sef gwraig y Cynghorydd Papworth, yn aelod o’r pwyllgor. Roedd yn sefydliad elusennol a oedd yn cymryd prydles ased cyhoeddus i’w gynnal fel gwasanaeth cyhoeddus. Gan fod gwraig y Cynghorydd Papworth yn ymwneud â pharagraff 10(2)(c) o’r Cod, sy’n datgan bod unrhyw fater sy’n effeithio ar les neu sefyllfa ariannol aelod o’r teulu yn creu cysylltiad personol iddo. Roedd hyn yn gysylltiedig â phrydles sefydliad yr oedd ei wraig yn ei reoli, ac a fyddai’n arwain at gysylltiad personol sy’n rhagfarnu i’r Cynghorydd Papworth, fel ei g?r.
Eglurodd y Cynghorydd Ian Papworth fod hyn yn achosi problemau o fewn y Cyngor Cymuned, gan fod 9 aelod arno ond dwy sedd wag ar hyn o bryd. Eglurodd fod pedwar aelod o’r Cyngor yn aelodau o’r Gymdeithas Gymunedol, gan olygu pryd bynnag y bydd angen cynnal pleidlais ar y Gymdeithas Gymunedol neu’r neuadd bentref, a bod cysylltiad yn cael ei ddatgan, ni fyddai cworwm gan y Cyngor. Roedd y Gymdeithas Gymunedol wedi arwyddo prydles 27 mlynedd i gynnal y neuadd bentref a chodwyd materion ynghylch rheoli ac yswiriant adeilad. Fel priod ysgrifennydd yr elusen, roedd ganddo gysylltiad sy’n rhagfarnu, ond nid oedd yn elwa dim o’r elusen ac nid oedd ganddo unrhyw rôl o wneud penderfyniadau o fewn yr elusen. Roedd hyn yn broblemus oherwydd, pe bai aelodau Cymdeithas Gymunedol Trelawnyd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod, ni fyddai modd i’r Cyngor gynnal ei fusnes gan fod angen 4 aelod ar gyfer pleidleisio a rhoddodd amlinelliad o gydbwysedd gwleidyddol y pedwar aelod a oedd yn weddill.
Cododd y Swyddog Monitro dri chwestiwn manwl o sylwadau’r Cynghorydd Papworth:-
· A allai deall pryd y gallai’r ddwy sedd wag gael eu llenwi, gynorthwyo’r mater o ran cworwm?
· A gafodd y cynghorwyr ar Gymdeithas Gymunedol Trelawnyd eu henwebu gan y Cyngor Cymuned?
· A oedd Cymdeithas Gymunedol Trelawnyd yn chwilio am gymorth ariannol gan y Cyngor, ac os felly, a oedd hynny’n werth £500 neu lai?
Mewn ymateb, eglurodd y Cynghorydd Papworth fod dau unigolyn wedi rhoi eu henwau ymlaen, ond y byddai’n ddau neu dri mis cyn iddynt ddechrau yn eu swyddi. Gan gyfeirio at yr ail bwynt, dywedodd y Cynghorydd Papworth nad oedd tri aelod, gan gynnwys ef ei hun, yn cynrychioli’r Cyngor ar Gymdeithas Gymunedol Trelawnyd. Roedd un aelod, y Cadeirydd, yn aelod o Gymdeithas Gymunedol Trelawnyd, ond roedd hefyd yn cynrychioli’r Cyngor. Dywedodd y Swyddog Monitro fod gan yr unigolyn a gaiff ei enwebu gan y Cyngor gysylltiad personol yn awtomatig o dan y Cod, oherwydd eithriad ym mharagraff 12. Byddai hyn yn galluogi’r aelod hwnnw i ymdrin ag unrhyw eitem fel un bersonol yn unig, ar yr amod nad yw’n ymwneud â materion cynllunio neu drwyddedu. Byddai hyn yn caniatáu pedwar cynghorydd ar y cyngor cymuned, a fyddai’n gallu pleidleisio.
Gan gyfeirio at y pwynt olaf, eglurodd y Cynghorydd Papworth fod y ddwy neuadd bentref yn y ward yn derbyn grant gan y Cyngor Cymuned bob blwyddyn ar gyfer eu hyswiriant, gyda Neuadd Bentref Gwaenysgor yn derbyn £1,000 a Neuadd Bentref Trelawnyd yn derbyn £1,000 fel arfer, ond ni dderbyniwyd hyn eleni.
Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst a oedd y cynghorwyr eraill, a oedd mewn sefyllfa debyg wedi gofyn am oddefeb. Cadarnhaodd y Cynghorydd Papworth ei fod wedi rhoi’r ffurflenni iddynt, ond nad oedd yn gwybod a oeddent wedi’u cyflwyno.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd wedi derbyn unrhyw ffurflenni eraill.
Gofynnodd Gill Murgatroyd a fyddai’r ddau gynghorydd newydd yn gymwys i bleidleisio ar hyn pan fyddant yn cael eu penodi. Cadarnhaodd y Cynghorydd Papworth y byddent yn gymwys, gan nad oeddent yn aelodau o Gymdeithas Gymunedol Trelawnyd.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr arian grant o £1,000 a roddwyd i’r ddwy Neuadd a gofynnodd pam nad oedd yr arian wedi’i ddarparu i neuadd Trelawnyd eleni. Cadarnhaodd y Cynghorydd Papworth fod y Cyngor Cymuned wedi bod yn cynnal y neuadd tan fis Rhagfyr, a’u bod wedi parhau â’r yswiriant am gyfnod y tymor, ac mai dyna pam na wnaethant dderbyn y grant eleni.
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
Ar y pwynt hwn, cynigiodd y Cadeirydd y dylai’r cyfarfod symud i sesiwn gaeedig – yn unol â darpariaeth Deddf Llywodraeth Leol (Hawl i Wybodaeth) 1985.
Cafodd hyn ei gynnig gan Mark Morgan a’i eilio gan David Davies.
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 18C, Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Yn dilyn y drafodaeth, cafodd y Cynghorwyr Ian Papworth a Bernie Attridge eu gadael i mewn i’r cyfarfod eto a dechreuwyd y ffrydio byw.
Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cynghorydd Papworth, fod y Pwyllgor Safonau wedi cytuno fod angen goddefeb, o gydnabod yr angen i’r cyngor cymunedol allu trafod ei fusnes ar yr ased cymunedol pwysig hwn. Rhoddwyd goddefeb er mwyn galluogi’r Cynghorydd Papworth i ymgymryd â’r canlynol:-
· Ysgrifennu at neu siarad gyda swyddogion (gydag unigolyn annibynnol yn bresennol, a chofnodion yn cael eu cymryd o’r drafodaeth honno);
· Ysgrifennu at, siarad a/neu ateb cwestiynau yng nghyfarfodydd y Cyngor/Pwyllgor;
· Aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth;
· Pleidleisio
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod yr oddefeb yn parhau am hyd at 12 mis, sef uchafswm yr amser y gallai bara. Byddai’n dod i ben fis ar ôl penodi o leiaf un o’r cynghorwyr eraill heb gysylltiad â Chymdeithas Gymunedol Trelawnyd. Byddai hyn yn galluogi’r cyngor cymuned i wneud cworwm ac yn lliniaru effeithiau’r cysylltiad personol sy’n rhagfarnu ar y Cynghorydd Papworth. Roedd hyn o dan baragraffau (d), (i) a (j) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001. Byddai cadarnhad ysgrifenedig o hyn yn cael ei anfon ymlaen at y Cynghorydd Papworth a Chlerc y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Ian Papworth.
Dogfennau ategol: