Agenda item

Cynllun y Cyngor 2023-28

Pwrpas:        Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles wedi’u hadnewyddu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28, a oedd yn adlewyrchu golwg hirdymor ar adferiad, prosiectau ac uchelgeisiau dros y cyfnod.  Roedd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn cael ei ystyried gan bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau darpariaeth lawn o Ran 1 a’i fesurau a thargedau priodol, cyn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir.

 

O dan Amgylcheddau Dysgu, tynnodd y Cynghorydd Bill Crease sylw at ddatblygu strategaeth moderneiddio ysgolion o fewn ardal Saltney erbyn mis Mawrth 2024.  Cyfeiriodd at gynlluniau gwaith blaenorol yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant nad oedd wedi’u datblygu oherwydd materion yngl?n â’r safle a nododd yr angen brys i ddatblygu cynigion pellach i wella’r amodau yn yr ysgol. 

 

Nododd y Prif Weithredwr bwynt penodol o ran cyflwr y to gan atgoffa’r Pwyllgor bod gan yr ysgol y dewis i ddefnyddio ei gyllidebau dirprwyedig i wneud gwaith atgyweirio cyn i fân atgyweiriadau fynd yn rhai sylweddol sydd angen ymyrraeth gan yr AALl.   Ar y mater penodol yngl?n â’r strategaeth moderneiddio ysgolion, ac yn fwy penodol Ysgol Uwchradd Dewi Sant Saltney, cytunodd y Prif Weithredwr i gyfeirio’r mater at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.

 

O dan Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, gofynnodd y Cynghorydd Sam Swash pam nad oedd cyfeiriad at y ddeddfwriaeth sydd ar fin dod i rym ar gynghorau yn sefydlu eu cwmnïau bysiau trefol eu hunain wedi’i gynnwys yn y camau gweithredu ar gyfer yr is-flaenoriaeth Dewisiadau Teithio Llesol a Chynaliadwy.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw wybodaeth bellach ar y newidiadau wedi dod i law eto gan Lywodraeth Cymru.   Cytunodd y gellir cynnwys rhywfaint o gyfeiriadau ac y byddai’n cyfeirio’n ôl at y Prif Swyddog.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol gan y Cadeirydd i’w cyfeirio at y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol a’r Cabinet:

 

·         Adolygu’r rhesymeg dros symud yr is-flaenoriaethau ar Eiddo Gwag, Ynni Adnewyddadwy a Gwario Arian er Budd Sir y Fflint.

·         Tlodi Incwm - ystyried amserlenni’r camau gweithredu, yn enwedig pwynt bwled rhif 7 ar wneud y mwyaf o’r hawl i fudd-dal.

·         Tlodi Plant - egluro sut y gellir rheoli a mesur canlyniadau lle defnyddir cyllid grant allanol.

·         Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd - os ellir ystyried bod y geiriad diwygiedig i sicrhau bod digartrefedd “yn brin, byr ac anghylchol” yn gostwng y targed hwnnw. 

·         Cyngor Di-garbon Net - ystyried a ddylid defnyddio’r geiriad ar gyfer camau gweithredu sy’n “ganolog i adferiad Covid-19” ar gyfer y Cynllun pum mlynedd hwn.

·         Addasu Newid Hinsawdd - ymholiad yngl?n â sut y gellir rheoli a mesur Rheoli Perygl Llifogydd os byddai’r gwasanaeth hwn yn cael ei roi i ddarparwr allanol a hefyd dim sôn am brosiectau ynni adnewyddadwy.

·         Cysylltedd Trafnidiaeth - anghytuno gyda’r ail bwynt bwled ar gefnogi’r gwaith o sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

·         Byw’n Annibynnol - eglurder o ran sut y gellir mesur bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

·         Diogelu - cwestiynu’r cyfnod hir i baratoi at weithredu’r gweithdrefnau Trefniadau Amddiffyn Rhyddid newydd.

·         Ymgysylltiad a Chyflawniad Addysgol - ystyried dyddiad targed cynt i ddatblygu dewisiadau i gefnogi’r nifer cynyddol o ddisgyblion sy’n cael trafferth ymgysylltu ag addysg oherwydd problemau iechyd meddwl.

·         Pobl - egluro a yw gweithredu model cyflog newydd sy’n cydymffurfio ac yn gynaliadwy erbyn mis Hydref 2023 yn golygu nad yw’r model presennol yn cydymffurfio.

 

Rhan 2 o Gynllun y Cyngor:

·         Tlodi - Tlodi Incwm a Thlodi Tanwydd - nid yw rhai o’r targedau ar gyfer 2023/24 yn dangos gwelliant o’r data sylfaenol ar gyfer 2021/22.

·         Tai Fforddiadwy a Hygyrch - Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd a Thai Cymdeithasol - ni ddangosir unrhyw welliannau yn y targedau ar gyfer 2023/24.

·         Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd - Lliniaru Ffosffadau - egluro sut gallai’r Cyngor ddylanwadu ar ganlyniadau uwchraddio gwaith trin d?r gwastraff yr Wyddgrug a Bwcle o ystyried rhan sefydliad allanol.

·         Economi - Is-flaenoriaeth Busnes - lleihad sylweddol mewn targedau.

·         Lles Personol a Chymunedol - Byw’n Annibynnol a Diogelu - nid yw rhai o’r targedau ar gyfer 2023/24 yn dangos gwelliant o’r data sylfaenol ar gyfer 2021/22.

·         Addysg a Sgiliau - Ymgysylltiad a Chyflawniad Addysgol ac Amgylcheddau Dysgu - nid yw’r targedau yn dangos gwelliant.

·         Addysg a Sgiliau - Cyfleoedd Dysgu Digidol - ni osodwyd targedau ar gyfer rhai mesurau cyflawniad.

·         Addysg a Sgiliau - Darpariaeth Addysg Arbenigol - ni nodwyd unrhyw fesurau cyflawniad.

·         Cyngor sydd wedi’i Reoli’n Dda - Pobl - targed is ar gyfer prentisiaethau gyda chanlyniadau cadarnhaol.

·         Cyngor sydd wedi’i Reoli’n Dda - Digidol - dylai’r targed ar gyfer y canran o alwadau a atebwyd i’r Ganolfan Gyswllt gorfforaethol gyd-fynd â’r geiriad yn y mesur cyflawniad.

 

Ar yr is-flaenoriaeth ar gyfer targedau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), cyfeiriodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson at y risg cysylltiedig ar gynnydd araf gyda’r Cynllun Datblygu Strategol yn methu â gosod y cyd-destun ar gyfer CDLl 2.   Cwestiynodd pam nad oedd y gwaith ar ddatblygu’r ail CDLl wedi’i adlewyrchu yng Nghynllun y Cyngor hwn, yn enwedig o ystyried y gwaith sylweddol sydd ynghlwm ag ef.

 

Nododd y Prif Weithredwr mai dim ond yn ddiweddar y cafodd y CDLl ei fabwysiadu gan y Cyngor ac y byddai angen i gynnydd gyda CDLl 2 ystyried y cysylltiadau â’r Cynllun Datblygu Strategol.   Cytunodd i gyfeirio’r mater penodol hwn o fewn y cynllun i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Economi a’r Amgylchedd) i’w ystyried.

 

Oherwydd y nifer o sylwadau a wnaed, cynigodd y Cadeirydd ddiwygiad i’r argymhelliad ac fe’i heiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor, yn amodol ar y sylwadau, yn derbyn ac yn nodi dogfennau Rhan 1 a Rhan 2 o Gynllun y Cyngor 2023-28 sy’n amlinellu’r camau gweithredu, mesurau a risgiau sy’n tanategu Blaenoriaethau, Is-flaenoriaethau ac amcanion Lles Cynllun y Cyngor 2023-28; a

 

(b)       Bod y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu cyfeirio at y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol a’r Cabinet i’w hystyried.

Dogfennau ategol: