Agenda item

Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28

Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ar gynnwys drafft Cynllun y Cyngor 2023-28, Rhan 1 a Rhan 2, ar gyfer adolygiad ac adborth cyn ei gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndirol ac eglurodd fod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer tymor 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd.  Roedd strwythur y Cynllun yn cynnwys saith blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol.  Roedd y saith blaenoriaeth yn cymryd golwg hir dymor ar adfer, prosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf.  Bydd Cynllun y Cyngor 2023-28 yn cael ei gyhoeddi mewn fformat tebyg i’r blynyddoedd blaenorol, gan nodi camau gweithredu gyda’r nod o gyflawni’r amcanion lles, blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau.  Bydd materion/risgiau cenedlaethol a rhanbarthol a all effeithio ar gyflawniad y blaenoriaethau hynny yn cael eu hadnabod a’u monitro.  Bydd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn cael ei hystyried gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau darpariaeth lawn o Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2023-28 a’i fesurau a’u targedau.

 

Wrth gyd-gyflwyno’r adroddiad, gwnaeth y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) sylw ar strategaethau hirdymor, dyheadau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a phwysleisiodd fod y Cynllun yn cymryd golwg hirdymor ar adferiad dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Siaradodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi o blaid Cynllun y Cyngor a dywedodd ei fod yn ddogfen weledol a oedd yn cefnogi gwaith y Cyngor hyd at 2028 a llongyfarchodd y Swyddogion ar eu gwaith i ddatblygu’r Cynllun.  Tynnodd sylw at bwysigrwydd yr is-flaenoriaeth newydd o fewn Cynllun y Cyngor i gomisiynu adolygiad data ar gyfer Sir y Fflint gwledig a chynnal ymgynghoriad cymunedol i ddeall anghenion cymunedau gwledig yn well erbyn Mawrth 2024.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Atodiad 1 -Trosolwg o’r Amcanion Lles, Blaenoriaethau, Is-flaenoriaethau a’u diffiniadau, a gwnaeth sylw ar y blaenoriaethau canlynol: lliniaru ffosffad, cyngor di-garbon net, ffyniant bro, adfywio gwledig ac adfywio canol trefi.  Hefyd cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at Atodiad 2, yr is-flaenoriaeth i leihau diweithdra, a’r diffiniad - gweithio gyda’n partneriaid i gefnogi unigolion i gael cyflogaeth.  Trwy wneud sylw ar y camau cyflawni, gofynnodd a oedd y diffiniad yn gymwys i holl unigolion neu grwpiau dan anfantais yn unig. 

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r cwestiynau a phwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Peers.  Eglurodd y byddai adroddiad i ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd yn ymwneud â lliniaru ffosffad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Gr?p Llywio Cynllunio yn y dyfodol.  Cyfeiriodd at rôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd a dywedodd fod cynllun gweithredu wedi cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r angen i gyflawni carbon niwtral erbyn 2030 a gallai gael ei ddarparu i’r Aelodau pe dymunent.  Gan gyfeirio at y cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Peers ar dynnu’r Ffyniant Bro, eglurodd y Prif Swyddog nad oedd dyfodol Ffyniant Bro yn hysbys ond gallai prosiectau gael ei halinio pe byddai cyllid ar gael.  Hefyd ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Peers o ran adfywiad gwledig a lled-wledig, adfywiad canol trefi, adeiladau gwag a meysydd parcio, a gwnaeth sylw ar y gwaith a oedd yn digwydd ar y cynlluniau ‘creu lleoedd’.  

 

Mewn perthynas â chwestiwn arall gan y Cynghorydd Peers ar flaenoriaeth yr Economi yn Atodiad 2; is-flaenoriaeth i leihau diweithdra, dywedodd y Prif Swyddog fod y cam cyffredinol yn gymwys i bawb ond roedd blaenoriaeth ar gyfer grwpiau dan anfantais a dywedodd y byddai’r pwynt a wnaed gan y Cynghorydd Peers yn cael ei gydnabod wrth adolygu drafft Cynllun y Cyngor. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) at gludiant cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig a phwysleisiodd y byddai adroddiad ar y Strategaeth Gludiant Integredig yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 16 Mai, ac wedi’i gynnwys fel is-flaenoriaeth yn Atodiad 1.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Mike Peers a Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn cefnogi dogfennau Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 sy’n amlinellu’r camau gweithredu, y mesurau a’r risgiau sy’n sail i Flaenoriaethau, Is-flaenoriaethau ac amcanion Lles Cynllun y Cyngor 2023-28.

 

Dogfennau ategol: