Agenda item

Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28

Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Gynllun y Cyngor 2023-28.  Dywedodd fod adolygiad llawn wedi'i gynnal i sicrhau priodoldeb a pherthnasedd y blaenoriaethau, yr is-flaenoriaethau a’r amcanion lles wrth symud ymlaen.  Roedd hwn yn cynnwys adolygiad o Gynllun cyfredol y Cyngor 2022-23 i bennu:

 

·                Camau blaenoriaeth a fydd yn parhau o 2023 ymlaen ar gyfer sylw parhaus;

·                Camau blaenoriaeth y gellir eu tynnu gan eu bod nhw wedi’u cwblhau neu’n weithredol (mynd yn eu blaen yn ôl yr arfer); a

·                Meysydd blaenoriaeth, camau gweithredu a mesurau newydd sy'n dod i'r amlwg ar gyfer 2023-28

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2023-28 sy'n berthnasol i'r Pwyllgor wedi'u hamlinellu a'u hatodi yn Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y mesur ar gyfer gostwng nifer y gwaharddiadau parhaol neu waharddiadau cyfnod penodol fel y dangosir ar dudalen 50 yr adroddiad a chwestiynodd bod cynnydd i’w weld o ran y targed o'r data sylfaenol.    Mewn ymateb i hyn, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y gwahaniaeth rhwng y data sylfaenol a'r targed oherwydd iddo gael ei gofnodi yn 2021/22 yn ystod cyfnod pan nad oedd data’n cael ei gasglu o ganlyniad i’r pandemig.  O ganlyniad i’r pandemig bu cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc a oedd yn cael anhawster cynnal eu presenoldeb yn yr ysgol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Parkhurst o ba rif y gostyngodd y niferoedd.  Os nad oedd y llinell sylfaen yn briodol o ganlyniad i’r pandemig, beth oedd niferoedd y llinell sylfaen bresennol.  Mewn ymateb i hyn dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) nad oedd ganddi'r ffigyrau cyfredol wrth law ond y byddai'n fodlon rhoi’r wybodaeth ar ôl y cyfarfod. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie bod adroddiad ar waharddiadau o’r ysgol i fod i gael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Gofynnodd a allai'r adroddiad gynnwys yr hyn yr oedd ysgolion yn ei wneud a pha gyfleusterau ychwanegol oedd yn cael eu cyflenwi.  Credai fod hwn yn fater ehangach oherwydd bod ysgolion wedi newid sut maen nhw’n gweithio er mwyn effeithio ar nifer y gwaharddiadau parhaol neu eu lleihau nhw, a oedd yn amlygu pa mor fawr oedd y broblem hon.

 

            Mewn ymateb i hyn, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) at y troednodyn a oedd yn nodi bod y ffigur hwn wedi ystyried y sefyllfa cyn Covid o ran nifer y gwaharddiadau.  Dywedodd hi y byddai adroddiad manwl yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mai a fyddai'n amlinellu'r dulliau a'r systemau newydd yr oedd yr awdurdod lleol wedi'u mabwysiadu.  Byddai’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn mae'r ysgolion yn ei wneud fel addasiadau i'r cwricwlwm, eu cynigion o ran modelau amgen a gwaith ar draws y Portffolio gyda'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaethau Ieuenctid. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd David Mackie fod y darpariaethau ychwanegol yr oedd eu hangen yn gostus iawn i bob ysgol yr oedd eu cyllidebau dan bwysau. Gofynnodd a oedd y cyfleusterau ychwanegol yn debygol o barhau mewn ysgolion wrth ystyried eu cyllidebau.  Mewn ymateb i hyn, gwnaeth y Prif Swyddog gydnabod yr heriau yn ymwneud â chyllidebau ysgolion a dywedodd fod ysgolion yn parhau i roi anghenion eu dysgwyr yn gyntaf wrth wneud penderfyniadau. Cafwyd sgil-effaith sylweddol ar y Portffolio hefyd oherwydd pan nad oedd pobl ifanc bellach yn yr ysgol, yr oedd cyfrifoldeb statudol yn dal i fod o ran gwneud darpariaeth briodol ar eu cyfer nhw.  Roedd y pwysau hwn o ran costau yn cael ei reoli o fewn y Portffolio a chroesawodd hi unrhyw arian grant gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cydnabod bod problemau yn dal i fod ar ôl y pandemig a gwnaeth y Portffolio ddefnydd effeithiol o'r cyllid hwnnw pan fyddai'n bosibl. 

 

Cafodd yr argymhelliad, sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’i eilio gan y Cynghorydd Carolyn Preece.                         

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi dogfennau Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 sy’n amlinellu’r camau gweithredu, y mesurau a’r risgiau sy’n sail i flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles Cynllun y Cyngor 2023-28.

 

Dogfennau ategol: