Agenda item

Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2023/24 - Y Cam Cau Olaf

Pwrpas:        I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2023/24 ar argymhelliad y Cabinet.

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yn cynnwys yr argymhellion gan y Cabinet i'r Cyngor bennu Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor sy’n gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2023/24.

 

Gosododd y Cynghorydd Bernie Attridge gynnig i atal Rheolau Sefydlog i ganiatáu’r Cynghorydd Richard Jones i siarad am fwy na’r pum munud a ganiateir er mwyn cyflwyno cyllideb amgen, gan fod y cais i rannu cyflwyniad sleidiau ar hyn wedi’i wrthod. Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

Yn dilyn cyngor ar y cynnig gweithdrefnol gan y Prif Swyddog (Llywodraethu), dywedodd y Cadeirydd nad oedd hi’n caniatáu ymestyn yr amser siarad, fel yr oedd hi wedi dweud o’r blaen, ac y byddai'r cynnig yn mynd ymlaen i bleidlais.

 

Wrth siarad yn erbyn y cynnig, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts y bu cyfleoedd i Aelodau gyflwyno sylwadau drwy gydol y broses gyllidebol, heb unrhyw gyfyngiadau ar yr amser siarad.

 

Wrth ddefnyddio ei hawl i ymateb, galwodd y Cynghorydd Attridge am ganiatáu i Aelodau eraill a oedd yn bresennol i siarad ar y mater.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd modd cyflwyno sylwadau yn gynharach yn y broses gan nad oedd y gyllideb wreiddiol wedi'i darparu bryd hynny.  Gofynnodd felly fod y ddwy gyllideb gael eu hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Gofynnwyd i'r aelodau bleidleisio yngl?n ag a ddylid derbyn y cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i'r Cynghorydd Jones siarad am y gyllideb amgen am fwy na phum munud.  O’i roi i bleidlais, gwrthodwyd y cynnig.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw a Chaffael, gyflwyniad manwl yn seiliedig ar yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn gynharach yn y dydd, a oedd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Gosod cyllideb gytbwys a chyfreithlon

·         Y daith hyd yma...

·         Newidiadau i’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2023/24

·         Gofyniad cyllidebol ychwanegol 2023/24

·         Datrysiadau Cyllidebol 2023/24

·         Treth y Cyngor

·         Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol

·         Risgiau Agored

·         Cronfeydd wrth gefn

·         Barn Broffesiynol a Sylwadau i Gloi

·         Edrych i’r Dyfodol

·         Y Camau Nesaf ac Amserlenni

 

Roedd yr adroddiad yn nodi nifer o newidiadau ers y sefyllfa ym mis Ionawr, gan arwain at ofyniad cyllidebol ychwanegol terfynol o £37.098 miliwn ynghyd â chanlyniad y gwaith ar yr amrywiaeth o ddatrysiadau cyllidebol arfaethedig sydd ar gael i alluogi’r Cyngor osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2023/24.  Ar sail hynny, yr oedd angen cynnydd blynyddol cyffredinol o 3.99% ar Dreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor a 0.96% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth y Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol (GwE).  Roedd hyn yn cyfateb i gynnydd cyffredinol o 4.95% a roddodd arenillion ychwanegol cyffredinol o £5.622 miliwn yn 2023/24.  Roedd data cymharol yn awgrymu bod y cynnydd arfaethedig hwn ar gyfer Treth y Cyngor yn Sir y Fflint ychydig yn is na chyfartaledd cyffredinol Cymru ar hyn o bryd.

 

Tynnwyd sylw at nifer o risgiau agored sylweddol ar gyfer 2023/24 yn cynnwys galw cynyddol am y gwasanaeth digartrefedd a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn ogystal â risgiau newydd fel y gosb ailgylchu gwastraff posibl, pwysau chwyddiant parhaus a disgwyl am gadarnhad ar gyfer rhai grantiau penodol.

 

Roedd y wybodaeth ddiweddaraf am y cronfeydd wrth gefn yn cynnwys y sefyllfa ddiweddaraf â’r Gronfa Argyfwng a’r rhestr o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a neilltuwyd ar gyfer ymrwymiadau a risgiau y gwyddys amdanynt, gan nodi bod gan Sir y Fflint un o’r cronfeydd wrth gefn isaf yng Nghymru.  O ran cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi, yr oedd casgliad proses y Cynllun Datblygu Lleol wedi arwain at ychwanegu rhagor o arian at y Cronfeydd Wrth Gefn a ddaeth â'r cyfanswm hwnnw i £6.591 miliwn.  Er bod y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn argymell y dylid cynnal lefel sylfaenol y cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2023/24, dywedodd y dylai hyn gael ei adolygu ar gyfer cyllideb 2024/25 i ddiogelu rhag risgiau agored ac o ystyried y setliadau mynegol is ar gyfer 2024/25 a 2025/26.

 

Cynigiwyd y saith argymhelliad yn yr adroddiad o'r Cabinet i'r Cyngor gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts, a roddodd gefndir i'r cynigion.  Gwnaeth ddiolch i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru (LlC) am effaith gadarnhaol y cyllid canlyniadol sydd wedi’i gynnwys yn rhan o’r Setliad Dros Dro a dywedodd fod yr adroddiad yn adlewyrchu casgliad proses gyllidebol gynhwysfawr yn cynnwys pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Ac yntau’n Aelod Cabinet Cyllid, eiliodd y Cynghorydd Paul Johnson y cynnig a dywedodd fod yr adroddiad yn cynrychioli gwaith sylweddol a llawer o benderfyniadau anodd.  Wrth gyfeirio at risgiau parhaus ar gynnydd mewn chwyddiant a chostau ynni, ailadroddodd bwysigrwydd cynnal lefelau digonol o gronfeydd wrth gefn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Jones welliant yn ddewis arall yn lle cam clo terfynol y gyllideb refeniw yr oedd wedi’i gynnig. Gwnaeth y Cynghorydd Attridge ei eilio.

 

Ar yr adeg hon yn y cyfarfod, gwnaeth y Cadeirydd gytuno i ohiriad er mwyn caniatáu i'r Aelodau ystyried y gyllideb ddiwygiedig yr oedd wedi'i dosbarthu.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Jones y gwelliant fel a ganlyn:

 

Dewisiadau o ran gostyngiadau nad ydynt ar gael yn y gyllideb amgen:

Gostyngiad yng nghontract ariannu NEWydd ar gyfer prydau ysgol gynradd

Cynnydd mewn prisiau parcio ceir

Cyflwyno prisiau parcio ym mhob maes parcio arall y Cyngor

Cyflwyno goleuadau stryd sydd ymlaen am ran o'r nos mewn ardaloedd preswyl

Cynllun hyfforddai prentisiaeth - tynnu cyllid yn ôl

Cael gwared ar y pwysau am Gynllun Trwyddedu ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth

Prentisiaethau Modern - gostyngiad yn y cohort

Llai o oriau yng Nghanolfannau’r Wyddgrug a Bwcle yn Cysylltu

£

19,000

187,000

35,000

18,000

35,000

140,000

 

72,000

60,000

 

566,000

Dewis ychwanegol ar gael yn y gyllideb amgen:

Gofal cartref

 

150,000

£566,000 - £150,000 = £416,000 o gyllid ychwanegol ei angen

 

 

Roedd y cyllid ychwanegol yr oedd ei angen drwy ddileu arbedion effeithlonrwydd portffolio a’r eitem ychwanegol fel a ganlyn:

 

·         Adolygiad Actiwaraidd Bob Tair Blynedd o’r Gronfa Bensiwn - cyfraniad o £2.90 miliwn ar gyfer 2023/24, gan adael unrhyw swm sy’n weddill ar gyfer y ddwy flynedd nesaf (£2.65 miliwn yn y gyllideb wreiddiol)

·         Cyllideb ysgolion - gostyngiad o 3.3% mewn cyllidebau dirprwyedig ysgolion (gostyngiad o 3% yn y gyllideb wreiddiol)

·         Treth y Cyngor - cynnydd blynyddol o 4.8% (4.95% yn y gyllideb wreiddiol)

 

Wrth gydnabod yr heriau o ran creu cyllideb gytbwys yn gyfreithiol, dywedodd y Cynghorydd Jones fod y gyllideb amgen hon yn lleihau’r risg i bortffolios ac yn darparu datrysiad tecach a fyddai’n lleihau’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor ac yn diogelu Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu, y stryd fawr a phrentisiaethau yn ogystal â diogelwch trigolion.  O ran y gofyniad cyllidebol ychwanegol yn adroddiad y Cabinet, tynnodd sylw at gyfraniad ardoll y Cyngor i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru y dywedodd y gallai fod wedi’i ddefnyddio mewn mannau eraill er budd trigolion Sir y Fflint.

 

Gan gefnogi'r gwelliant, siaradodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn erbyn cynyddu prisiau parcio ceir a lleihau oriau Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

 

Er bod y Cynghorydd Bill Crease yn cydnabod yr angen am ostyngiadau ar draws yr holl bortffolios, dywedodd y byddai'r manteision a oedd yn deillio o’r gyllideb amgen yn helpu i ddiogelu prentisiaethau a masnachwyr y stryd fawr.

 

Tynnodd y Cynghorydd Helen Brown sylw at yr effaith y byddai cynyddu prisiau parcio yn ei gael ar drigolion.  Mynegodd ei siom nad oedd y gr?p gwrthblaid mwyaf wedi cael cyfle i gyflwyno ei gyllideb amgen yn llawn.

 

Roedd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yn teimlo fod y gyllideb wreiddiol yn cael ei harwain gan swyddogion ac nad oedd yn ystyried yr effaith ar drigolion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carol Ellis at y ffaith nad oedd Sir y Fflint wedi dyrannu’r cyllid fesul pen yn deg yng nghyd-destun pob awdurdod yng Nghymru.  Aeth ymlaen i godi pryderon am effaith y cynnydd ym mhrisiau parcio ar ganol trefi ac effaith lleihau oriau Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu ar drigolion.

 

Mynegodd y Cynghorydd Mike Peers bryderon nad oedd cofnod o'r sylwadau a godwyd yn ystod ymgynghoriad â phwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar leihau costau ar gael. Holodd ynghylch y tanwariant o £0.445 miliwn yn y portffolio Cynllunio a nodwyd yn flaenorol yn bwysau ac aeth ymlaen i ddweud bod y gyllideb amgen yn diogelu gwasanaethau o'r gwerth mwyaf i drigolion a'i fod wedi awgrymu newid oriau agor Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn yr Wyddgrug a Bwcle bob yn ail.

 

I gefnogi'r gyllideb amgen, tynnodd y Cynghorwyr Debbie Owen, Glyn Banks a Dale Selvester sylw at bwysigrwydd cadw Prentisiaethau Modern tra gwnaeth y Cynghorydd Roz Mansell ddadlau yn erbyn cael gwared ar y pwysau am y cynllun Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge fod gwaith sylweddol wedi'i wneud ar y gyllideb amgen ac yr oedd yn teimlo y dylai'r un amser fod wedi'i neilltuo i'w chyflwyno â'r gyllideb wreiddiol. Disgrifiodd Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn wasanaeth ‘blaenllaw’ na ddylid rhoi straen arno. Gofynnodd am bleidlais wedi’i chofnodi, a gwnaeth y nifer gofynnol o Aelodau gefnogi.

 

Wrth siarad o blaid y gyllideb wreiddiol, dywedodd y Cynghorydd Simon Jones mai ychydig iawn o arian y byddai’n cael ei arbed bob blwyddyn o ganlyniad i’r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor o’i gymharu â’r gyllideb wreiddiol.  Gwnaeth hefyd ddadlau yn erbyn y gostyngiad ychwanegol yng nghyllidebau dirprwyedig ysgolion o ystyried y pwysau presennol ar ysgolion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Teresa Carberry nad oedd rhannu cyllideb amgen ar y cam olaf hwn yn caniatáu amser ar gyfer rhoi ystyriaeth lawn, a mynegodd bryderon penodol ynghylch y byddai’r gostyngiad ychwanegol arfaethedig yng nghyllidebau ysgolion dirprwyedig yn ychwanegu at y pwysau sylweddol mewn ysgolion o ganlyniad i’r pandemig.  A hithau’n Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, dywedodd fod yr arbedion effeithlonrwydd portffolio wedi'u derbyn ac ni wnaethpwyd unrhyw sylwadau ar y pryd.

 

Rhannodd y Cynghorwyr Tina Claydon a Paul Cunningham bryderon ynghylch cyflwyno’r gyllideb amgen yn hwyr, fel y gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill a alwodd am gynigion amgen i gael eu cyflwyno ar yr un pryd â’r gyllideb wreiddiol yn y dyfodol er mwyn galluogi’r ddau i gael eu hystyried yn llawn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman y dylai'r gr?p Annibynnol fod wedi cael yr un faint o amser â'r gyllideb wreiddiol i gyflwyno eu cynigion.

 

Wrth siarad o blaid y gyllideb wreiddiol, cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at yr amser a gymerwyd i baratoi a chyrraedd y cam olaf hwn o’r broses yn cynnwys ymgynghori ac adrodd ar y gwahanol gamau.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Arnold Woolley y dylai sylwadau’r Aelodau ynghylch prentisiaethau gael eu hystyried ar gyfer y dyfodol.  O ran y cynnydd arfaethedig i brisiau parcio, cyfeiriodd at yr effaith amgylcheddol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Carolyn Preece, a siaradodd yn erbyn y gyllideb amgen gan ddweud y byddai'n rhoi mwy o bwysau ar y sector addysg, ganmol proffesiynoldeb swyddogion drwy gydol proses y gyllideb. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod y gostyngiad mewn prentisiaethau yn y gyllideb wreiddiol yn adlewyrchu canran fach.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts y byddai unrhyw bryderon ynghylch prentisiaethau a godwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori wedi’u hystyried ac addawodd y byddai’r Cabinet yn edrych ar brentisiaethau ar fyrder ac yn adrodd yn ôl i’r pwyllgor perthnasol.

 

Fel y gofynnwyd, eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael mai'r gwahaniaeth rhwng cynnydd yn Nhreth y Cyngor o 4.8% o'i gymharu â 4.95% ar gyfer eiddo Band D fyddai £2.17 y flwyddyn neu 4c yr wythnos.

 

Fel Swyddog Adran 151, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybod i'r Aelodau am yr ystyriaethau angenrheidiol i ddod i benderfyniad o ran y gyllideb.  Cadarnhaodd y gofynnwyd am ei gyngor ar y gyllideb amgen cyn y cyfarfod a'i bod yn cynrychioli sefyllfa gyfreithiol a chytbwys pe bai'r Cyngor yn ei chymeradwyo.  Er bod swyddogion wedi rhoi cyngor ar y risgiau, cyfrifoldeb yr Aelodau oedd ystyried ac asesu'r effeithiau hynny.  Wrth sôn am yr effaith a’r risgiau o’r gyllideb amgen, dywedodd y byddai gostyngiad ychwanegol o £0.250 miliwn o adolygiad actiwaraidd y Gronfa Bensiwn yn golygu y byddai llai o arian ar gael i gyfrannu at arbedion effeithlonrwydd y flwyddyn nesaf, a fyddai’n cynyddu’r heriau o ganlyniad i setliad mynegol is ar gyfer 2024/25.  Er nad oedd hyn yn swm sylweddol yng nghyd-destun y gyllideb yn gyffredinol, byddai angen cael y swm o rywle arall.  O ran cyllidebau dirprwyedig ysgolion, dywedodd y byddai'r gostyngiad ychwanegol arfaethedig yn risg arall i'r sector. O ran effeithlonrwydd ychwanegol ar gostau gofal cartref, dywedodd fod y dewisiadau o ran lleihau costau a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2022 i gyd wedi’u hadolygu’n fanwl er mwyn sicrhau mai dewisiadau risg isel a chanolig yn unig yr oedd wedi’u cynnwys fel y rhai mwyaf ymarferol.  O ran cyfran amcangyfrifedig y Cyngor o gyllid canlyniadol addysgol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, nodwyd y byddai cyllid sy’n cael ei ddyrannu i ysgolion yn gostwng o £0.448 miliwn yn uwch na’r amcangyfrif (cyllideb wreiddiol) i £0.072 miliwn (cyllideb amgen) yn uwch na’r amcangyfrif.  Gofynnodd i'r Prif Swyddogion perthnasol am eu cyngor nhw ar effaith y cynigion amgen ar addysg a gofal cymdeithasol.

 

Fel Cyfarwyddwr Statudol Addysg, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y cydnabuwyd y byddai angen i ysgolion wneud eu rhan i gyflawni cyllideb gyfreithiol a chytbwys gan fod y rhan fwyaf o gyllideb y Cyngor yn mynd i ysgolion.  Yn ystod ymgysylltu helaeth â chynrychiolwyr ysgolion, mynegwyd pryderon ynghylch effaith gostyngiadau yn y gyllideb ar staff a dysgwyr, yn enwedig o ystyried effaith hirdymor y pandemig.  Ar sail hynny, argymhellodd yn gryf yn erbyn gwneud unrhyw ostyngiad arall i gyllidebau ysgolion sy’n fwy na 3% gan y byddai hyn yn gwaethygu'r heriau i’r sector. Dywedodd hefyd am oblygiadau posibl peidio ag ystyried effaith cyllid canlyniadol yn llawn ac unrhyw oedi wrth gyhoeddi cyllidebau ysgolion.  Cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod lefelau uchel o falansau ysgolion a gyhoeddwyd y llynedd, o ganlyniad i arian grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn gostwng yn unol â gofynion rheoliadol.  Byddai angen i ysgolion reoli eu cronfeydd wrth gefn yn ddoeth i gyflawni cyllidebau cytbwys a bydden nhw’n parhau i fod dan bwysau sylweddol.  Eglurwyd bod ysgolion wedi cael gwybod y byddai eu cyllidebau nhw’n gostwng rhwng 3-5% cyn cyhoeddi'r rhaglen â’r gostyngiad arfaethedig o 3%.

 

Fel Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd yn gallu cefnogi'r gostyngiad arfaethedig yng ngofal cartref yn y gyllideb amgen o ganlyniad i risgiau annerbyniol.  Cyfeiriodd at y cyfnod heriol iawn yn ystod cyfnod yr hydref a'r gaeaf pryd yr oedd pwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn ogystal ag ar ysbytai a darpariaeth gofal cartref.  Er bod y Cyngor wedi cynnal gwasanaethau mewnol yn ystod y cyfnod hwn, byddai unrhyw ostyngiad yn narpariaeth gofal cartref yn creu risgiau newydd, yn enwedig gan fod nifer o ddarparwyr cartrefi gofal annibynnol wedi cau eu busnesau yn ystod y cyfnod.

 

Wrth grynhoi, ymatebodd y Cynghorydd Richard Jones i rai o'r sylwadau a godwyd.  Eglurodd mai’r gostyngiad cynyddol yng nghyllideb yr ysgolion oedd £309,000 a bod y dewisiadau o ran gofal cymdeithasol yn cael eu graddio o ran risg yn oren/gwyrdd (canolig/isel) pan gafodd ei rannu ym mis Rhagfyr 2022.  O ran amseru, dywedodd nad oedd rhai o'r ffigurau ar gael tan yn ddiweddar a bod y gyllideb amgen, yr oedd y Swyddog Adran 151 yn ei hystyried yn ddilys, yn ceisio lleihau risgiau yn y portffolios a lliniaru yn erbyn rhagor o gynnydd, a rhoi gobaith i drigolion.  Ar sail hynny, cymeradwyodd y gyllideb amgen i'r Cyngor.

 

O'i roi i bleidlais wedi’i chofnodi, collwyd y diwygiad fel a ganlyn:

 

O blaid y diwygiad:

Mike Allport, Bernie Attridge, Glyn Banks, Pam Banks, Marion Bateman, Helen Brown, Steve Copple, Bill Crease, Jean Davies, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Carol Ellis, Chrissy Gee, Ian Hodge, Andy Hughes, Dennis Hutchinson, Richard Jones, Dave Mackie, Roz Mansell, Allan Marshall, Debbie Owen, Andrew Parkhurst, Mike Peers, David Richardson, Dale Selvester, Jason Shallcross, Linda Thew, Ant Turton, Roy Wakelam ac Antony Wren

 

Yn erbyn y diwygiad:

Sean Bibby, Chris Bithell, Gillian Brockley, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, Geoff Collett, Paul Cunningham, Ron Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Dave Hughes, Ray Hughes, Alasdair Ibbotson, Paul Johnson, Christine Jones, Simon Jones, Richard Lloyd, Gina Maddison, Billy Mullin, Hilary McGuill, Ryan McKeown, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Carolyn Preece, Ian Roberts, Dan Rose, Kevin Rush, Sam Swash and Linda Thomas ac Arnold Woolley

 

Ymatal:

Dim

 

Roedd y cynnig gwreiddiol wedi’i gynnig a’i eilio eisoes, a phleidleisiwyd arno a’i dderbyn fel a ganlyn:

 

1.         Bod y Cyngor yn nodi ac yn cymeradwyo'r gofyniad cyllidebol diwygiedig ychwanegol ar gyfer 2023/24;

 

2.         Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynigion terfynol ar gyfer y gostyngiadau yn y costau a fydd yn cyfrannu at y gyllideb;

 

3.         Bod y Cabinet yn argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys i'r Cyngor yn seiliedig ar y cyfrifiadau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad;

 

4.         Bod y Cabinet yn nodi’r risgiau agored y mae angen eu rheoli yn ystod y flwyddyn ariannol 2023/24;

 

5.         Bod y Cabinet yn argymell cynnydd blynyddol cyffredinol o 3.99% ar Dreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor a 0.96% ar gyfer cyfraniadau i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth y Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol (GwE)  - cynnydd o 4.95%;

 

6.         Bod y Cabinet yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo Treth y Cyngor ffurfiol gan ein bod ni bellach wedi cael gwybod am braeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint; a

 

7.         Bod y Cyngor yn nodi’r rhagolygon tymor canolig yn sail ar gyfer yr adolygiad nesaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo argymhellion y Cabinet, fel y manylir uchod, ar gyfer sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer 2023/24; a

 

(b)       Cymeradwyo lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 fel yr argymhellwyd gan y Cabinet.

Dogfennau ategol: